Creu Prydain Decach
Mae’r dudalen hon yn egluro beth i’w wneud os ydych chi am gyflwyno hawliad o wahaniaethu ar sail rhyw.
Os ydych chi’n dioddef gwahaniaethu oherwydd eich rhyw, mae gennych hawl i gyflwyno’ch hawliad i dribiwnlys cyflogaeth. I’r mwyafrif o bobl, yr opsiwn olaf yw hyn ac fe ddylech geisio datrys pethau’n fewnol gyda’ch cyflogwr yn gyntaf. Os ydych chi’n mynd ymlaen i gyflwyno hawliad, bydd yn fuddiol i chi ddangos eich bod wedi gwneud popeth o fewn eich gallu i ddatrys y broblem yn y gweithle. Os ydych chi’n teimlo’ch bod yn dioddef gwahaniaethu, mae’n syniad da cadw dyddiadur o ddigwyddiadau ac amseroedd digwyddiadau a manylion yr hyn a ddigwyddodd. Gallech geisio codi’r mater gyda’r rheolwr llinell uniongyrchol neu os mai ef/hi yw’r un sy’n achosi’r broblem, ewch at y rheolwr uwch eu pennau neu’ch adran Adnoddau Dynol os oes gennych chi un. Cysylltwch â’ch undeb neu gymdeithas staff am gymorth os oes gennych chi un.
Os nad ydych chi’n gallu datrys y broblem yn anffurfiol a’ch bod yn penderfynu mynd â phethau ymhellach, dylech ysgrifennu llythyr cwyno i’ch cyflogwr.
Ar ôl i chi anfon y gŵyn ysgrifenedig dylech, lle bo’n bosibl, gydymffurfio â gweddill gweithdrefn gwyno’ch cyflogwr cyn cyflwyno’ch hawliad. Dylai’ch cyflogwr drefnu cyfarfod i drafod eich cwyn. Mae gennych yr hawl i fynd â chynrychiolydd undeb llafur neu gydweithiwr y gallwch ymddiried ynddo gyda chi. Os nad yw’ch cwyn yn cael ei chadarnhau, mae gennych yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad a dylech ddefnyddio’r hawl hon. Dylech anfon eich cwyn cyn gynted â phosibl a chofio’r terfynau amser cyffredinol ar gyfer cyflwyno hawliad i’r tribiwnlys cyflogaeth a drafodir isod.
Cyn 6 Ebrill 2009, roedd yn orfodol yn y mwyafrif o achosion i ddefnyddio’r weithdrefn gwyno statudol i geisio datrys problem yn y gweithle cyn gwneud hawliad mewn tribiwnlys cyflogaeth. Ond ar y dyddiad hwn, cyflwynwyd gweithdrefnau newydd ar gyfer ymdrin â materion disgyblu, diswyddo a chwyno. Mae’r system newydd yn fwy hyblyg, ac yn rhoi mwy o bwyslais ar fecanweithiau datrys anghydfod amgen.
Mae cod ymarfer y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS) yn amlinellu egwyddorion yr hyn y dylai cyflogwr a gweithiwr cyflogedig ei wneud wrth geisio datrys problemau yn y gweithle. Nid yw’n ofynnol bellach i gyflogwyr a gweithwyr cyflogedig ddilyn camau gorfodol yn y broses gwyno, ond mae gan dribiwnlysoedd cyflogaeth bwerau dewisol bellach i addasu dyfarniadau hyd at 25% os yw cyflogwyr neu weithwyr cyflogedig wedi methu cydymffurfio â’r argymhellion yn y cod.
Am ragor o wybodaeth, neu os nad ydych chi’n sicr a yw’r system newydd yn gymwys i chi (er enghraifft, os digwyddodd yr achos o wahaniaethu cyn 6 Ebrill 2009), darllenwch y llyfryn Avoiding and resolving discipline and grievance issues at work (Pdf) neu darllenwch y canllawiau manwl ar wefan BERR.
Os ydych chi’n ystyried cyflwyno hawliad, gallech ddefnyddio ffurflen holiadur arbennig (SD74) i gasglu mwy o wybodaeth am eich cwyn a gofyn cwestiynau i’ch cyflogwr am y rhesymau dros y driniaeth a gawsoch. Gall yr holiadur eich cynorthwyo i benderfynu a ydych am gyflwyno hawliad. Rhaid ei anfon at y cyflogwr cyn pen 3 mis ar ôl dyddiad y gwahaniaethu honedig neu cyn pen 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y derbyniodd y tribiwnlys cyflogaeth eich cwyn. Gellir lawrlwytho’r holiadur o’r wefan hon neu gallwch chi archebu copi caled gan ein Llinell Gymorth. Am fwy o wybodaeth am sut i ddefnyddio’r holiadur, gweler sut i ddefnyddio’ch hawliau.
