Nid oes raid i chi hysbysebu swydd wag mewn ffordd arbennig nac o gwbl.
Ond os nad ydych yn hysbysebu o gwbl neu eich bod yn hysbysebu mewn modd na fydd yn cyrraedd pobl gyda nodwedd warchodedig arbennig, gallai hyn mewn rhai sefyllfaoedd arwain at wahaniaethu anuniongyrchol, oni bai y gallwch gyfiawnhau eich dull yn wrthrychol.
Er enghraifft:
Mae cyflogwr mawr yn recriwtio gweithwyr i swyddi gyrru drwy ledaenu’r gair amdanynt. Mae hyn yn arwain at y ffaith fod pawb sy’n gwneud swydd gyrru yn aelod o’r un teuluoedd neu yn ffrind i’r teuluoedd hynny. Mae holl aelodau’r teulu a’u ffrindiau yn wyn, er bod y gweithle mewn ardal lle ceir poblogaeth uchel o leiafrifoedd ethnig. Oni bai y gall y cyflogwr gyfiawnhau yn wrthrychol y ffordd mae gyrwyr yn cael eu recriwtio, mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu anuniongyrchol ar sail hil.
Os ydych yn hysbysebu, boed hynny ar hysbysfwrdd, mewn ffenestr siop, mewn papur newydd neu ar wefan, neu drwy ddefnyddio asiantaeth recriwtio, rhaid i chi beidio â rhoi’r argraff eich bod yn bwriadu gwahaniaethu.
Er enghraifft:
Mae cyflogwr yn hysbysebu am ‘weinyddes’; i osgoi gwahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw, dylai hysbysebu am ‘staff gweini’ neu ‘weinydd neu weinyddes’.
Nid yw hyn yn berthnasol os oes unrhyw rai o’r eithriadau a restrir yn nhudalennau 17-19 yn berthnasol ac os felly gallech grybwyll nodwedd warchodedig arbennig yn yr hysbyseb am swydd.
Os ydych yn hysbysebu swydd, rhaid i chi beidio â nodi nac awgrymu bod swydd yn anaddas i bobl anabl yn gyffredinol neu i berson anabl gyda math arbennig o nam.
Er enghraifft:
Mae cyflogwr yn hysbysebu am rywun i ddosbarthu parseli ar ei ben ei hun. Mae’r hysbyseb yn nodi y bydd yn rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus yrru a gallu codi’r parseli. Mae’r angen i yrru yn amlwg yn un o ofynion y swydd. Er y gall hyn allgau rhai pobl anabl, ee y rhai hynny gyda nam ar y golwg, ni fyddai’n allgau pob person anabl. Byddai felly yn anghywir – ac yn wahaniaethol - i roi ‘anaddas i bobl anabl’ yn yr hysbyseb am swydd.
Rhaid i chi beidio â nodi nac awgrymu na fydd addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer person anabl.
Er enghraifft:
Pan mae ysgol yn hysbysebu am athro i weithio mewn adeilad ar ddau lawr nad oes ganddo lifft, rhaid peidio â nodi oherwydd hyn na fyddai’r swydd yn addas i ‘berson anabl’. Yn hytrach, os dymunant ymdrin â’r mater hwn yn yr hysbyseb, gallent dynnu sylw at y ffaith fod yr ysgol ar ddau lawr ond y byddent yn croesawu ceisiadau gan bobl anabl beth bynnag yw’r nam sydd ganddynt ac y byddent yn gwneud addasiadau rhesymol yn y cyfweliad ac yn dilyn y penodiad i ymgeiswyr gyda nam symudedd. Os yw’r ysgol yn cyfweld ymgeisydd gyda nam symudedd, byddai cynnal y cyfweliad yn rhywle gyda mynediad gwastad yn addasiad rhesymol. Os oes gan yr ymgeisydd llwyddiannus nam symudedd, gellid gwneud addasiad rhesymol i ganiatáu iddo wneud ei addysgu ar y llawr daear, ac os byddai angen, gellid darparu mynediad gwastad i’r llawr daear drwy osod ramp pe na bai un yn bodoli’n barod, cyn belled ag y bo’r rhain yn addasiadau rhesymol.
Os dymunwch, gallwch hysbysebu swydd fel un sy’n agored i ymgeiswyr anabl yn unig neu gallwch ddweud mewn hysbyseb eich bod yn annog pobl anabl i ymgeisio am swydd. Nid yw hyn yn wahaniaethu anghyfreithlon yn erbyn person nad yw’n anabl. Mae cyfraith cydraddoldeb yn caniatáu i chi drin person anabl yn well – neu’n fwy ffafriol - na rhywun nad yw’n anabl. Gellir gwneud hyn hyd yn oed os nad oes gan y person anabl anfantais benodol oherwydd ei anabledd yn y sefyllfa arbennig. Y rheswm y dyluniwyd y gyfraith fel hyn yw er mwyn cydnabod bod pobl anabl yn gyffredinol yn wynebu llawer o rwystrau i gymryd rhan mewn gwaith a gweithgareddau eraill.
Rhagor o wybodaeth