I wneud yn siŵr nad ydyn nhw’n amddifadu pobl anabl o gyfleoedd hyfforddi, datblygu, dyrchafu neu drosglwyddo, mae angen i’ch cyflogwr edrych ar y ffordd maen nhw’n disgrifio’r rôl a’r person maen nhw’n chwilio amdano.
Dylai’ch cyflogwr ystyried nid yn unig a ydyn nhw’n gwahaniaethu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol oherwydd eich anabledd, ond hefyd:
Rhaid i’ch cyflogwr wneud yn siŵr nad ydyn nhw’n gwahaniaethu yn eich erbyn neu’n peri anfantais sylweddol i chi os ydych chi’n berson anabl. Ystyrir unrhyw beth sy’n fwy na mater bach neu bitw yn anfantais sylweddol.
Gall hyn olygu bod gofyn iddyn nhw wneud addasiadau rhesymol i weithdrefnau dewis gweithwyr i’w hyfforddi, neu’r trefniadau hyfforddi eu hunain. Gall hyn gynnwys y ffordd maen nhw’n gwneud pethau, neu newidiadau i’r adeiladau a ddefnyddir, neu ddarparu cymhorthion, gwasanaethau neu offer ychwanegol.
Gallwch ddarllen mwy am addasiadau rhesymol i symud rhwystrau i bobl anabl fan yma.
Mae hyn yn cynnwys eich cyflogwr yn edrych ar y ffordd mae’n sicrhau eich bod yn cael cyfleoedd megis secondiad, cysgodi gwaith, mentora neu fynychu digwyddiad all eich helpu i ddatblygu’ch gyrfa.
Gall fod angen i’ch cyflogwr ddarparu hyfforddiant arbenigol ar eich cyfer er mwyn ichi wneud defnydd effeithiol o addasiadau rhesymol. Gallai hyn gynnwys hyfforddiant ar offer sydd gennych fel addasiad, er enghraifft, meddalwedd cyfrifiadurol arbenigol.
Neu gall yr hyfforddiant ynddo’i hun fod yn addasiad, er enghraifft, hyfforddiant cyfeiriadedd mewn gweithle newydd os oes gan rywun anabledd dysgu neu nam ar y golwg.
Gall hefyd fod o gymorth i’ch cyflogwr ystyried anghenion hyfforddi staff eraill sy’n gweithio gyda chi fel addasiad rhesymol (cyn belled â’ch bod wedi rhoi caniatâd i’r staff wybod am eich amgylchiadau). Gallai hyn amrywio o hyfforddiant arbenigol i reolwyr sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch addasiadau rhesymol, i rywbeth fel hyfforddiant ymwybyddiaeth o fod yn fyddar i bobl sydd â chydweithiwr Byddar.
Os ydych chi’n debygol o fod yn gymwys i gael eich dyrchafu neu’ch trosglwyddo neu i gael cyfle datblygu arall, a’ch bod yn berson anabl:
Rhagor o wybodaeth