Mae pob sefydliad yn rheoli perfformiad ei weithwyr i sicrhau eu bod yn cyflawni eu gwaith yn y modd y mae’r cyflogwr eisiau iddyn nhw wneud.
Mae’n bosibl y byddwch chi’n rheoli perfformiad gweithwyr yn ffurfiol drwy gynllun gwerthuso, gyda chyfarfodydd rheolaidd ‘rheolwyr llinell’ ac adroddiadau blynyddol.
Neu mae’n bosibl y byddwch chi’n gwneud hyn yn anffurfiol, dim ond wrth drafod perfformiad gweithiwr wrth iddo gyflawni ei swydd.
Bydd gan nifer o sefydliadau gymysgedd o reoli a gwerthuso ffurfiol ac anffurfiol.
Rhaid i chi osgoi gwahaniaethu anghyfreithiol yn y modd rydych chi’n rheoli a gwerthuso perfformiad gweithwyr.
Yn gyntaf, defnyddiwch y canllaw craidd i sicrhau eich bod yn gwybod yr hyn y mae deddf cydraddoldeb yn ei ddweud sy’n rhaid i chi ei wneud fel cyflogwr.
Nid yw’n ofyniad cyfreithiol i chi ddefnyddio system werthuso ffurfiol.
Ond gall defnyddio un eich helpu i fod yn sicr bod eich staff yn cael eu hasesu a ydyn nhw’n cyflawni’r swydd ai peidio, yn hytrach na dibynnu ar brofion mwy goddrychol. Gall hyn eich helpu os bydd yn rhaid i chi amddiffyn eich hun yn erbyn cwyn o wahaniaethu anghyfreithiol yn y modd y mae rhywun wedi cael ei reoli a’i werthuso.
Rhagor o wybodaeth