Cyflog a buddiannau

Os yw eich cyflogwr yn gwneud penderfyniadau am y lefel o gyflog mae'n ei phennu neu'r buddiannau mae'n eu rhoi i chi yn gyfnewid am weithio iddo, mae'r gyfraith cydraddoldeb yn berthnasol i'r hyn y mae’n ei wneud.

Mae'r gyfraith cydraddoldeb yn berthnasol:

  • beth bynnag fo maint y sefydliad
  • ym mha sector bynnag rydych yn gweithio
  • p'un a oes gan eich cyflogwr un gweithiwr neu ddeg neu gannoedd neu filoedd o weithwyr
  • p'un a yw eich cyflogwr yn defnyddio unrhyw brosesau neu ffurflenni ffurfiol i'w helpu i wneud penderfyniadau.

Mae tudalennau yn yr adran hon yn cynnwys:

Canllaw craidd: Cyflog a buddiannau

Sefyllfaoedd lle mae cyfraith gydraddoldeb yn wahanol

Penderfyniadau am ba gyflog a buddiannau bydd gweithwyr yn eu cael

Penderfyniadau am gyflog a buddiannau i fenywod a dynion (cyflog cyfartal)

Beth i’w wneud os ydych yn credu eich bod yn cael llai o gyflog na rhywun arall oherwydd i nodwedd warchodedig

Mae'r canllaw hwn hefyd yn cynnwys yr adrannau canlynol, sy'n debyg ym mhob un o'r canllawiau yn y gyfres, ac sy'n cynnwys gwybodaeth y bydd angen i chi ei deall am dâl a buddion:

Sefyllfaoedd pan fydd cyfraith gydraddoldeb yn wahanol

Cyfleoedd hyfforddiant a datblygu

Cyfleoedd dyrchafiad neu drosglwyddo

Os ydych yn berson anabl

Pan all eich cyflogwr ddefnyddio gweithredu cadarnhaol gwirfoddol i hyfforddi, dyrchafu neu gyflenwi ystod ehangach o bobl
Mae'r canllaw hwn hefyd yn cynnwys yr adrannau canlynol, sy'n debyg ym mhob un o'r canllawiau yn y gyfres, ac sy'n cynnwys gwybodaeth y bydd angen i chi ei deall am hyfforddi, datblygu, dyrchafu a throsglwyddo:

Gwybodaeth am pryd mae cyflogwr yn gyfrifol am yr hyn a wna pobl eraill, fel gweithwyr a gyflogir ganddynt.

Gwybodaeth am addasiadau rhesymol i chwalu rhwystrau os ydych yn anabl.

Cyngor ar yr hyn i'w wneud os credwch eich bod wedi dioddef gwahaniaethu.

Rhestr o eirfa sy'n cynnwys geiriau a syniadau allweddol mae eu hangen arnoch i ddeall y canllaw hwn. 

Gwybodaeth am ble i gael rhagor o gyngor a chymorth.
 

Eich hawliau i beidio â dioddef gwahaniaethu yn y gwaith: a beth mae hyn yn ei olygu o ran y ffordd y mae'n rhaid i gyflogwr ymddwyn tuag atoch

Cofiwch fod rheolau penodol yn berthnasol i dâl cyfartal rhwng merched a dynion lle mae'r tâl neu'r buddion yn rhan o'ch contract cyflogaeth. Os mai eich rhyw yw'r rheswm dros wahaniaeth mewn tâl neu fuddion, mewn geiriau eraill, y ffaith eich bod yn ferch neu'n ddyn, dylech ddarllen'Pan fo'ch cyflogwr yn penderfynu ar y tâl a'r buddiannau' i ddeall y rheolau.

Ydych chi'n weithiwr?

Mae'r canllaw hwn yn cyfeirio atoch fel gweithiwr os ydych chi'n gweithio i rywun arall (sef y cyflogwr yn y canllaw hwn) mewn sefyllfa gwaith. Mae hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, hyd yn oed os nad oes gennych gontract cyflogaeth ysgrifenedig neu os ydych yn weithiwr contract yn hytrach nag yn weithiwr a gyflogir yn uniongyrchol gan eich cyflogwr. Cynhwysir y mathau eraill o weithwyr fel hyfforddeion, prentisiaid a phartneriaid busnes hefyd. Os nad ydych yn siŵr, gwiriwch o dan 'sefyllfa waith' yn y rhestr o eiriau a syniadau allweddol. Weithiau, mae'r gyfraith cydraddoldeb ond yn berthnasol i fathau penodol o weithiwr, fel cyflogeion, ac rydym yn nodi'n glir pan fo hynny'n wir.

 

Rhagor o wybodaeth

back to top