Ffurflenni monitro

Bydd rhoi ffurflen fonitro i ymgeisydd am swydd yn eich helpu chi i weld pwy sydd wedi ymgeisio am y swydd a phwy sydd wedi ei ddewis, yn nhermau ei nodweddion gwarchodedig. Yna gallech gymharu pwy sydd wedi ymgeisio am swyddi yn erbyn proffil y rhai sy’n chwilio am swyddi yn y gymuned leol, yn genedlaethol, yn eich sector a phroffil y gweithwyr sydd yn y sefydliad yn barod. Mae hyn yn tynnu sylw at unrhyw grwpiau nad ydynt yn ymgeisio neu nad ydynt yn mynd ymhellach ymlaen yn y recriwtio. Os yw hyn yn digwydd, yna edrychwch eto at eich prosesau asesu: ydych chi’n allgau ymgeiswyr da yn ddiangen?

Nid yw cyfraith cydraddoldeb yn dweud bod yn rhaid i chi ddefnyddio ffurflen fonitro i ganfod gwybodaeth bersonol unigol am eich ymgeiswyr am swydd a’u nodweddion gwarchodedig fel rhan o’r broses recriwtio.

Ond os ydych yn defnyddio ffurflen fonitro a bod hon yn dweud wrthych am nodweddion gwarchodedig unrhyw berson, yna rhaid i chi beidio â defnyddio’r wybodaeth hon i wahaniaethu yn eu herbyn. Rhaid i chi beidio â seilio penderfyniadau ynglŷn â phwy i fynd â nhw ymhellach i’r broses ymgeisio ar yr wybodaeth y mae pobl yn ei rhoi ar y ffurflen fonitro.
 

Ga’ i ofyn am iechyd neu anabledd ar y ffurflen fonitro?

Yn gyffredinol, rhaid i chi beidio â gofyn cwestiynau i ymgeisydd am swydd yn ymwneud ag iechyd neu anabledd. Un o’r eithriadau i’r rheol hon yw’r un sy’n ymwneud â monitro. Caniateir i chi ofyn cwestiynau am iechyd neu anabledd os mai pwrpas hyn yw canfod faint o ymgeiswyr am swydd sy’n bobl anabl ac a ydynt wedi cael eu rhoi ar y rhestr fer neu wedi eu penodi.

Dylid ymdrin ag atebion i gwestiynau monitro am iechyd neu anabledd yn yr un modd â’r atebion i gwestiynau monitro eraill, mewn geiriau eraill, dylid eu cadw ar wahân i’r brif ffurflen gais. Ni ddylai’r person neu’r bobl sy’n rhoi pobl ar y rhestr fer ac yn penodi weld yr wybodaeth cyn penderfynu pwy i’w gyfweld neu ei benodi.
 
 

Beth sy’n digwydd os yw nodweddion gwarchodedig rhywun yn berthnasol i recriwtio?

Os, fel eithriad, y mae nodweddion gwarchodedig rhywun yn chwarae rhan yn y broses o lunio penderfyniad, er enghraifft:

  • os ydych wedi eich cofrestru ar gyfer y cynllun cyfweliad gwarantiedig, neu
  • os yw gweithredu cadarnhaol yn cael ei ddefnyddio wrth recriwtio am swydd arbennig, neu
  • os ydych wedi cymhwyso gofyniad galwedigaethol, neu
  • os yw naill ai’n ofyniad cyfreithiol neu fel arall yn un y gellir ei gyfiawnhau yn wrthrychol fod yn rhaid i rywun fod o oed arbennig i wneud swydd, neu
  • os ydych yn sefydliad crefydd neu gred ac mae’r swydd yn un lle mae’n rhaid i rywun fod o grefydd neu gred arbennig neu os ydych yn grefydd gyfundrefnol, neu mae’r swydd i ddiben crefydd gyfundrefnol, ac mae’r swydd yn un lle mae’n rhaid bod â nodwedd arbennig neu ddim neu ymddwyn mewn modd arbennig

yna dylech ei gwneud yn eglur pan ofynnwch i bobl ymgeisio am y swydd a gofyn iddynt ar wahân i’r ffurflen fonitro a oes ganddynt y nodwedd warchodedig arbennig. Mae hyn yn sicrhau bod y person neu’r bobl sy’n gwneud y penderfyniad ynghylch pwy i’w gyfweld neu gyflogi yn gweld yr wybodaeth am nodweddion gwarchodedig sy’n berthnasol yn unig ac nad oes angen iddynt weld y ffurflen fonitro ei hun.

