Trawsryweddol: beth mae’r gyfraith yn ei ddweud

Amddiffyniadau ar gyfer pobl drawsrywiol yn y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw

Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw

Mae Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975 yn ei gwneud yn anghyfreithlon i wahaniaethu ar sail rhyw ym maes cyflogaeth, addysg a darpariaeth tai, nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau.

Rheoliadau Gwahaniaethu ar sail Rhyw (Ailbennu Rhywedd)

Ymestynnodd Rheoliadau Gwahaniaethu ar sail Rhyw (Ailbennu Rhywedd) 1999 y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw i’w gwneud yn anghyfreithlon i wahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd, ond ym meysydd cyflogaeth a hyfforddiant galwedigaethol yn unig.  Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i wahaniaethu ym maes addysg neu wrth ddarparu tai, nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau.  Fodd bynnag, mae rheoliadau dilynol (gweler isod) wedi mynd i’r afael â’r meysydd hyn ers mis Ebrill 2008.

Ym maes cyflogaeth a hyfforddiant galwedigaethol, mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn amddiffyn pobl y gwahaniaethir yn eu herbyn oherwydd eu bod:

  • yn bwriadu ailbennu eu rhyw
  • wrthi’n ailbennu eu rhyw
  • wedi ailbennu eu rhyw.

Diffinnir ailbennu rhywedd yn y rheoliadau fel “proses a gynhelir o dan oruchwyliaeth feddygol at y diben o ailbennu rhyw person drwy newid nodweddion ffisiolegol neu nodweddion eraill rhyw, ac sy’n cynnwys unrhyw ran o broses o’r fath”.  Mae hyn yn golygu nad oes yn rhaid i unigolyn fod wedi cael unrhyw driniaeth neu lawdriniaeth benodol i gael ei amddiffyn gan y gyfraith.  Y broses sy’n cyfrif.

Mae darpariaethau cyflogaeth y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn cwmpasu recriwtio, trosglwyddo, hyfforddi a dyrchafiad, mynediad i fuddion sy’n gysylltiedig â gwaith, cyfleusterau a gwasanaethau, diswyddo, ac unrhyw niwed arall.  Mae hefyd yn anghyfreithlon i gyflogwr roi cyfarwyddyd i rywun arall wneud rhywbeth gwahaniaethol – er enghraifft, dweud wrth asiantaeth gyflogi i beidio â chyflogi person trawsrywiol.  Mae pwysau i wahaniaethu hefyd yn anghyfreithlon – er enghraifft, gweithwyr cyflogedig sy’n bygwth peidio â gweithio os nad yw cyflogwr yn diswyddo rhywun sy’n ailbennu eu rhywedd.

Bydd unrhyw un sy’n cael ei drin yn llai ffafriol gan gyflogwr neu gorff hyfforddi galwedigaethol ar unrhyw un o’r seiliau uchod o’i gymharu â rhywun nad oes ganddo seiliau ailbennu rhywedd yn gallu cyflwyno hawliad o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw.

Erledigaeth

Mae gan bobl hawl i beidio â chael eu trin yn llai ffafriol o gymharu ag eraill oherwydd eu bod wedi ymddwyn mewn ewyllys da i fynnu eu hawliau o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw.  Bydd gennych sail ar gyfer hawliad erledigaeth os yw’ch cyflogwr yn eich trin yn llai ffafriol na gweithiwr cyflogedig arall oherwydd eich bod wedi cwyno am wahaniaethu ar seiliau ailbennu rhywedd; er enghraifft os yw’ch cyflogwr yn eich diswyddo neu’n gwrthod rhoi dyrchafiad i chi oherwydd eich cwyn.

Gwahaniaethu mewn hyfforddiant galwedigaethol

Ni ellir gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn pobl drawsrywiol sy’n gwneud cais am hyfforddiant galwedigaethol a ddarperir gan gyflogwyr neu sefydliadau hyfforddi, gan gynnwys y Cynghorau Hyfforddi a Menter a’u cyflenwyr (y Local Enterprise Companies yn yr Alban).  Ni chaiff cyrff o’r fath wahaniaethu’n anghyfreithlon yn eich erbyn wrth derfynu’ch hyfforddiant.  Mae hyn yn golygu mynediad cyfartal ar delerau cyfartal - a chyfle cyfartal i’w gwblhau.

Atebolrwydd Cyflogwyr a Gweithwyr Cyflogedig

Gall cyflogwyr gael eu dal yn gyfrifol am weithredoedd gwahaniaethol eu gweithwyr cyflogedig, oni bai bod y cyflogwr yn gallu dangos ei fod/bod wedi cymryd camau ymarferol resymol i atal y gweithiwr cyflogedig rhag gwneud y weithred neu’r gweithredoedd penodol.

Mae gweithwyr cyflogedig yn parhau’n atebol yn unigol am eu gweithredoedd gwahaniaethol eu hunain, hyd yn oed os oes posibilrwydd bod y sefydliad yn atebol hefyd.

