Sut all eich cyflogwr gymryd camau gweithredu cadarnhaol gwirfoddol i hyfforddi, dyrchafu neu ddatblygu amrywiaeth ehangach o bobl

Yn yr adran hon, edrychwn ar y materion canlynol

  • Beth yw ‘gweithredu cadarnhaol ’?
  • Oes rhaid i gyflogwr gymryd camau gweithredu cadarnhaol ?
  • Pryd all cyflogwr ddefnyddio gweithredu cadarnhaol ?
  • Trin pobl anabl yn well na phobl heb anabledd
  • Eithriadau eraill lle gellir edrych ar nodwedd warchodedig arbennig wrth hyfforddi,  datblygu, dyrchafu neu drosglwyddo ond nad yw’n weithredu cadarnhaol

 

Beth yw ‘gweithredu cadarnhaol ’?

Mae ‘Gweithredu cadarnhaol ’ yn golygu’r camau all cyflogwr eu cymryd i annog pobl o grwpiau sydd ag anghenion gwahanol, neu sydd wedi dioddef o anfantais neu brinder cyfle i gyfranogi yn y gorffennol, i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi, datblygu, dyrchafu neu drosglwyddo.

Gall cyflogwr ddefnyddio gweithredu cadarnhaol pan fydd o’r farn resymol (mewn geiriau eraill, ar sail peth tystiolaeth):

  • bod pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig yn dioddef o anfantais sy’n gysylltiedig  â’r nodwedd honno
  • bod gan bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig anghenion sy’n wahanol i  anghenion pobl nad ydynt yn rhannu’r nodwedd honno, neu
  • bod cyfranogiad mewn gweithgaredd gan bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig yn  anghyfartal o isel.

Weithiau bydd y rhesymau dros gymryd camau gweithredu’n gorgyffwrdd. Er enghraifft, gall pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig fod dan anfantais, a gall yr anfantais honno hefyd arwain at angen gwahanol, neu gael ei hadlewyrchu yn eu lefel isel o gyfranogiad mewn gweithgareddau arbennig.

I ddelio gyda’r tair sefyllfa yma, gall cyflogwr gymryd camau cymesur:

  • i alluogi neu annog pobl i oresgyn neu leihau’r anfantais
  • i gwrdd ag anghenion gwahanol, neu
  • i alluogi neu annog cyfranogiad.

Pan fydd cyflogwr yn ystyried dyrchafu rhywun, maecyfraith cydraddoldeb yn caniatáu cymryd camau gweithredu cadarnhaol cyn neu yn ystod y cyfnod ymgeisio, pan allai’r camau annog grwpiau arbennig i ymgeisio, neu helpu pobl gyda nodwedd warchodedig arbennig i berfformio hyd eithaf eu gallu (er enghraifft, trwy roi hyfforddiant neu gymorth iddyn nhw nad yw ar gael i ymgeiswyr eraill).

Mewn perthynas â hyfforddi a datblygu, maecyfraith cydraddoldeb yn caniatáu i gyflogwr ddarparu hyfforddiant sydd wedi’i dargedu at grwpiau arbennig.

Enghraifft o sefyllfa lle allai cyflogwr benderfynu cymryd camau gweithredu cadarnhaol fyddai petai ganddyn nhw dystiolaeth bod cyfansoddiad lefel arbennig yn eu gweithlu’n wahanol i gyfansoddiad eu poblogaeth leol, a’u bod felly’n penderfynu annog pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig arbennig sy’n cael eu tangynrychioli i ymgymryd â hyfforddiant.

Neu os oes yna dystiolaeth bod pobl gyda nodwedd warchodedig arbennig yn llai tebygol o gael cymhwyster arbennig sy’n berthnasol i’r swydd, neu a allai gynyddu’u siawns o gael eu dyrchafu. Mae’r cyflogwr yn rhoi sylw arbennig i hyfforddi pobl o’r grŵp hwnnw.

Nid yw hyn yr un peth â ‘gwahaniaethu cadarnhaol ’ na chaniateir mohono dan gyfraith cydraddoldeb.
 

