Os ydych yn gyflogwr, ac rydych:
Mae cyfraith cydraddoldeb yn gymwys:
Mae tudalennau yn yr adran hon yn cynnwys:
Polisïau cydraddoldeb
Hyfforddiant cydraddoldeb
Monitro gweithlu
Os rhowch chi arferion cydraddoldeb da ar waith yn eich sefydliad, ni fyddwch yn debyg wedyn o wahaniaethu’n anghyfreithlon.
O ganlyniad, dylai hyn sicrhau y byddwch gryn dipyn yn llai tebygol o wynebu hawliadau cyfreithiol yn erbyn eich sefydliad am wahaniaethu’n anghyfreithlon.
Yn ôl y gyfraith, rhaid ichi beidio â gwahaniaethu yn erbyn, aflonyddu neu ormesu’r bobl sydd yn gweithio ichi.
Yn aml, nid yw eich bwriadau neu ddymuniadau yn cyfrif. Yr hyn sydd yn bwysig yw p’un ai a ydych wedi gweithredu’n anghyfreithlon neu beidio.
Efallai hefyd, byddwch yn gyfreithiol gyfrifol am beth mae eich gweithwyr neu eich asiantau yn ei wneud wrth weithio ichi, hyd yn oed os byddan nhw’n gwneud rhywbeth heb wybod ichi neu sydd heb gael eich sêl bendith. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn adran ‘Pan rydych yn gyfrifol am beth mae pobl eraill yn ei wneud’ y canllaw hwn. Dichon y gallwch osgoi fod yn gyfreithiol gyfrifol os gallwch ddangos eich bod wedi cymryd ‘pob cam rhesymol’ i atal gwahaniaethu anghyfreithlon.
Felly, mae’n bwysig ichi fod â syniad clir o’r hyn sydd yn digwydd ac eich bod yn weithredol wrth gymryd mesurau i wella perfformiad eich sefydliad o ran cydraddoldeb. Efallai y bydd hyn yn cynnwys:
Monitro’r gweithlu yw un ffordd o fynd ati i sicrhau bod eich polisi cydraddoldeb a’ch hyfforddiant arno yn cael effaith.
Hefyd gall arfer dda o’r fath sydd wedi’i amlinellu yn y canllaw hwn eich helpu chi a’ch sefydliad i lwyddo’n well yn eich busnes craidd. Mae sefydliadau wedi canfod bod buddiannau i’w hennill o gymryd camau positif i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, sydd yn cynnwys:
Mae’r canllaw hwn hefyd yn cynnwys yr adrannau a ganlyn, sydd yn debyg ymhob un canllaw yn y gyfres, ac yn cynnwys gwybodaeth y bydd, o bosib, ei eisiau arnoch i ddeall beth a ddywedwn wrthych ynghylch arfer dda: