Mae rhan nesaf y canllaw hwn yn dweud mwy wrthych am sut y gallwch chi osgoi’r holl fathau gwahanol o wahaniaethu anghyfreithiol yn y sefyllfaoedd canlynol:
Mae hefyd yn awgrymu sut y gallwch chi, drwy arfer da cydraddoldeb:
Rhaid i chi osgoi gwahaniaethu anghyfreithiol wrth ganiatáu mynediad i weithwyr i gyfleusterau yn y gwaith.
Yn gyntaf, defnyddiwch y canllaw craidd i sicrhau eich bod yn gwybod yr hyn y mae deddf cydraddoldeb yn ei ddweud sy’n rhaid i chi ei wneud fel cyflogwr.
Nid yw hyn yn eich atal rhag rhoi gwahanol lefelau mynediad i gyfleusterau i wahanol weithwyr am reswm nad sy’n berthnasol i unrhyw nodwedd warchodedig fel hynafedd o fewn sefydliad neu natur y swydd y mae rhywun yn ei chyflawni.
Fodd bynnag, rhaid i chi sicrhau bod eich rheolau ynglŷn â phwy sy’n cael mynediad i gyfleusterau ynddyn nhw eu hunain yn wahaniaethu’n anghyfreithiol.
Er enghraifft:
Mae cyflogwr yn rhoi ffôn symudol i’w ddefnyddio ar gyfer galwadau gwaith i gyflogai sy’n gorfod teithio llawer dros ei waith. Fodd bynnag, rhoddir ffonau i gyflogai sy’n gweithio’n llawn amser yn unig. Mae hyn yn cael gwaeth effaith ar ferched sy’n fwy tebygol o weithio’n rhan amser oherwydd eu bod yn cyfuno cyfrifoldebau gofal plant gyda’u swydd gyflogedig. Heblaw bod y cyflogwr yn gallu cyfiawnhau’n wrthrychol cyfyngu ar fynediad i’r cyfleuster arbennig hwn yn y modd hwn, mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu’n uniongyrchol ar sail rhyw.
Gall cyfleusterau fod yn ofod neu’n gyfarpar sy’n angenrheidiol i berson neu grŵp o weithwyr gyflawni eu gwaith neu gallan nhw fod yn ‘ychwanegiadau’ rydych chi’n eu darparu i’ch gweithwyr.
Yn dibynnu ar faint a natur eich sefydliad, gall cyfleusterau gynnwys:
Mae adran nesaf y canllaw hwn yn edrych yn fwy manwl ar ystyr osgoi gwahaniaethu anghyfreithiol mewn perthynas â:
Mewn rhai amgylchiadau, caniateir i chi wahaniaethu yn erbyn dynion neu ferched wrth ddarparu llety cymunol neu fudd-daliadau, cyfleusterau neu wasanaethau cysylltiedig â’r llety hwnnw. Mae llety cymunol yn golygu llety preswyl lle mae pobl yn rhannu llety (e.e. dortur) y dylid eu defnyddio gan weithwyr o’r un rhyw yn unig am resymau preifatrwydd neu oherwydd trefniadau iechydol.
Mae’n rhaid i chi reoli’r llety mewn modd sydd mor deg ag sy’n bosibl i ddynion a merched. Dylech ystyried amlder y galw neu’r angen am ddefnydd o’r llety gan un rhyw neu’r llall. Os yw’n rhesymol gwneud hynny, dylech hefyd newid neu ymestyn y llety neu gael hyd i lety arall yn hytrach na gwahardd gweithiwr yn gyfan gwbl.
Er enghraifft:
Trefnir cwrs hyfforddi preswyl mewn cartref gofal preswyl â llety dros nos cymunol i’w staff sy’n digwydd bod yn ddynion i gyd. Mae gweithiwr benywaidd am fynychu’r cwrs ond caiff ei gwrthod oherwydd nad oes unrhyw le addas iddi gysgu. Dylai ei chyflogwr drefnu llety arall gerllaw neu gynnig cwrs hyfforddi arall lle nad oes unrhyw anawsterau o’r fath, os bydd yn rhesymol gwneud hynny.
Mae gennych hawl i wahaniaethu yn yr amgylchiadau uchod yn erbyn gweithwyr sy’n mynd drwy neu’n bwriadu mynd drwy ailbennu rhywedd ond dim ond os gallwch chi gyfiawnhau’n wrthrychol gwneud hynny. Rhaid i chi ystyried fesul achos a yw’n briodol ac yn angenrheidiol gwahardd y person trawsrywiol. Pan fydd y person trawsrywiol wedi cael y llawdriniaeth a’i fod yn weledol ac i bob pwrpas ymarferol yn anodd ei adnabod oddi wrth berson nad yw’n drawsrywiol o’r un rhyw, dylid ei drin yn ei ryw gaffaeledig heblaw bod rhesymau gorfodol dros beidio â gwneud hyn.
Pan fydd gan rywun dystysgrif adnabod rhyw, dylid ei drin yn ei ryw gaffaeledig i bob pwrpas ac felly ni ddylid ei wahardd o lety cymunol un rhyw.
Nid yw’n ofyn cyfreithiol i chi ddarparu cyfleusterau ar gyfer crefydd neu gred gweithwyr er, mewn rhai amgylchiadau, gall fod yn wahaniaethu anuniongyrchol os byddwch chi’n methu â gwneud hynny.
Hefyd, mae nifer o gyflogwyr yn cydnabod ei bod yn arfer da i ddarparu cyfleusterau ar gyfer anghenion gwahanol staff sydd â chrefydd neu gred arbennig.
Gall y rhain gynnwys neilltuo ystafell i’r staff ar gyfer gweddïo, darparu silffoedd ar wahân mewn oergelloedd ar gyfer bwyd sydd angen ei gadw ar wahân ac, os bydd sefydliad yn darparu lluniaeth neu brydau i staff, gyflawni gofynion diet.
Er enghraifft:
Mae gan weithiwr Iddewig Uniongred mewn cwmni bach ofyniad crefyddol nad yw ei bwyd yn dod i gysylltiad uniongyrchol â phorc neu gysylltiad anuniongyrchol drwy eitemau fel cadachau neu ysbwng. Fel mater o arfer da, ar ôl trafod gyda’r staff, mae’r cyflogwr yn dynodi un silff mewn oergell ar gyfer bwyd y gweithiwr a lle ar wahân mewn cwpwrdd ar gyfer y platiau a’r cyllyll a’r ffyrc y mae hi’n eu defnyddio. Mae hefyd yn cyflwyno polisi y dylai unrhyw fwyd sy’n cael ei gario i mewn i’r gweithle gael ei storio mewn cynwysyddion wedi’u selio.
Os byddwch chi’n darparu cyfleuster fel hyn, cofiwch fod yr amddiffyniad rhag gwahaniaethu anghyfreithiol ar sail crefydd neu gred ar gyfer y rhai â chrefydd neu gred a’r rhai heb y rhain.
Er enghraifft:
Mae cyflogwr yn penderfynu darparu ystafell weddi i’w defnyddio gan staff â chredoau crefyddol. Mae hyn yn peryglu gwahaniaethu anghyfreithiol yn erbyn staff nad oes ganddynt gredau crefyddol nad ydynt yn cael mynediad i’r cyfleuster ychwanegol hwn. Gwell ymagwedd efallai fyddai darparu ystafell dawel i’w defnyddio gan unrhyw aelod o’r staff ar gyfer tawelwch personol a gan bobl o unrhyw grefydd neu gred neu rai heb yr un.
Os oes ffreutur neu fwyty yn eich gweithle, byddai’n arfer da sicrhau y gellir cyflawni anghenion diet arbennig oherwydd crefydd neu gred, fel halal a kosher, ond nid yw’n debygol y bydd yn ofyn cyfreithiol.
Os byddwch chi’n darparu cyfleusterau newid neu gawodydd i weithwyr, rhaid i chi wneud hyn mewn modd sy’n osgoi gwahaniaethu anghyfreithiol oherwydd crefydd neu gred.
Er enghraifft:
Mae cyflogwr yn darparu cyfleusterau newid cymunol yn unig i staff newid i mewn i’w hiwnifform. Mae hyn yn rhoi staff o grefydd arbennig sy’n mynnu nad yw ei dilynwyr yn newid eu dillad ym mhresenoldeb eraill, hyd yn oed o’r un rhyw, dan anfantais o gymharu â phobl nad ydynt yn dilyn y grefydd honno. Mae’n rhaid iddyn nhw newid i’w dillad mewn toiledau sy’n aflan. Heblaw bod y cyflogwr yn gallu cyfiawnhau’n wrthrychol darparu’r cyfleusterau newid cymunol, gall hyn fod yn wahaniaethu anuniongyrchol.
Pan fyddwch chi’n darparu cyfleusterau i’ch gweithwyr, rhaid i chi wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl sy’n gweithio i chi. Eich nod ddylai fod sicrhau y gall gweithiwr anabl, hyd y mae’n rhesymol, gael mynediad i’r cyfleusterau yn yr un modd ac i’r un terfyn ag y gall gweithiwr nad yw’n anabl. Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi ddarparu cyfleusterau ychwanegol yn arbennig ar gyfer gweithiwr anabl.
Er enghraifft:
Gallwch ddarllen mwy am wneud addasiadau rhesymol i symud rhwystrau i bobl anabl.
C. A oes yn rhaid i mi ddarparu cyfleusterau yn fy ngweithle i fam sydd wedi dychwelyd o gyfnod mamolaeth ond sy’n dal i fwydo ei babi o’r fron?
A. Oes, mae’n ddyletswydd gyfreithiol eich bod yn darparu cyfleusterau gorffwys addas i famau sy’n bwydo o’r fron eu defnyddio. Er nad oes hawl cyfreithiol gan weithwyr i gymryd amser yn rhydd i fwydo o’r fron, dylech geisio paratoi ar gyfer mamau sy’n dymuno gwneud hyn, gan gofio:
Mae gwybodaeth a chanllawiau pellach ar gael yng nghanllaw’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch Mamau Newydd a Beichiog yn y Gwaith.
Rhagor o wybodaeth