Oes rhaid i gyflogwr gymryd camau gweithredu cadarnhaol ?

Mae gweithredu cadarnhaol yn wirfoddol. Does dim rhaid i gyflogwr gymryd camau gweithredu cadarnhaol ac ni allwch orfodi cyflogwr i ddefnyddio gweithredu cadarnhaol mewn perthynas â hyfforddi, datblygu, dyrchafu neu drosglwyddo. Fodd bynnag:

  • Gall cwrdd ag anghenion gwahanol y gweithlu (er enghraifft, anghenion hyfforddi)  helpu i wneud staff yn fwy cynhyrchiol.
  • Gall recriwtio neu ddatblygu o blith amrywiaeth ehangach o bobl, yn nhermau eu  nodweddion gwarchodedig, helpu sefydliad i ddeall ei gwsmeriaid, cleientiaid neu  ddefnyddwyr gwasanaethau’n well.
  • Os ydy cyflogwr yn awdurdod cyhoeddus, gall gweithredu cadarnhaol ei helpu i  gwrdd â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.

 

Pryd all cyflogwr ddefnyddio gweithredu cadarnhaol ?

Maecyfraith cydraddoldeb yn mynnu bod cyflogwr yn mynd trwy nifer o brofion i ddangos bod angen gweithredu cadarnhaol.
Mae’r profion yn dweud bod yn rhaid i’r camau y caniateir i gyflogwr eu cymryd fel rhan o weithredu cadarnhaol fod yn gymesur â’r amcanion hyn, sy’n golygu bod yn rhaid iddyn nhw:

  • fod yn gysylltiedig â lefel yr anfantais sy’n bodoli
  • beidio â bod at ddibenion ffafrio un grŵp o bobl dros un arall pan nad oes yna  anfantais neu dangynrychiolaeth yn y gweithlu.

Er enghraifft:

Ni allai darparwr addysg gymryd camau gweithredu cadarnhaol i ddenu ymgeiswyr gwrywaidd i gael eu dyrchafu i swydd pennaeth lle'r oedd dynion eisoes yn cyflawni 80% o’r uwch swyddi, er bod merched yn cyfrif am 70% o’r gweithlu addysgu cyfan. Am na fyddai’r camau’n cael eu cymryd i oresgyn tangynrychiolaeth neu anfantais i ddynion, byddai hyn yn wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon.

Fodd bynnag, gallai’r cyflogwr gymryd camau gweithredu cadarnhaol i annog mwy o ferched am eu bod yn cael eu tangynrychioli ar y lefel hon, er enghraifft, gellid gynnig rhaglen hyfforddi wedi'i thargedu at ferched i’w hannog i ymgeisio am uwch swyddi a’u helpu i wneud yn siŵr eu bod yn arddangos y sgiliau angenrheidiol i fod yr ymgeisydd gorau ar gyfer swydd arbennig.

Ni ddylai cyflogwr gael polisi neu ymarfer cyffredinol sy’n awtomatig yn trin pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig yn well na rhai sydd hebddi wrth ddyrchafu neu drosglwyddo gweithwyr. Rhaid i gyflogwr benodi’r person gorau i’r swydd bob tro, hyd yn oed os nad ydyn nhw â’r nodwedd warchodedig arbennig a dargedwyd gan y gweithredu cadarnhaol . Fodd bynnag, gosodir rheolau arbennig ar gyfer sefyllfa lle ceir ymgeiswyr cyfartal yn yr adran nesaf.
 

Sefyllfa gyfartal

Y cam gweithredu cadarnhaol arall y gall cyflogwr ei gymryd yw penderfynu dyrchafu gweithiwr o grŵp sy’n rhannu nodwedd warchodedig, os ydy’r cyflogwr o’r farn resymol bod y grŵp yma dan anfantais neu’n cael ei dangynrychioli yn y gweithlu, neu os yw eu cyfranogiad mewn gweithgaredd yn anghyfartal o isel. 

