Sefyllfaoedd lle mae deddf cydraddoldeb yn wahanol

 

Weithiau mae sefyllfaoedd lle mae deddf cydraddoldeb yn cymhwyso’n wahanol. Mae’r canllaw hwn yn cyfeirio at y rhain fel eithriadau.

Mae dau eithriad sy’n berthnasol i reoli gweithwyr ac sy’n gymwys i bob cyflogwr:

  • Y posibilrwydd y gall gwahaniaethu uniongyrchol ar sail oedran gael ei gyfiawnhau’n wrthrychol.
  • Ystyriaethau iechyd a diogelwch mewn perthynas â beichiogrwydd a mamolaeth.

Yr unig eithriadau rydyn ni’n eu rhestru yw’r rhai sy’n gymwys i’r sefyllfaoedd yn y canllaw hwn. Mae mwy o eithriadau sy’n gymwys mewn sefyllfaoedd eraill, er enghraifft, pan fyddwch chi’n recriwtio rhywun i wneud swydd. Eglurir y rhain yn y canllaw perthnasol yn y gyfres.

Yn ychwanegol at yr eithriadau hyn, mae deddf cydraddoldeb yn caniatáu i chi wneud y canlynol:

  • Defnyddio gweithredu positif gwirfoddol yn y modd y mae gweithwyr yn cael eu rheoli. Er bod gweithredu positif yn fwy aml yn cael ei weld fel cymhwyso mewn recriwtio, hybu a hyfforddi, gall hefyd fod yn ddefnyddiol wrth ddelio ag anghenion gwahanol gweithwyr pan fyddwch chi’n eu rheoli.
  • Trin pobl anabl yn well na phobl sydd ddim yn anabl.

 

 

Oedran

Mae oedran yn wahanol i nodweddion gwarchodedig eraill. Os gallwch chi ddangos ei fod yn gallu cael ei gyfiawnhau’n wrthrychol, gallwch wneud penderfyniad ar sail oedran rhywun, hyd yn oed os byddai hyn fel arall yn wahaniaethu uniongyrchol.

Fodd bynnag, mae’n hynod anghyffredin gallu cyfiawnhau’n wrthrychol wahaniaethu uniongyrchol ar sail oedran o’r math hwn. Byddwch yn ofalus i beidio â defnyddio stereoteipiau am oedran person i fynegi barn am ei ffitrwydd neu ei allu i wneud swydd.

Er enghraifft:

Mae cyflogwr yn disgyblu gweithwyr hŷn yn fwy caled na gweithwyr iau oherwydd eu bod yn disgwyl safonau ymddygiad uwch oddi wrth bobl hŷn. Ni ellir yn sicr ei gyfiawnhau’n wrthrychol ac felly mae’n wahaniaethu uniongyrchol ar sail oedran yn erbyn y gweithiwr hŷn.
 

Iechyd a diogelwch a beichiogrwydd a mamolaeth

Caniateir triniaeth wahanol os bydd hi’n gwbl angenrheidiol i wneud yr hyn y mae deddfau iechyd a diogelwch yn ei ddweud, os bydd y deddfau hyn yn cael eu llunio i ddiogelu merched sy’n feichiog neu sydd wedi rhoi genedigaeth yn ddiweddar neu i warchod yn erbyn risgiau sy’n benodol i ferched.

Er enghraifft:

Mae gweithiwr shifft nos sy’n feichiog yn cael ei hardystio gan ei Meddyg Teulu fel un na all weithio nos. Ni chaiff ei chyflogwr ei diswyddo (byddai hyn yn wahaniaethu uniongyrchol oherwydd beichiogrwydd). Yn lle hynny, rhaid iddo ei rheoli naill ai drwy gael hyd i waith dydd iddi neu, os na all wneud hyn, roi seibiant o’r gwaith iddi ar gyflog llawn.

Mae’r egwyddor gyffredinol na ddylai merched, hyd y mae’n bosibl, fod dan anfantais oherwydd eu beichiogrwydd neu famolaeth, yn parhau’n gymwys.

Nid gwahaniaethu ar sail rhyw yn erbyn dyn yw gwneud darpariaeth arbennig i ferched mewn cysylltiad â’i beichiogrwydd neu ei chyfnod mamolaeth.

 

Gweithredu cadarnhaol

Ystyr ‘gweithredu cadarnhaol’ yw’r camau y gallwch eu cymryd fel cyflogwr i ddelio â gwahanol anghenion neu hanes o anfantais person yn y gorffennol neu gyfranogiad isel pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig arbennig.

Er bod gweithredu cadarnhaol yn cael ei ystyried yn fwyaf aml yng nghyd-destun recriwtio, hybu neu hyfforddi, mae ar gael i chi ym mhob sefyllfa cyflogaeth gan gynnwys sut rydych hi’n rheoli pobl.

Er enghraifft:

Mae cyflogwr mawr yn talu am wasanaethau cynghori penodol i aelodau staff hoyw a lesbiaid. Roedd wedi clywed eu bod yn dioddef gan fwy o achosion o fwlio neu aflonyddwch homoffobig yn y gweithle. Mae hon yn enghraifft o gamau cadarnhaol i gyflawni angen gwahanol.

Nid yw gweithredu cadarnhaol yr un fath â ‘gwahaniaethu cadarnhaol’ neu ‘weithredu cadarnhaol’ nad yw deddf cydraddoldeb yn ei ganiatáu.

A oes rhaid i mi weithredu’n gadarnhaol?

Mae gweithredu cadarnhaol yn wirfoddol. Nid oes rhaid i chi weithredu’n gadarnhaol. Fodd bynnag:

  • Gall cyflawni anghenion gwahanol eich gweithlu helpu i wneud eich staff yn fwy cynhyrchiol.
  • Os ydych chi’n awdurdod cyhoeddus, gall gweithredu cadarnhaol eich helpu i gyflawni dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.

Pryd alla’ i ddefnyddio gweithredu cadarnhaol?

Dywed deddf cydraddoldeb bod yn rhaid i chi fynd drwy nifer o brofion i ddangos bod angen gweithredu cadarnhaol.

Dywed y profion bod yn rhaid i’r camau y caniateir i chi eu cymryd fel rhan o weithredu cadarnhaol:

  • fod yn berthnasol i’r lefel o anfantais sy’n bodoli
  • beidio â bod dim ond er mwyn ffafrio un grŵp o bobl dros un arall lle nad oes angen neu anfantais neu eu bod yn cael eu tangynrychioli yn y gweithlu.

Ni ddylech fod â pholisi cyffredinol neu arfer o ymdrin yn awtomatig â phobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig yn fwy ffafriol na’r rhai nad oes ganddyn nhw’r nodwedd honno yn y modd rydych chi’n eu rheoli. Rhaid i chi edrych i weld a oes angen hyn ar gyfer grŵp arbennig mewn sefyllfa arbennig.

Egluro pam eich bod yn defnyddio gweithredu cadarnhaol

Gall gweithredu cadarnhaol wneud i bobl nad oes ganddynt nodwedd warchodedig arbennig deimlo nad ydyn nhw wedi cael eu trin cystal â’r bobl sy’n darged gweithredu cadarnhaol. Mae’n syniad da egluro pam eich bod wedi penderfynu defnyddio gweithredu cadarnhaol. Mae hyn yn golygu dangos angen neu anfantais benodol wahanol neu dan gynrychiolaeth ac nad ydych chi’n gwneud mwy nag y mae ei angen ac sy’n gymesur i ddelio â’r problemau hynny.

Y math o gamau gweithredu cadarnhaol y gallwch eu cymryd wrth reoli pobl

Mae’r math o gamau i’w hystyried yn cynnwys:

  • Cyfleusterau neu wasanaethau penodol i bobl â nodwedd warchodedig arbennig.

Er enghraifft:

Cynnig cymorth ychwanegol mentor i berson trawsrywiol sy’n mynd trwy ailbennu rhywedd.

Darparu cyfleusterau neu dalebau gofal plant.

Sefydlu rhwydweithiau i staff sy’n rhannu nodwedd warchodedig arbennig, os yw eich sefydliad yn ddigon mawr.

Cofiwch, bydd yn rhaid i chi ystyried a oes angen mesurau o’r fath a’u bod yn gymesur. Dylech adolygu’n rheolaidd yr hyn rydych chi’n ei wneud i sicrhau bod gweithredu cadarnhaol yn dal yn briodol.

Gwybodaeth fwy manwl am weithredu cadarnhaol

Yr hyn sy’n rhaid i chi ei ddangos i allu defnyddio gweithredu cadarnhaol

Gallwch ddefnyddio gweithredu cadarnhaol pan fyddwch chi’n meddwl yn rhesymol (mewn geiriau eraill, ar sail rhywfaint o dystiolaeth) bod:

  • Pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig yn dioddef anfantais sy’n gysylltiedig â’r nodwedd honno
  • Pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig ag anghenion sy’n wahanol i anghenion pobl nad ydynt yn ei rhannu, neu
  • Bod cyfranogiad mewn gweithgaredd gan bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig, yn anghymesur o isel.

Weithiau bydd y rhesymau dros gymryd camau’n gorgyffwrdd. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig o dan anfantais ac y gall yr anfantais honno hefyd achosi angen gwahanol neu gellir ei hadlewyrchu yn eu lefel isel o gyfranogiad mewn gweithgareddau arbennig.