Os nad ydych chi’n gallu datrys eich cwyn gyda’ch cyflogwr ond nad ydych chi am gyflwyno hawliad mewn tribiwnlys, gallwch, o dan amgylchiadau penodol, ddefnyddio cynllun cymodi cyn hawliad ACAS. Ewch i Datrys Problem yn y Gweithle am ragor o wybodaeth.
Mae rhagor o wybodaeth am gymodi ACAS ar gael ar wefan ACAS.
Os ydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr ac am wneud cwyn, rhaid i chi anfon eich cwyn ar y Ffurflen Gais Tribiwnlys Cyflogaeth swyddogol (ET1) i’r tribiwnlys cyflogaeth agosaf at eich gweithle. Os ydych chi’n byw yn yr Alban, rhaid i chi anfon eich ET1 i Swyddfa Ganolog y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth (COET). Gallwch gael ffurflen ET1 gan y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd Cyflogaeth. Neu, gallwch lenwi a chyflwyno eich cais ar-lein ar wefan y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth. Gallwch gael mwy o wybodaeth am gyflwyno hawliad tribiwnlys yn sut i ddefnyddio’ch hawliau.
Os byddwch chi’n penderfynu cyflwyno cwyn, rhaid i chi wneud eich cwyn i’r tribiwnlys cyflogaeth cyn pen 3 mis (namyn diwrnod gwaith) o ddyddiad y gwahaniaethu. Ni ellir cofrestru cwynion ar ddydd Sadwrn, dydd Sul na gŵyl gyhoeddus, felly bydd angen i chi gyfrif yn ôl i’r diwrnod gwaith agosaf os bydd eich terfyn amser yn dod i ben ar un o’r diwrnodau hyn.
Peidiwch ag oedi cyn anfon eich hawliad hyd yn oed os ydych chi i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch neu’n disgwyl gweld a fydd eich undeb neu gorff arall yn eich cynrychioli. Os na fydd eich cwyn wedi’i datrys a bod y terfyn amser yn nesáu, cyflwynwch eich ET1 i’r tribiwnlys cyflogaeth. Gallech hefyd anfon llythyr ar wahân yn gofyn am beidio â rhestru eich achos ar gyfer gwrandawiad nes y byddwch yn gwybod canlyniad eich cwyn. Er bod yn rhaid i’r tribiwnlys ostwng eich iawndal o dan rai amgylchiadau os byddwch chi’n cyflwyno’ch cwyn cyn i’r weithdrefn ddod i ben, mae’n bwysicach eich bod chi’n cyflwyno’ch hawliad mewn pryd.
Efallai y bydd y tribiwnlys yn barod i ymestyn y terfynau amser os yw’n gyfiawn a theg i wneud hynny. Efallai y bydd yn ymestyn y terfyn amser, er enghraifft, os oeddech chi’n rhy sâl i anfon hawliad neu yn disgwyl i’ch cyflogwr gymryd rhyw gamau penodol. Mae’n dal yn werth gwneud hawliad ac egluro’n llawn ym mocs 7 ar y ffurflen ET1 (sy’n gofyn am wybodaeth ychwanegol) pam rydych chi wedi oedi, ond ni ddylech chi fyth ddibynnu ar hyn.
Mae rhai penderfyniadau achos trawsryweddol sydd wedi’u rhestru yn yr adran hon yn ymwneud ag enghreifftiau lle mae eithriad wedi’i wneud. Noder bod y rhain i gyd yn eithriadol gan fod y gyfraith wedi newid mewn rhyw ffordd berthnasol a oedd yn golygu bod yr ymgeisydd wedi cael y gallu i gwyno am y tro cyntaf. Mae’r un mathau o derfynau amser yn gymwys o dan yr amgylchiadau hyn, h.y. mae’n rhaid gwneud cais cyn gynted â phosibl, unwaith y bydd hi’n rhesymol i ddisgwyl i chi wybod bod y gyfraith wedi newid.
Weithiau mae gwahaniaethu parhaus yn cael ei drin fel ymddygiad parhaus. Os felly, ni fydd gwahaniaeth os bydd rhai digwyddiadau wedi digwydd dros 3 mis yn ôl. Ond, y peth mwyaf diogel i’w wneud yw cyflwyno eich hawliad cyn pen 3 mis o’r digwyddiad cyntaf i wneud yn siŵr bod pob digwyddiad yn dod o fewn y terfyn amser. Mae pob digwyddiad yn bwysig i ddangos patrwm o ymddygiad felly dylech gynnwys pob un ar yr ET1.
