Cynlluniau pensiwn galwedigaethol

Os yw eich cyflogwr yn darparu pensiwn galwedigaethol neu gynllun pensiwn gwaith neu gwmni i'r cyflogeion (neu bod un yn cael ei ddarparu ar ei gyfer), rhaid i'r bobl sy'n rhedeg y cynllun osgoi gwahaniaethu anghyfreithlon o ran y ffordd y maent yn ei redeg. Mae hyn yn cynnwys yr holl fathau o wahaniaethu anghyfreithlon.

Er enghraifft:

Rhaid i gynllun pensiwn sy'n cynnig buddion i bartneriaid o ryw gwahanol roi'r un buddion i bartneriaid o'r un rhyw. Os oes rhaid i bobl fod yn briod i gael buddion, rhaid i'r un buddion gael eu cynnig i bartneriaid sifil hefyd. Byddai peidio â gwneud hynny yn achos o wahaniaethu anghyfreithlon oherwydd cyfeiriadedd rhywiol.

Mae'r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i chwalu rhwystrau i bobl anabl yn berthnasol i gynlluniau pensiwn.

Gallwch ddarllen rhagor am addasiadau rhesymol i chwalu rhwystrau i bobl anabl.

Mae rheolau penodol yn berthnasol lle mae aelodaeth cynllun pensiwn galwedigaethol yn rhan o'ch contract cyflogaeth a bod merched a dynion yn cael eu trin yn wahanol gan y cynllun. Dylech ddarllen hwn hefyd.

Os credwch fod eich cynllun pensiwn galwedigaethol wedi bod yn gwahaniaethu'n anghyfreithlon yn eich erbyn, dylech gael cyngor arbenigol gan eich undeb llafur neu sefydliad arall.
 

Rhagor o wybodaeth

back to top