I ddelio â’r tair sefyllfa, gallwch gymryd camau cymesur i:

  • Alluogi neu annog pobl i oresgyn neu i gadw anfantais cyn lleied â phosibl
  • Cyflawni anghenion gwahanol a
  • Galluogi neu annog cyfranogiad.

Y math o dystiolaeth y gallwch ei defnyddio

Yr unig bryd y gallwch benderfynu defnyddio gweithredu cadarnhaol yw os byddwch chi’n meddwl yn rhesymol bod grŵp o bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig arbennig yn cael eu tangynrychioli neu eu bod o dan anfantais neu bod ganddynt anghenion gwahanol.

Bydd yn rhaid i chi gael rhywfaint o dystiolaeth i ddangos bod eich cred yn rhesymol, ond nid oes rhaid iddi fod yn ddata neu waith ymchwil ystadegol soffistigedig. Er enghraifft, gallwch edrych ar broffil eich gweithlu a’i gymharu â gweithlu nifer o gyflogwyr cymharol yn eich ardal neu eich sector.

Gellir defnyddio gwybodaeth arall hefyd - nid oes raid iddi fod yn wybodaeth rydych chi wedi’i chasglu eich hun.

Er enghraifft:

Dengys gwaith ymchwil cenedlaethol fod merched, mewn sector arbennig, yn fwy tebygol o adael eu swydd ar ôl cyfnod cymharol fyr, o’i gymharu â dynion. Mae cyflogwr y sector yn penderfynu delio â’r angen gwahanol hwn drwy ariannu rhwydwaith ar gyfer ei weithwyr benywaidd gyda’r nod o ddarparu cefnogaeth well a chael hyd i atebion i’r rhwystrau y maen nhw’n eu hwynebu.

Gallwch dargedu mwy nag un grŵp gyda nodwedd warchodedig arbennig dim ond os bydd gennych reswm i gredu bod anfantais, angen gwahanol neu gyfranogiad isel i bob grŵp.

Ystyr ‘anfantais’

Nid yw’r ddeddf yn diffinio ‘anfantais’ ond deellir yn gyffredinol ei fod yn berthnasol i rwystrau neu atalfeydd sy’n ei gwneud hi’n anodd i berson fynd i mewn neu wneud cynnydd mewn crefft, sector neu’r gweithlu.

Er enghraifft:

Gall gofyn i rywun weithio’n amser llawn fod yn rhwystr i ferched wneud cais am swydd oherwydd bod yn rhaid iddyn nhw gyfuno gwaith â thâl gyda chyfrifoldebau teulu. Bydd mabwysiadu polisïau gwaith hyblyg ar gyfer swyddi lle nad yw hyn wedi’i gynnig fel arfer yn fath o weithredu cadarnhaol i ddelio â’r anfantais hon.

Beth yw ystyr ‘anghenion gwahanol’

Mae’n bosibl y bydd gan rai grwpiau â nodweddion gwarchodedig anghenion sy’n wahanol i’r personau hynny nad oes ganddynt nodwedd warchodedig. Mae angen yn rhywbeth sydd ei angen oherwydd ei fod yn hanfodol neu’n bwysig, yn hytrach na dim ond yn ddymunol i’r rhai â nodwedd arbennig, Nid oes rhaid i angen fod yn unigryw i’r rhai â’r nodwedd arbennig honno ond mae’n rhaid ei fod yn rhywbeth y mae’r cyflogwr yn credu’n rhesymol sy’n berthnasol i’r nodwedd.

Beth yw ystyr‘anghymesur o isel’

Gall cyfranogiad isel fod yn anghymesur neu ddim. Er mwyn i chi ddefnyddio gweithredu cadarnhaol i’w oresgyn, rhaid i’r cyfranogiad fod yn isel o’i gymharu â’r lefel o gyfranogiad y gellid yn rhesymol ei ddisgwyl. Mae’n bosibl y gellid cael tystiolaeth o hyn drwy ystadegau neu, pan na fydd hyn ar gael, drwy dystiolaeth ansoddol ar sail monitro neu ymgynghori.
 

Trin gweithwyr anabl yn well na gweithwyr nad ydynt yn anabl

Ar wahân i weithredu cadarnhaol, mae deddf cydraddoldeb yn caniatáu i chi drin gweithiwr anabl yn well - neu’n fwy ffafriol - na gweithiwr nad yw’n anabl. Gellir gwneud hyn hyd yn oed os na fydd y gweithiwr anabl dan anfantais benodol oherwydd ei anabledd yn y sefyllfa arbennig. Y rheswm dros lunio’r ddeddf fel hyn yw cydnabod yn gyffredinol bod pob anabl yn wynebu llawer o rwystrau i gyfranogi mewn gwaith a gweithgareddau eraill.

Rhagor o wybodaeth

back to top