Mae tribiwnlys cyflogaeth yn llai ffurfiol na llys ynadon neu lys sirol yng Nghymru a Lloegr, neu lys siryf yn yr Alban, ond fel llys mae ganddo weithdrefnau a rheolau. Mae panel o dri aelod. Mae’r unigolyn â gofal, sef y cadeirydd, yn gyfreithiwr. Mae un o’r ddau arall yn gynrychiolydd sefydliad gweithwyr cyflogedig, a’r llall yn gynrychiolydd sefydliad cyflogwyr. Mae tribiwnlysoedd yn agored i’r cyhoedd felly gallwch weld beth sy’n digwydd trwy fynd i wrandawiad, ond gan fod y rhan fwyaf o hawliadau tribiwnlys yn ymwneud â diswyddo annheg, mae’n bosibl na fyddwch yn gweld achos o wahaniaethu ar sail rhyw. Gallwch gysylltu â’r swyddfa tribiwnlys i gael gwybod ar ba ddyddiadau y mae achosion gwahaniaethu ar sail rhyw yn cael gwrandawiad, ond beth bynnag fydd pwnc yr achos, mae’n ddefnyddiol cael gwybod yn gynnar sut beth yw tribiwnlys.
Pan fyddwch yn cyflwyno hawliad o wahaniaethu, mae’n rhaid i chi argyhoeddi’r tribiwnlys bod rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn. Bydd y sawl rydych chi’n dweud sydd wedi gwahaniaethu yn eich erbyn yn amddiffyn yr hawliad a cheisio perswadio’r tribiwnlys nad oedd neb wedi gwahaniaethu yn eich erbyn. Gydol y broses chi fydd yr ‘hawliwr’ a’ch gwrthwynebydd fydd yr ‘atebydd’. Gyda’ch gilydd, chi fydd ‘partïon’ yr hawliad.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd Cyflogaeth.
Diben mynd i dribiwnlys yw er mwyn penderfynu a yw eich cyflogwr wedi torri’r gyfraith. Os bydd tribiwnlys yn penderfynu o’ch plaid gall:
Fe welwch fod y broses lawer yn haws os byddwch chi’n penderfynu beth rydych chi’n gobeithio ei ennill wrth gyflwyno hawliad. Ydych chi am ymddiheuriad? Geirda teilwng? Cyfiawnder? Iawndal? Ydych chi am atal yr atebydd rhag gwahaniaethu yn erbyn pobl eraill?
Gall bod yn glir beth rydych chi’n gobeithio ei ennill eich helpu i baratoi eich hawliad. Bydd o help hefyd i chi benderfynu a ydych am dderbyn unrhyw gynnig o setliad neu beidio, yn hytrach na mynd i’r tribiwnlys.
Gall tribiwnlys orchymyn iawndal am y canlynol neu rai ohonynt:
Dim ond iawndal y gall tribiwnlys ei ddyfarnu; gall wneud argymhellion ond ni all orchymyn i chi gael eich gwaith yn ôl (oni bai eich bod hefyd yn cyflwyno achos o ddiswyddo annheg a bod hwnnw’n llwyddiannus. Mae’n bosibl weithiau i gael eich gwaith yn ôl mewn achos o’r fath), ac ni all orchymyn y cyflogwr i roi geirda y cytunwyd arno i chi.
Mae angen i chi fod yn glir ynglŷn â’r hyn yr hoffech ei weld yn digwydd cyn y gallwch benderfynu a ddylech dderbyn setliad neu fynd ymlaen i wrandawiad tribiwnlys. Mae’n bwysig cofio nad oes angen mynd â’ch achos yr holl ffordd i wrandawiad mewn tribiwnlys o anghenraid, er mwyn sicrhau eich hawliau. Os yw setliad yn gwneud i gyflogwr ailfeddwl ynglŷn â’i agweddau a newid ei arferion gwaith, efallai y byddwch chi’n teimlo eich bod wedi gwneud eich pwynt ac yn barod i setlo heb wrandawiad tribiwnlys.
Dyma rai posibiliadau y dylech eu hystyried:
Nid yw’n costio dim i gofrestru hawliad i’r tribiwnlys cyflogaeth ac os na fyddwch yn cyflogi cyfreithiwr i’ch cynrychioli, ni ddylai gostio llawer i chi. Gellir hawlio’r rhan fwyaf o’ch treuliau (megis teithio a cholli enillion) yn ôl gan y tribiwnlys.
