Creu Prydain Decach
O dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw, mae gennych hawl gyfreithiol i beidio â dioddef aflonyddu rhywiol yn y gwaith. Mae’r adran hon yn esbonio eich hawliau ac yn gadael i chi wybod beth y gallwch chi ei wneud os ydych chi’n credu eich bod yn dioddef aflonyddu rhywiol.
Daeth rhai newidiadau i’r gyfraith ar aflonyddu rhywiol i rym ar 1 Hydref 2005. Mae’r adran hon yn cynnwys eich hawliau mewn sefyllfaoedd sy’n ymwneud ag aflonyddu rhywiol cyn ac ar ôl y dyddiad hwnnw.