Mae gennych ddwy ffordd o ddatrys y sefyllfa:
Efallai byddwch hefyd am ddefnyddio pobl eraill i helpu datrys y sefyllfa, megis gwasanaethau cymodi a chyflafareddu. ‘Datrysiad anghydfod amgenach’ yw’r enw am hyn yn aml, a chewch wybod mwy amdano yn y canllaw hwn.
Sicrhewch nad ydych chi’n gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn unrhyw un drwy’r modd rydych yn ymateb i gŵyn.
Er enghraifft:
Mae ymgeisydd anabl am swydd gydag anawsterau dysgu yn cwyno wrth gyflogwr am sylwadau a ddywedwyd wrtho yn ystod y broses recriwtio. Mae’r cyflogwr yn cymryd beth mae’r person anabl yn ei ddweud yn llai difrifol na’r hyn y mae’r person y cwynwyd amdano yn ei ddweud mewn ymateb. Os mai anabledd dysgu’r person anabl sydd wrth wraidd agwedd y cyflogwr, yna mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu anghyfreithlon.
Pe bai unrhyw un sy’n ymwneud â chwyn yn weithiwr anabl sydd angen addasiadau rhesymol i ddileu rhwystrau y byddent yn eu hwynebu fel arall wrth fod yn rhan o’r broses gwyno, mae’n rhaid i chi wneud y rhain. Gallwch ddarllen mwy am addasiadau rhesymol.
Efallai gallwch gael golwg ar y gŵyn a phenderfynu beth ei wneud cyn i’r gweithiwr ddewis cwyno’n ffurfiol.
Os mai’r modd rydych chi a’ch sefydliad yn gwneud rhywbeth yw testun y gŵyn, meddyliwch am ei newid.
Os mai’r ffordd y mae rheolwr neu gydweithwyr y person yn eu hymddwyn tuag ato yw testun y gŵyn. Cyn i bethau orfod troi’n ffurfiol, efallai byddai siarad yn anffurfiol â’r person neu’r bobl sy’n gysylltiedig yn helpu.
Bydd hyn ond yn bosibl os yw’r person a gwynodd yn fodlon ichi siarad yn anffurfiol â’r person arall.
Sicrhewch eich bod chi’n rhoi gwybod i’r gweithiwr am ganlyniad ei gwyn anffurfiol, fel arall, gallan nhw wneud gŵyn ffurfiol neu gyflwyno hawliad gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth.
Os yw gweithiwr yn gwneud cwyn ffurfiol, ‘achwyniad’ yw’r enw am hynny’n aml.
Gallwch ddarganfod am archwilio a thrin achwyniadau (a ydyn nhw’n perthyn i wahaniaethu neu faterion gweithle eraill) gan Acas. Mae manylion cyswllt Acas yn Ffynonellau pellach o wybodaeth.
Os nad yw eich gweithiwr yn fodlon â chanlyniad y broses cwyno, mae ganddo hawl i apelio.
Os ydych am gael help i ddatrys cwyn am wahaniaethu, gallwch weld os bydd y person sy’n cwyno yn fodlon i dderbyn yr hyn a elwir fel arfer yn ‘ddatrysiad anghydfod amgen’ neu ADR. Gydag ADR, ceisir cael ffordd o ddatrys y gŵyn heb gynnwys gwrandawiad tribiwnlys ffurfiol. Mae ADR yn cynnwys dulliau cyflafareddu a chymodi.
Gyda chwynion yn ymwneud â sefyllfaoedd gwaith, gall hyn ddigwydd:
Mae tri sefydliad gallai eich helpu gyda hyn:
Mae manylion ar sut i gysylltu â’r sefydliadau hyn yn Ffynonellau pellach o wybodaeth.
Bydd y camau a gymerwch yn dibynnu ar fanylion penodol yr achos a’i ddifrifoldeb. Dylech ystyried unrhyw amgylchiadau sydd wrth wraidd yr achos a chanlyniad achosion o’r fath yn y gorffennol. Gallech gymryd camau fel a ganlyn:
Os yw eich ymchwiliad ac unrhyw apêl yn darganfod nad oedd unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon wedi digwydd, yna mae rhaid i chi ddarganfod ffordd i bawb allu parhau i weithio gyda’i gilydd.
Efallai byddwch yn gallu gwneud hyn eich hunan, neu hwyrach bydd dod â chymorth i mewn o’r tu allan yn ddefnyddiol, megis datrysiad anghydfod amgen (fel yr eglurwyd uchod).
Rhagor o wybodaeth