Mae pob parti fel arfer yn ysgwyddo’u costau eu hunain o ran paratoi ar gyfer y gwrandawiad a chost unrhyw gynrychiolaeth gyfreithiol y maen nhw’n ei gyflogi, felly hyd yn oed os byddwch yn colli nid ydych yn debyg o orfod talu costau’r atebydd. Ar y llaw arall, mae gan y tribiwnlys y pŵer i ddyfarnu costau yn eich erbyn os byddwch yn ymddwyn ‘yn flinderus, yn ddifrïol, yn stwrllyd neu yn afresymol mewn ffordd arall’.
Gall y tribiwnlys hefyd ddyfarnu costau yn eich erbyn lle mae o’r farn mai camsyniad oedd cyflwyno’r achos (hy, nad oedd gan eich hawliad unrhyw obaith rhesymol o lwyddo). Efallai y gofynnir i chi dalu blaendal unrhyw bryd yn ystod yr achos os bydd y tribiwnlys yn penderfynu nad oes gan eich hawliad unrhyw obaith rhesymol o lwyddo.
Mae’n bosibl hefyd i’r tribiwnlys orchymyn i’r atebydd dalu costau i chi os byddan nhw’n ymddwyn yn flinderus, yn ddifrïol, yn stwrllyd neu’n afresymol mewn ffordd arall wrth amddiffyn yr achos.
Nid oes llawer o beryg i hawlwyr sydd â hawliad dilys y gellir ei ddadlau yn gyfreithiol, ac sy’n cynnal eu hawliad yn rhesymol, orfod talu unrhyw gostau. Am fwy o wybodaeth ac enghreifftiau lle gofynnir i’r naill barti neu’r llall dalu costau gweler sut i ddefnyddio’ch hawliau.
Mae gwrandawiadau tribiwnlys fel arfer ar agor i’r cyhoedd gan gynnwys y wasg. Gall tribiwnlys, o dan rai amgylchiadau cyfyngedig, wneud gorchymyn cyfyngu ar adroddiad. Mae hyn yn golygu na all y cyfryngau gyhoeddi’ch enw nac enwau’r atebwyr yn ystod gwrandawiad tribiwnlys. Mae’r gorchymyn hwn yn dod i ben fel arfer pan fo’r tribiwnlys yn dod i benderfyniad ac nid yw’r manylion na’r enwau bellach yn gyfrinachol.
Noder bod y mwyafrif o achosion arwyddocaol a oedd yn ymwneud â phobl drawsrywiol a chyflogaeth wedi cynnwys gwneud cais llwyddiannus am gadw enwau’r partïon dan sylw yn anhysbys. Gallwch ddweud pan fo hyn wedi digwydd gan fod llythyren wedi’i rhoi yn lle enw’r hawlydd yn nheitl yr achos (na fydd ag unrhyw gysylltiad â’r enw gwirioneddol).
Cyhoeddodd y cyn Gomisiwn Cyfle Cyfartal God Ymarfer ar wahaniaethu ar sail rhyw. Mae’r Cod yn rhoi canllawiau i gyflogwyr, undebau llafur ac asiantaethau cyflogaeth ar gamau y gellir eu cymryd i sicrhau cydraddoldeb rhwng menywod a dynion. Mae copi ar gael o dan Codau Ymarfer neu trwy’r llinell gymorth. Edrychwch a yw’r Cod yn trafod yr hyn rydych chi’n cwyno yn ei gylch. Os yw’r atebydd wedi torri’r cod, dylech dynnu sylw’r tribiwnlys at hyn.
Cyhoeddodd yr Adran Masnach a Diwydiant hefyd ganllawiau penodol ar ddyletswyddau cyfreithiol cyflogwyr yng ngoleuni Rheoliadau Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1999 a Deddf Cydnabod Rhyw 2004. Mae’r canllawiau ar gael o hyd ar wefan Swyddfa Cydraddoldeb y Llywodraeth.
