Weithiau mae yna sefyllfaoedd pan weithredir cyfraith cydraddoldeb yn wahanol. Mae’r canllaw hwn yn cyfeirio at y rhain fel eithriadau.
Mae nifer o eithriadau sy’n berthnasol i recriwtio ac sy’n berthnasol i bob cyflogwr.
Ceir eraill sy’n berthnasol i rai mathau o gyflogwyr yn unig.
Rhestrwn yr eithriadau sy’n berthnasol i sefyllfaoedd y mae’r canllaw hwn yn eu cwmpasu yn unig. Mae mwy o eithriadau sy’n berthnasol mewn sefyllfaoedd eraill, er enghraifft, pan ydych yn dewis rhywun ar gyfer ei ddiswyddo. Caiff y rhain eu hesbonio yn y canllaw perthnasol yn y gyfres.
Ar ben yr eithriadau hyn, mae cyfraith cydraddoldeb yn caniatáu i chi wneud y canlynol:
Mae oedran yn wahanol i nodweddion gwarchodedig eraill. Gallech wneud penderfyniad ar sail oedran rhywun pe baech yn gallu dangos bod cyfiawnhad gwrthrychol iddo, hyd yn oed pe bai hyn fel arall yn wahaniaethu uniongyrchol.
Ond mae’n anghyffredin iawn gallu cyfiawnhau gwahaniaethu uniongyrchol ar sail oed o’r math hwn yn wrthrychol.
Byddwch yn ofalus i beidio â defnyddio stereoteipiau am oed rhywun i ffurfio barn am eu ffitrwydd neu eu gallu i wneud swydd.
Er enghraifft:
Mae’r ddwy yma yn enghreifftiau o wahaniaethu ar sail oed y byddai cyflogwr yn ei chael yn anodd iawn i’w cyfiawnhau yn wrthrychol.
Os gallwch ddangos bod nodwedd warchodedig arbennig yn ganolog i swydd arbennig, gallwch fynnu mai dim ond rhywun gyda’r nodwedd warchodedig arbennig honno sy’n addas ar gyfer y swydd. Byddai hyn yn ‘ofyniad galwedigaethol’.
Er enghraifft:
Efallai bod noddfa i ferched yn dymuno dweud y dylai allu cyflogi merched yn unig fel cynghorwyr. Ei hunig gleientiaid yw merched sy’n profi trais domestig, trais sy’n cael ei gyflawni gan ddynion. Byddai hyn mae’n debyg yn ofyniad galwedigaethol gwirioneddol.
Gallwch roi ystyriaeth i nodwedd warchodedig lle na fyddai gwneud hyn yn golygu eich bod wedi torri deddf arall.
Er enghraifft:
Rhaid i ysgol yrru wrthod rhywun 19 oed sy’n ymgeisio am swydd fel hyfforddwr gyrru oherwydd byddai cynnig y swydd iddo – hyd yn oed os mai ef yw’r ymgeisydd gorau fel arall – yn golygu torri’r gyfraith oherwydd rhaid i hyfforddwr gyrru fod yn o leiaf 21 oed.
Gallwch gymryd nodwedd warchodedig rhywun i ystyriaeth os oes angen diogelu diogelwch cenedlaethol, a bod y gwahaniaethu yn gymesur.
Ceir eithriadau hefyd sy’n berthnasol i rai cyflogwyr yn unig:
Er enghraifft:
Byddai sefydliad Dyneiddiol sy’n hyrwyddo athroniaeth ac egwyddorion Dyneiddiol mae’n debyg yn gallu ymgeisio am ofyniad galwedigaethol i’w brif weithredwr fod yn Ddyneiddiwr.
Os:
efallai y byddech yn gallu gwrthod cyflogi rhywun oherwydd
Dylid defnyddio’r eithriad hwn ar gyfer nifer cyfyngedig o swyddi’n unig, e.e. gweinidogion yr efengyl, a nifer fach o swyddi y tu allan i’r glerigiaeth, e.e. y rhai hynny sy’n bodoli i hyrwyddo neu gynrychioli’r grefydd. Rhaid i’r gofyniad fod yn ffordd gymesur o fodloni’r amcanion a nodwyd uchod.
Ceir mwy o fanylion am yr eithriadau hyn yn y Rhestr Termau.
Awgrymiadau ynglŷn ag arfer da: defnyddio eithriadau
Os bydd rhywun yn anghytuno â chi ac yn cyflwyno hawl Tribiwnlys Cyflogaeth, efallai y bydd angen i chi ddangos pam yr oeddech yn meddwl bod eithriad yn berthnasol. Pan ydych yn gwneud y penderfyniad:
Rhagor o wybodaeth