Pe bai ymgeisydd am swydd yn teimlo ei fod wedi dioddef gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu neu erledigaeth yn erbyn cyfraith cydraddoldeb, yna gall gael gwybodaeth gennych chi i’w helpu i benderfynu p'un a yw ei hawl yn ddilys ai peidio.
Mae ffurflen benodol i’w helpu i wneud hyn y gallwch ei gweld yn www.equalities.gov.uk ond bydd eu cwestiynau yn dal i gyfrif hyd yn oed os nad ydynt yn defnyddio’r ffurflen, cyhyd ag y maent yn defnyddio’r un cwestiynau. Gelwir y ffurflen yn ‘holiadur' weithiau.
Pe baech yn derbyn cwestiynau oddi wrth ymgeisydd am swydd, nid oes gofyn cyfreithiol i chi ateb y cais nac ateb y cwestiynau, ond gall peidio ag ateb wneud niwed i’ch achos.
Gall y cwestiynau a’r atebion ffurfio rhan o’r dystiolaeth mewn achos wedi’i ddwyn dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Gall ymgeisydd am swydd anfon y cwestiynau i chi cyn gwneud hawl i’r Tribiwnlys Cyflogaeth, neu ar yr un pryd, neu ar ôl anfon yr hawl.
Os yw’n anfon yn gynharach, yna mae’n rhaid i chi dderbyn y cwestiynau cyn pen tri mis o’r hyn a ddywed y person sy’n cwyno oedd yn wahaniaethu anghyfreithlon. Pe bai hawl eisoes wedi’i gyflwyno i’r Tribiwnlys Cyflogaeth, yna mae’n rhaid i chi dderbyn y cwestiynau cyn pen 28 diwrnod o anfon y gŵyn at y Tribiwnlys Cyflogaeth.
Os nad ydych yn ymateb i’r cwestiynau cyn pen wyth wythnos o’u hanfon atoch chi, gall y Tribiwnlys Cyflogaeth gymryd hynny i ystyriaeth wrth gyrraedd ei benderfyniad. Gall y Tribiwnlys Cyflogaeth hefyd ystyried atebion sy’n aneglur neu sy’n osgoi ateb y cwestiwn.
Os bydd rhywun yn anfon cwestiynau atoch, rhaid i chi beidio â’i drin yn wael, e.e mewn perthynas â cheisiadau am swyddi yn y dyfodol, oherwydd ei fod wedi gwneud hyn. Pe baech yn ei drin yn wael, byddai hynny yn erledigaeth.
Rhagor o wybodaeth