Os ydych chi’n perthyn i undeb llafur gallwch ofyn am gymorth naill ai gan gynrychiolydd lleol yr undeb neu trwy gysylltu â swyddog llawn amser. Os yw’ch undeb yn cael ei gydnabod yn swyddogol yna bydd eich cyflogwr yn disgwyl i chi fynd at yr undeb. Dylai’ch undeb fod mewn sefyllfa i drafod ar eich rhan. Os ydych chi’n cael anhawster gyda chynrychiolydd lleol eich undeb llafur, cysylltwch â’r swyddog ardal neu ranbarthol a dylai ef neu hi allu’ch cynorthwyo. Os ydych yn cael unrhyw anhawster ar lefel ardal neu ranbarthol, cysylltwch â swyddog cyfle cyfartal cenedlaethol eich undeb trwy brif swyddfa’r undeb. O dan rai amgylchiadau efallai y bydd yr undeb yn trefnu cyfreithiwr i’ch cynrychioli.
Mae rhai Undebau wedi cyhoeddi taflenni cyngor penodol neu gyfarwyddyd polisi i gynorthwyo aelodau trawsrywiol neu drawsryweddol ac i sicrhau bod swyddogion lleol yn deall sut i’w cynorthwyo.
Dyma enghraifft o daflen gan UNSAIN: Bargaining for Transgender Workers’ Rights
Mae ACAS yn gorff annibynnol sydd â dyletswydd statudol i geisio datrys achosion sy’n ymwneud â hawliau cyflogaeth, ac mae ganddo wasanaeth cymodi.
Pan fyddwch wedi cofrestru eich hawliad gyda’r tribiwnlys cyflogaeth, bydd y tribiwnlys yn anfon copi o’ch ET1 i ACAS. Bydd eich hawliad yn cael ei roi i swyddog cymodi. Bydd y swyddog hwn yn cysylltu â chi a’r atebydd ac yn cynnig cymodi neu’n ceisio trafod setliad rhyngoch.
Os byddwch chi a’r atebydd yn barod i gymodi bydd y swyddog yn ceisio’ch cynorthwyo i ddod i setliad heb yr angen am wrandawiad tribiwnlys. Mater gwirfoddol yw cymodi ac felly gallwch chi a’r atebydd wrthod cymorth ACAS neu ddod â’r broses i ben ar unrhyw adeg.
Mae gan y swyddog cymodi ddyletswydd i fod yn ddiduedd ac annibynnol ac ni all weithredu fel cynrychiolydd ar ran y naill barti na’r llall. Mae staff ACAS yn derbyn hyfforddiant ar faterion trawsryweddol er mwyn sicrhau nad yw eu hamhleidioldeb mewn risg drwy unrhyw ddiffyg dealltwriaeth. Bydd y swyddog yn esbonio trefniadau’r tribiwnlys, y gyfraith berthnasol a’r ffordd y mae tribiwnlysoedd wedi ymdrin ag achosion tebyg yn y gorffennol.
Bydd y swyddog hefyd yn eich cynorthwyo i sefydlu ffeithiau’ch cwyn ac egluro’ch safbwyntiau. Bydd y swyddog yn esbonio eich safbwynt chi i’r atebydd, a safbwynt yr atebydd i chithau.
Nid gwaith y swyddog yw ffurfio barn ar eich achos, nac ychwaith i fynegi ei farn ei hun arno. Nid gwaith y swyddog yw cymeradwyo na hyd yn oed argymell unrhyw setliad penodol. Eich cyfrifoldeb chi a’r atebydd yw trefnu a chytuno ar amodau. Mae felly’n bwysig iawn fod gennych syniad clir o’r hyn yr ydych yn fodlon setlo arno a’ch bod wedi gwneud rhestr ar wahân o’r holl eitemau yr ydych yn hawlio iawndal amdanynt.
Os cytunwch ar setliad caiff yr amodau eu rhestru ar ffurflen o’r enw COT3. Mae hon yn eich rhwymo chi a’r atebydd yn gyfreithiol. Os nad ydych eisiau derbyn setliad, bydd eich achos yn mynd i dribiwnlys i gael gwrandawiad llawn.
Gall y Comisiwn:
Nid yw’r Comisiwn yn gallu rhoi dyfarniad cyfreithiol ar hawliad o wahaniaethu ar sail rhyw; dim ond y llysoedd all wneud hynny.
Mae ein hadran Defnyddio’ch hawliau yn rhoi canllawiau ar:
Am fwy o wybodaeth am gyflwyno achos i dribiwnlys cyflogaeth, cysylltwch â’r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd Cyflogaeth.
Gweler Cael Cyngor am fanylion sefydliadau eraill a ffynonellau cymorth:
Os oes gennych chi yswiriant cartref neu gerdyn credyd, mae’n syniad edrych ar eich polisi i weld a yw’n cynnwys yswiriant diogelwch cyfreithiol. Os felly, efallai y byddwch yn gymwys am gyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol drwy’ch polisi yswiriant.