Rheoliadau Gwahaniaethu ar sail Rhyw (Diwygio’r Ddeddfwriaeth) 2008

Ymestynodd Rheoliadau Gwahaniaethu ar sail Rhyw (Diwygio’r Ddeddfwriaeth) 2008 y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw i’w gwneud yn anghyfreithlon i wahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd wrth ddarparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau yn ogystal ag ym maes cyflogaeth a hyfforddiant galwedigaethol.

Yn dechnegol, mae’r rheoliadau’n gymwys i bobl sy’n bwriadu, sydd wrthi, neu sydd wedi ailbennu eu rhywedd yn unig fel yn yr adran flaenorol.  Fodd bynnag, mae darparwyr gwasanaethau yn llawer llai tebygol na chyflogwyr o wybod a yw unigolyn yn drawsrywiol neu’n drawsryweddol.  Efallai y camdybir bod rhai pobl yn drawsrywiol neu’n drawsryweddol hefyd.  Byddai gofyn iddynt yn gyfystyr ag aflonyddu.  Felly, mae’n arfer gorau trin pob cwsmer yn gyfartal a chyda pharch, sut bynnag y maent yn edrych neu os nad ydych yn siŵr o’u rhywedd.

Hawliau o dan y Ddyletswydd Cydraddoldeb Rhywiol

Cyflwynodd Deddf Cydraddoldeb 2006 y Ddyletswydd Cydraddoldeb Rhywiol, sy’n rhoi rhwymedigaeth ar gyrff cyhoeddus i roi sylw dyledus i’r angen i fynd i’r afael a dileu achosion o wahaniaethu anghyfreithlon yn erbyn ac aflonyddu ar bobl drawsrywiol ym maes cyflogaeth, meysydd cysylltiedig a hyfforddiant galwedigaethol (gan gynnwys addysg bellach ac uwch) ac wrth ddarparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau.

Defnyddir yr un diffiniad o ‘drawsrywiol’ yn y ddyletswydd cydraddoldeb rhywiol â’r diffiniad yn y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, ond argymhellir fel arfer da bod cyrff cyhoeddus yn gweithredu unrhyw ddarpariaethau ar gyfer pobl drawsrywiol i’r rhai hynny sy’n perthyn i’r diffiniad o drawsryweddol hefyd.

Deddf Cydnabod Rhyw 2004

Mae’r Ddeddf Cydnabod Rhyw yn rhoi cydnabyddiaeth gyfreithiol i bobl drawsrywiol yn eu rhyw newydd.
Os yw cais i’r Panel Cydnabod Rhyw yn llwyddiannus, i bob diben rhyw y person trawsrywiol yw ei ryw newydd a bydd yn derbyn tystysgrif cydnabod rhyw lawn (GRC).  Mae’r GRC yn caniatáu cyflwyno tystysgrif geni wedi’i haddasu sy’n adlewyrchu rhyw newydd yr unigolyn.

O dan amgylchiadau penodol, mae’r Ddeddf Cydnabod Rhyw yn gwahardd datgelu’r ffaith fod rhywun wedi gwneud cais am GRC neu ddatgelu rhyw rywun cyn derbyn y GRC.  Mae datgeliad o’r fath yn drosedd gyfreithiol ac yn destun dirwy.
Mae’r darpariaethau preifatrwydd yn berthnasol o dan y mwyafrif o amgylchiadau lle derbynnir y wybodaeth gan rywun sy’n gweithredu mewn cyd-destun swyddogol.  Mae’r eithriadau’n gyfyngedig iawn, felly dylid rhagdybio’n gyffredinol y bydd y gyfraith yn berthnasol os ydych chi’n gyflogwr, rheolwr neu gydweithiwr; neu os ydych chi’n gweithio i gorff swyddogol neu ddarparwr gwasanaethau.

Mae datgelu anghyfreithlon yn berthnasol i fynediad heb ei reoli i ffeiliau papur neu gyfrifiadurol yn ogystal â chyfathrebu llafar uniongyrchol.  Gall person trawsrywiol roi caniatâd i chi ddatgelu’r wybodaeth os yw’n penderfynu ei bod yn fuddiol gwneud hynny.  Fodd bynnag, mae’n rhaid i ganiatâd o’r fath fod yn eglur ac ni ellir ei ragdybio.

Yn gyffredinol, mae’n syniad da cytuno ar beth i’w wneud gyda gwybodaeth pan fo gweithiwr cyflogedig neu ddefnyddiwr gwasanaethau yn eich hysbysu ei fod wedi gwneud cais am Dystysgrif Cydnabod Rhyw, neu wedi derbyn un.  Yn aml, gall hyn olygu y bydd angen dinistrio ffeiliau sy’n datgelu gwybodaeth amhriodol, neu eu selio i’w defnyddio mewn achosion eithriadol penodol.

Cyfraith Hawliau Dynol

Mewn ambell i achos efallai y bydd pobl drawsrywiol neu drawsryweddol yn teimlo nad yw eu hawliau dynol yn cael eu parchu.  Am ragor o wybodaeth, ewch i Beth yw hawliau dynol? neu i ddeall sut mae gweithredu’ch hawliau ewch i Defnyddio’ch Hawliau Dynol.

back to top