Y pwyntiau allweddol y mae’r canllaw hwn yn eu hesbonio yw:
Gall Tribiwnlys Cyflogaeth benderfynu ynghylch cwyn sy’n ymwneud â gwahaniaethu anghyfreithlon mewn sefyllfa waith.
Gall Tribiwnlysoedd Cyflogaeth hefyd benderfynu achosion ynghylch:
Gall Tribiwnlys Cyflogaeth glywed achos oddi wrth aelod o’r lluoedd arfog os yw ei gŵyn gwasanaeth wedi’i phenderfynu yn unig.
Rhaid i berson ddwyn ei hawl ymlaen cyn pen tri mis (namyn diwrnod) ers i’r gwahaniaethu anghyfreithlon honedig ddigwydd.
Mae dwy sefyllfa lle mae hyn ychydig yn wahanol:
Pe bai person yn dwyn hawl yn ddiweddarach, y Tribiwnlys Cyflogaeth sydd i benderfynu a yw’n deg i bawb sydd â wnelo â’r achos, gan gynnwys y cyflogwr a’r gweithiwr, ganiatáu dwyn hawl yn ddiweddarach na hyn.
Pan fo hawl yn ymwneud ag ymddygiad dros gyfnod o amser, mae’r terfyn amser yn dechrau pan ddaw’r ymddygiad i ben.
Er enghraifft:
Mae cyflogwr yn cynnig cynllun morgais i gyplau priod yn unig. Byddai rhywun sy’n gymar sifil yn gallu cyflwyno hawliad gerbron tribiwnlys am wahaniaethu anghyfreithlon oherwydd cyfeiriadedd rhywiol unrhyw bryd tra bo’r cynllun ar waith ac yn ffafrio cyplau priod neu chyn pen tri mis ar ôl i’r cynllun beidio â gweithredu er budd cyplau priod yn unig.
Pe bai’r person yn cwyno am fethiant i wneud rhywbeth, er enghraifft, methiant i wneud addasiadau rhesymol, yna mae’r tri mis yn cychwyn pan benderfynwyd peidio â gwneud hynny. Os nad oes tystiolaeth gadarn o benderfyniad, yna ystyrir bod y penderfyniad wedi’i wneud naill ai:
Er enghraifft:
Mae gweithiwr sy’n defnyddio cadair olwyn yn gofyn i’w gyflogwr i osod ramp fel y gall esgyn y cwrbyn rhwng y maes parcio a mynedfa’r swyddfa yn haws. Mae’r cyflogwr yn mynegi y bydd yn ei wneud ond ni chaiff unrhyw waith o gwbl ei wneud ynglŷn â hynny. Ar ôl i gyfnod fynd heibio sydd o ran amser yn rhesymol i’r cyflogwr fedru comisiynu’r gwaith ac er nad yw eto wedi gwneud penderfyniad cadarnhaol i beidio â gosod ramp, efallai caiff ei drin fel petai ef wedi gwneud benderfyniad o'r fath.
Gall tribiwnlys wrando ar hawl pe bai’n cael ei gyflwyno’r tu allan i’r terfyn amser pe bai’r tribiwnlys o’r farn y byddai’n ‘gyfiawn ac yn deg’ (yn deg i’r ddwy ochr) iddo wneud hyn.
Y safon profi mewn achosion o wahaniaethu yw’r un arferol mewn achosion sifil (anhroseddol). Rhaid i’r ddwy ochr geisio profi bod ffeithiau eu hachos yn wir ar gydbwysedd tebygolrwydd, hynny yw, bod ei fersiwn nhw yn fwy na thebyg yn wir ym marn y tribiwnlys.
Os yw rhywun yn honni gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu neu erledigaeth yn eich erbyn, yna mae baich y profi yn dechrau gyda nhw. Mae rhaid iddynt brofi digon o ffeithiau y gall y tribiwnlys benderfynu ohonynt, heb unrhyw esboniad arall, fod y gwahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth wedi digwydd.
Unwaith iddynt wneud hyn, mae’r baich yn symud arnoch chi i ddangos na wnaethoch chi, neu rywun yr oeddech chi’n gyfrifol am ei weithredoedd neu esgeulustod, wahaniaethu, aflonyddu neu erlid y person a wnaeth yr hawliad.
Once they have done this, the burden shifts onto you to show that you or someone whose actions or omissions you were responsible for did not discriminate, harass or victimise the person making the claim.