Os defnyddiwch ffurflen fonitro, yna mae’r wybodaeth sydd arni yn debygol o fod yn bersonol a dylech sicrhau ei bod yn cael ei chadw’n ddiogel fel nad yw cyfrinachedd neu hawliau diogelu data pobl yn cael eu torri. Gallai hyn fod yn arbennig o bwysig ar gyfer rhai nodweddion gwarchodedig, fel ailbennu rhywedd, a rhai anableddau fel statws HIV a chyflyrau iechyd meddwl.

Arfer da cydraddoldeb: yr hyn gallwch chi ei wneud os ydych am wneud mwy na'r hyn sy'n ofynnol dan gyfraith cydraddoldeb

  • Bydd rhoi ffuflen fonitro i bob ymgeisydd am swydd yn eich helpu chi i weld pwy sydd wedi ymgeisio am y swydd a phwy sydd wedi ei ddethol, yn nhermau ei nodweddion gwarchodedig. Yna gallech gymharu pwy sydd wedi ymgeisio am swyddi yn erbyn proffil y rhai sy’n chwilio am swyddi yn y gymuned leol, yn eich sector ac yn genedlaethol a phroffil y gweithwyr sydd yn y sefydliad yn barod. Mae hyn yn tynnu sylw at unrhyw grwpiau nad ydynt yn ymgeisio neu nad ydynt yn mynd ymhellach ymlaen yn y recriwtio. Os yw hyn yn digwydd, yna edrychwch eto at eich prosesau asesu: ydych chi’n allgau ymgeiswyr da yn ddiangen?
  • Nid oes raid i ymgeisydd am swydd lenwi ffurflen fonitro os nad yw’n dymuno gwneud hynny. Ond gallwch ddweud wrthynt y gallai’r wybodaeth hon fod yn ddefnyddiol iawn i sicrhau bod gennych weithlu amrywiol, a dyma pam yr ydych yn gofyn amdani.
  • Nid oes unrhyw bwrpas mewn casglu gwybodaeth oni bai y bwriadwch ddefnyddio beth mae pobl yn ei ddweud wrthych am wneud y canlynol:
    •  gwirio pwy sy’n ymgeisio am swyddi
    •  gweld a yw pobl gyda nodweddion gwarchodedig yn cael eu tangynrychioli, er  enghraifft, o’i gymharu â’ch ardal leol a’ch sector, a
    •  meddwl am beth y gallech ei wneud i ymdrin â hyn.
  • Dylech ddweud wrth bobl pam eich bod yn casglu’r wybodaeth hon a beth y byddwch yn ei wneud gyda hi. Dylech hefyd eu sicrhau y bydd y data yn cael ei thrin yn gyfrinachol ac na fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer dewis y rhestr fer. Dylech roi dewis i’r ymgeiswyr o optio allan o’r broses drwy gynnwys y dewis o dicio ‘byddai’n well gennyf beidio â dweud’ o fewn pob categori. Os gwrthoda rhywun roi’r wybodaeth y gofynnwch amdani, peidiwch â dal hyn yn eu herbyn.
  • Os yw eich sefydliad yn un bach iawn ac nad oes gennych adran Adnoddau Dynol, er enghraifft, a all sicrhau fod y ffurflenni monitro yn cael eu cadw ar wahân, yna ystyriwch ofyn i bob ymgeisydd roi ei ffurflen monitro mewn amlen ar wahân neu ei hatodi mewn dogfen wrth e-bost ar wahân ac edrych arni ar ôl i chi benderfynu pwy i’w recriwtio yn unig.

Gallwch ddarllen mwy am fonitro yng nghanllaw’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: Arfer cydraddoldeb da i gyflogwyr: polisïau cydraddoldeb, hyfforddiant cydraddoldeb a monitro.
 
 

Rhagor o wybodaeth

back to top