Sut mae cyfraith cyflogaeth a chyfraith cydraddoldeb yn rhyngweithio
Mae cyfraith cyflogaeth (yn hytrach na’r gyfraith cydraddoldeb sy’n cael ei hesbonio yn y canllaw hwn) yn manylu ar hawliau pobl, sef:
- Lleiafswm o ddiwrnodau o’r gwaith â thâl
- Absenoldeb mamolaeth â thâl a di-dâl
- Absenoldeb tadolaeth â thâl
- Absenoldeb mabwysiadu â thal a di-dâl
- Absenoldeb rhiant di-dâl
- Absenoldeb argyfwng teulu di-dâl mewn amgylchiadau penodol (er enghraifft, pe bai gofal plant arferol gweithiwr, neu ofal am aelodau eraill o’r teulu sy’n dibynnu arnyn nhw ddim ar gael ar y funud olaf)
- Amser o’r gwaith â thâl neu’n ddi-dâl ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus a chyfrifoldebau undebau llafur
Gallwch gael mwy o wybodaeth am yr hawliau hyn yn Cyswllt Busnes (os ydych yng Nghymru a Lloegr) neu Business Gateway Scotland (os ydych yn yr Alban). Mae manylion cyswllt y sefydliadau hyn yn Ffynonellau pellach ar gyfer gwybodaeth a chyngor.
Yn gyffredinol, nid yw cyfraith cydraddoldeb yn berthnasol i p’un ai a oes gan bobl hawl i gael amser o’r gwaith, ond, yn hytrach, sut y gwnewch chi benderfynu ynghylch:
- pwy sy’n cael amser i ffwrdd, pa bryd a faint
- p’un a ddylai’r amser i ffwrdd fod â thâl ynteu’n ddi-dâl
- sut byddwch yn cofnodi gwahanol fathau ar absenoldeb.
Ymhlith eithriadau i hyn, lle mae cyfraith cydraddoldeb yn effeithio ar p’un ai a oes gan rywun hawl i amser i ffwrdd, mae:
- Amser i ffwrdd o’r gwaith fel addasiad rhesymol i ddileu rhwystrau i bobl anabl
- Absenoldeb ailbennu rhywedd
- Absenoldeb yn sgil beichiogrwydd
Caiff y sefyllfaoedd hyn eu esbonio yn adran nesaf y canllaw hwn.