Y prif gamau unioni sydd ar gael i’r Tribiwnlys Cyflogaeth yw:
Er enghraifft:
Darparu geirda neu dderbyn y person yn ôl i’w swydd, os yw’r tribiwnlys o’r farn y byddai hyn yn gweithio er gwaethaf yr hanes blaenorol.
Gall y Tribiwnlys Cyflogaeth hefyd wneud argymhelliad ei bod yn ofynnol i’r cyflogwr wneud rhywbeth penodol cyn pen amser penodol i ddileu neu i leihau’r effeithiau drwg y mae’r hawl wedi dangos sy’n bodoli ar y gweithlu ehangach (er nid mewn achosion cyflog cyfartal). Gallai hyn o bosib fod yn arbennig o berthnasol lle mae’r hawlydd eisoes wedi gadael y cyflogwr hwnnw, felly byddai unrhyw argymhelliad unigol yn ddibwynt.
Er enghraifft:
Os yw’r argymhelliad yn gysylltiedig ag unigolyn ac os nad yw’r cyflogwr yn gwneud yr hyn y dywedwyd wrtho am ei wneud, gall y tribiwnlys ei orchymyn i dalu iawndal, neu fwy o iawndal, i’r hawlydd yn lle hynny.
Mewn achosion o aflonyddu anuniongyrchol, pe baech yn gallu profi nad oeddech yn bwriadu i’r hyn a wnaethoch fod yn wahaniaethol, rhaid i’r tribiwnlys ystyried yr holl gamau unioni cyn edrych ar iawndal.
Gall y tribiwnlys hefyd eich gorchymyn i dalu’r costau cyfreithiol a chostau’r person sy’n dwyn yr hawliad ar ben eich costau cyfreithiol eich hunan, er nad yw hyn yn digwydd yn aml mewn achosion Tribiwnlys Cyflogaeth.
Gall dechrau achos cyfreithiol fod yn brofiad blinderus a chymryd amser. Efallai y byddai er lles pawb i geisio setlo anghydfod h.y. dod i gytundeb gyda’ch gweithiwr ble fo’n bosibl, er mwyn osgoi mynd i wrandawiad tribiwnlys cyflogaeth (neu i’r llys os yw’r achos yn ymwneud â chynllun pensiwn galwedigaethol). Mae tair ffordd o setlo anghydfod:
Cyn i’ch gweithiwr gyflwyno hawliad yn y tribiwnlys cyflogaeth, gallwch gytuno i setlo anghydfod yn uniongyrchol â nhw. Gall cytundeb i setlo anghydfod gynnwys unrhyw amodau y byddwch yn cytuno arnynt gyda’r gweithiwr a gall gynnwys iawndal, gweithredu yn y dyfodol gennych chi a’r gweithiwr a materion cyfreithiol eraill.
Enghraifft
Mae gweithiwr yn codi cwyn gyda’i chyflogwr yn ymwneud â methiant i gyflawni addasiadau rhesymol. Mae’r cyflogwr yn ymchwilio i gwyn y gweithiwr ac yn ategu’r achwyniad. Mae’r cyflogwr yn cytuno â ’r gweithiwr i sefydlu’r addasiadau rhesymol ac yn cynnig ymddiheuriad ysgrifenedig iddi, y mae’n ei dderbyn.
Gallech hefyd geisio cymorth gan Acas, sy’n cynnig gwasanaeth cymodi i bartïon mewn anghydfod, p’un a wnaethpwyd hawliad i dribiwnlys cyflogaeth neu beidio.
Enghraifft
Mae gweithiwr yn codi cwyn gyda’i chyflogwr gan honni gwahaniaethu ar sail rhyw. Mae’r cyflogwr yn gwrthod ei hachwyniad. Mae’n cyflwyno hawliad i’r tribiwnlys, ond cyn y gwrandawiad mae’n ceisio cymorth gan Acas i gymodi’r anghydfod. O ganlyniad i’r cymodi, mae’r gweithiwr a’i chyflogwr yn cytuno i setlo’r hawliad ar amodau sy’n ddymunol i'r ddau.
Gallwch chi a’r gweithiwr setlo hawliad neu hawliad posibl i’r tribiwnlys cyflogaeth trwy ‘gontract cyfaddawd cymhwyso’. Mae yna amodau penodol y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn setlo hawliad fel hyn:
Gallwch ddarganfod mwy am yr hyn y dylid ei wneud pe bai rhywun yn dwyn achos Tribiwnlys Cyflogaeth yn eich erbyn oddi wrth:
Rhagor o wybodaeth