Diswyddo, dileu swydd, ymddeol ac ar ôl i weithiwr adael

Os ydych yn gyflogwr, ac rydych yn gwneud penderfyniad, neu’n gweithredu yn sgil penderfyniad, i ddiswyddo gweithiwr, dileu swydd gweithiwr, dweud wrth rywun bod rhaid iddo ymddeol gan ei fod wedi cyrraedd oedran penodol, neu beth i wneud wedi i rywun orffen gweithio i chi (er enghraifft, os bydd rhywun yn gofyn ichi am eirda), mae cyfraith cydraddoldeb yn berthnasol ichi.

 Mae cyfraith cydraddoldeb yn berthnasol:

  • Beth bynnag yw maint eich sefydliad
  • P’un bynnag yw’r sector rydych yn gweithio ynddi
  • P’un ai a oes un, deg neu gant o weithwyr yn gweithio ichi
  • P’un ai a ydych yn defnyddio unrhyw brosesau ffurfiol neu ffurflenni i’ch helpu i wneud penderfyniadau (er i’r gyfraith weithiau ddweud bod rhaid i chi ddilyn proses ffurfiol a bod rhaid gwneud rhai pethau yn ysgrifenedig).

Dywed y canllaw hwn wrthych sut y gallwch osgoi’r holl fathau gwahanol o wahaniaethu anghyfreithlon. Mae’n cydnabod y gall cyflogwyr llai a mwy o faint weithredu ar lefelau gwahanol o ffurfioldeb, ond mae’n glir ar sut mae cyfraith cydraddoldeb yn berthnasol i bawb, a’r hyn mae’n ei olygu ichi ynglŷn â’r ffordd y mae rhaid ichi (ac unrhyw un sydd eisoes yn gweithio ichi) wneud pethau.

Mae tudalennau yn yr adran hon yn cynnwys:

Canllaw craidd: Diswyddo dileu swydd, ymddeol ac ar ôl i weithiwr adael
Sefyllfaoedd lle bo cyfraith cydraddoldeb yn wahanol
Osgoi gwahaniaethu anghyfreithlon wrth ddiswyddo gweithiwr
Osgoi gwahaniaethu anghyfreithlon wrth wneud penderfyniadau ynghylch colli swydd
Rheoli ymddeol
Ar ôl i rywun adael ei swydd

Mae’r canllaw hwn hefyd yn cynnwys yr adrannau a ganlyn, sy’n debyg ymhob un canllaw yn y gyfres, ac yn cynnwys gwybodaeth y bydd, o bosib, ei eisiau arnoch i ddeall beth a ddywedwn wrthych ynglŷn â gwneud penderfyniadau ynghylch diswyddo, colli swydd, ymddeol a’r hyn sy’n digwydd ar ôl i weithiwr adael:
 

back to top