Rhaid i’ch cyflogwr gynnig cyfleoedd dyrchafu, trosglwyddo neu ddatblygiad gyrfaol arall heb wahaniaethu’n anghyfreithlon.
Mae hynny’n cynnwys cyfleoedd datblygu allai arwain at ddyrchafu parhaol - er enghraifft, ymgymryd â dyletswyddau uwch fel rhan o ddyrchafiad dros dro, dirprwyo neu secondiad.
Defnyddiwch yr wybodaeth a geir yn gynharach yn y canllawiau hyn i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod beth maecyfraith cydraddoldeb yn dweud y dylai’ch cyflogwr ei wneud i osgoi gwahaniaethu anghyfreithlon.
Mae dyrchafu neu drosglwyddo gweithwyr yn debyg iawn i’w recriwtio nhw yn y lle cyntaf. Os ydych chi am wybod mwy am hyn, darllenwch ganllawiau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: Eich hawl i gydraddoldeb yn y gwaith: gwneud cais am swydd.
Mae camau y gall eich cyflogwr eu cymryd i’w helpu i wneud yn siŵr nad ydyn nhw’n rhoi ystyriaeth i’ch nodweddion gwarchodedig mewn ffordd nas caniateir dan gyfraith cydraddoldeb.
Er nad yw’n ofynnol yn ôl cyfraith cydraddoldeb i gyflogwr hysbysebu swyddi gwag neu gyfleoedd am ddyrchafiad naill ai oddi mewn neu oddi allan i’w sefydliad, gall gwneud hynny helpu’ch cyflogwr i osgoi gwahaniaethu anghyfreithlon.
Er enghraifft:
Mae cyflogwr yn dyrchafu gweithiwr gwrywaidd i swydd heb hysbysebu’r swydd wag yn fewnol. Mae gweithwyr benywaidd sy’n gymwys i’r rôl fyddai wedi cynnig petaent yn gwybod amdani. Maent wedi colli cyfle ac os allan’ nhw ddangos un ai bod y cyflogwr wedi’u hanwybyddu am eu bod yn ferched yn unig (fyddai’n wahaniaethu uniongyrchol) neu wedi gosod gofyniad ar gyfer y rôl a gafodd effaith waeth ar weithwyr benywaidd na allai’r cyflogwr ei gyfiawnhau’n wrthrychol, a dyna pham na chawsant eu hystyried gan y cyflogwr (fyddai’n wahaniaethu anuniongyrchol), yna gall y cyflogwr wynebu achos tribiwnlys.
Ni ddylai’ch cyflogwr eich amddifadu o gyfleoedd i gael dyrchafiad am eich bod yn ferch sy’n feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth. Os ydych chi ar absenoldeb mamolaeth, rhaid ichi gael eich ystyried ar gyfer dyrchafiad yn yr un ffordd ag unrhyw weithwyr nad ydynt ar gyfnod o absenoldeb.
I osgoi gwahaniaethu anghyfreithlon, dylai’ch cyflogwr ddweud wrthoch chi am gyfleoedd i gael dyrchafiad pan fyddwch chi ar absenoldeb mamolaeth, a rhoi cyfle ichi gynnig am unrhyw ddyrchafiad y byddech yn cael gwybod amdano petaech chi yn y gwaith.
Dylai’ch cyflogwr osgoi gwneud rhagdybiaethau am ferched wrth ddyrchafu staff. Byddai gweithredu ar y dybiaeth y byddai merch sydd â phlant yn annibynadwy, yn anhyblyg neu heb ddiddordeb mewn rôl ymdrechgar, ac felly’n anaddas ar gyfer dyrchafiad, bron yn sicr o fod yn wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon ar sail rhyw.
Rhagor o wybodaeth