Mae rhan nesaf y canllaw hwn yn dweud mwy wrthych chi ynghylch sut gallwch osgoi’r holl wahanol fathau o wahaniaethu anghyfreithlon yn y sefyllfaoedd a ganlyn:
Er enghraifft:
Defnyddio gweithredu cadarnhaol i recriwtio ystod ehangach o bobl
Defnyddio ffurflenni monitro wrth recriwtio
Cyn i chi recriwtio gweithiwr newydd neu rywun i gymryd lle person sy’n gadael neu sydd wedi gadael, byddwch yn meddwl am beth mae’r swydd yn ei chynnwys a’r sgiliau, priodweddau a phrofiad y bydd ar berson eu hangen i’w gwneud.
Rhaid i chi osgoi gwahaniaethu uniongyrchol yn erbyn pobl oherwydd eu nodweddion gwarchodedig yn yr hyn rydych yn ei ddweud neu yn ei ysgrifennu am y swydd.
Er enghraifft:
Mae cyflogwr yn dweud wrth ymgeisydd benywaidd ar y ffôn ei bod yn anaddas am swydd gyrru oherwydd bod y swydd bob amser wedi ei gwneud gan ddyn o’r blaen a dyna beth maent yn chwilio amdano’r tro yma.
Ni ellir cyfiawnhau gwahaniaethu uniongyrchol yn wrthrychol ar gyfer unrhyw nodwedd warchodedig ac eithrio oed. Ond peidiwch ag ystyried bod hyn yn golygu bod cyfraith cydraddoldeb yn gyffredinol yn caniatáu gwahaniaethu ar sail oed neu stereoteipio.
Er enghraifft:
Mae cyflogwr yn dweud mewn manyleb y person fod yn ‘rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â brwdfrydedd ifanc’ Byddai hyn mae’n debyg yn wahaniaethu uniongyrchol oherwydd oed na allai’r cyflogwr ddangos y gellid ei gyfiawnhau yn wrthrychol. Yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd yw brwdfrydedd, a all fod yr un mor bresennol mewn rhywun nad yw’r cyflogwr yn ei ystyried yn ifanc, felly ni ddylai’r cyflogwr gynnwys y stereoteip ym manyleb y person.
Wrth gwrs, bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â sgiliau, profiad neu gymwysterau penodol i wneud y swydd.
Os yw gofynion fel y rhain yn rhai y gellir eu cyfiawnhau yn wrthrychol, gallwch eu cynnwys yn yr hyn a ddywedwch neu a ysgrifennwch am y swydd, a’r person yr ydych yn chwilio amdano, hyd yn oed os nad ydynt yn cynnwys rhai pobl (er enghraifft, oherwydd bod pobl gyda nodwedd warchodedig arbennig yn llai tebygol o allu bodloni’r gofynion).
Ond os nad yw’r gofynion yn rhai y gellir eu cyfiawnhau yn wrthrychol i wneud y swydd, yna gallai eu defnyddio fod yn wahaniaethu anuniongyrchol anghyfreithlon.
Er enghraifft:
Mae cyflogwr yn nodi bod yn rhaid i swydd gael ei gwneud ar sail amser llawn heb fod wedi edrych ar a allai fod yn addas ar gyfer gwaith rhan amser neu rannu swydd. Byddai’r gofyniad i weithio’n amser llawn yn rhoi merched o dan anfantais o’i gymharu â dynion oherwydd mae mwy o ferched yn gweithio’n hyblyg oherwydd cyfrifoldebau gofal plant. Oni bai y gall y cyflogwr gyfiawnhau yn wrthrychol y gofyniad i weithio’n amser llawn, mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw.
Dylai unrhyw ofynion ynglŷn â beth mae’r swydd yn ei chynnwys, neu am y person y dymunwch ei recriwtio, fod yn gysylltiedig â’r swydd ac yn angenrheidiol fel rhan o’r swydd. Gallai cynnwys gofynion diangen neu fân ofynion wahaniaethu yn erbyn pobl anabl, er enghraifft, drwy eu hatal rhag ymgeisio.
Er enghraifft:
Mae cyflogwr yn nodi ei fod yn dymuno recriwtio rhywun sydd yn ‘actif ac yn egnïol’ ond mewn gwirionedd mae’r swydd yn gofyn am rywun i weithio wrth ddesg. Gallai hyn atal rhai pobl anabl rhag ymgeisio, os, er enghraifft, fod ganddynt nam symudedd (er wrth gwrs mae llawer o bobl gyda nam symudedd yn actif ac yn egnïol iawn). Byddai hon yn agwedd anghywir i gyflogwr ei chymryd.
Dylech hefyd feddwl am a oes angen cymwysterau penodol mewn gwirionedd neu ai’r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd yw lefel sgil neu dasg arbennig.
Er enghraifft:
Mae cyflogwr yn nodi bod angen trwydded yrru ar gyfer swydd sy’n cynnwys ychydig o deithio. Nid oes gan ymgeisydd am y swydd drwydded yrru oherwydd effeithiau parlys yr ymennydd. Yr ymgeisydd hwn fel arall yw’r ymgeisydd gorau am y swydd honno, gallai wneud y teithio’n rhwydd ac yn rhad heb fod yn gyrru ac mae’n debygol o fod yn addasiad rhesymol i’r cyflogwr adael iddo wneud hynny. Gwahaniaethu mae’n debyg fyddai mynnu ar y fanyleb a gwrthod y cais oherwydd nad oes gan yr ymgeisydd drwydded yrru yn unig.
Awgrym arfer da ar gyfer osgoi gwahaniaethu
Cadwch at wneud rhestr o’r hyn y bwriedir i’r swydd ei chyflawni. Ceisiwch beidio â gwneud rhagdybiaethau am bwy fydd yn gallu ei gwneud. Gallai gwneud rhagdybiaethau olygu eich bod yn eithrio pobl oherwydd eu nodweddion gwarchodedig, a byddai hyn yn agwedd anghywir.
Cofiwch fod yn rhaid i chi wneud addasiadau rhesymol i ymgeiswyr anabl yn ystod y broses recriwtio a rhaid i chi ddarparu a derbyn gwybodaeth mewn fformatau amgen, lle byddai hyn yn addasiad rhesymol.
Arfer da cydraddoldeb: yr hyn gallwch chi ei wneud os ydych am wneud mwy na'r hyn sy'n ofynnol dan gyfraith cydraddoldeb
Rhagor o wybodaeth