Ni all cyflogwr ond defnyddio’r darpariaethau hyn pan fydd yn wynebu dewis o ddau ymgeisydd sydd yr un mor gymwys â’i gilydd. Mae’n bosib hefyd, er yn anarferol, i gael sefyllfa gyfartal gyda mwy na dau ymgeisydd sydd yr un mor gymwys ar gyfer y swydd.

Er y byddai’r cyflogwr yn fwy tebygol o ddefnyddio’r darpariaethau hyn ar ddiwedd y broses ddyrchafu, gall y cyflogwr hefyd drin ymgeisydd yn fwy ffafriol ar unrhyw adeg yn gynharach yn y broses, e.e. wrth lunio rhestr fer. Ond ni all y cyflogwr ond defnyddio’r darpariaethau hyn os ydy hynny’n ffordd gymesur o alluogi neu annog pobl o grŵp sydd dan anfantais neu’n cael ei dangynrychioli i oresgyn neu leihau anfanteision y grŵp hwnnw.

Er enghraifft:

Does gan gwmni mawr ddim staff Affricanaidd Caribïaidd ar ei dîm rheoli, er bod ganddo nifer o weithwyr Affricanaidd Caribïaidd ar lefelau iau. Pan fydd swydd wag ar gyfer rheolwr yn codi, mae dau ymgeisydd sy’n gyfartal o ran teilyngdod. Mae un ymgeisydd o dras Affricanaidd Garibïaidd a’r llall ddim. Gallai’r cwmni ddewis cynnig dyrchafiad i’r ymgeisydd Affricanaidd Caribïaidd dan ddarpariaethau gweithredu cadarnhaol , fel na allai’r ymgeisydd arall honni bod yna wahaniaethu ar sail hil.

Ni ddylai’r cyflogwr gael polisi cyffredinol o drin pobl gyda’r nodwedd warchodedig berthnasol yn fwy ffafriol gyda golwg ar ddyrchafiad.
 

Trin pobl anabl yn well na phobl heb anabledd

Maecyfraith cydraddoldeb yn caniatáu i gyflogwr drin person anabl yn well - neu’n fwy ffafriol - na pherson heb anabledd.

Mae hyn yn cydnabod bod pobl anabl yn wynebu llu o rwystrau rhag cymryd rhan mewn gwaith a gweithgareddau eraill.

Er enghraifft:

Mae gan gyflogwr bolisi o sicrhau bod pob ymgeisydd anabl sy’n cwrdd â gofyniadau lleiaf swydd neu ddyrchafiad ar y rhestr fer ac yn cael cyfweliad. Byddai’r gyfraith yn caniatáu hynny. Ni fyddai hynny’n wahaniaethu anghyfreithlon yn erbyn ymgeisydd heb anabledd sydd hefyd yn cwrdd â’r gofyniadau lleiaf ond nad yw ar y rhestr fer.
 

Sefyllfaoedd eraill lle gellir ystyried nodwedd warchodedig arbennig wrth hyfforddi, datblygu, dyrchafu neu drosglwyddo ond nad yw’n weithredu positif

Mae ychydig o eithriadau lle gall cyflogwyr dargedu ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig arbennig heb i hynny fod yn wahaniaethu anghyfreithlon. Nid yw’r rhain yr un fath â gweithredu cadarnhaol.

Er enghraifft:

Os oes yna ‘ofyniad galwedigaethol’ ar gyfer swydd:

Mae sefydliad yn bodoli i hyrwyddo buddiannau tadau. Gall fod ganddo’r hawl i nodi y dylai ei brif weithredwr fod yn dad, am fod yna rôl gynrychioliadol sylweddol yn gysylltiedig â’r swydd. Byddai rhyw'r ymgeisydd yn cyfrif fel ‘gofyniad galwedigaethol’ ar gyfer y swydd a byddai’n berthnasol i ymgeiswyr mewnol yn ogystal â rhai o’r tu allan.

Y gwahaniaeth rhwng gofyniad galwedigaethol â gweithredu cadarnhaol yw:

  • Bod cyflogwr sy’n defnyddio gofyniad galwedigaethol yn dweud mai dim ond pobl gyda  nodwedd warchodedig arbennig all wneud y gwaith.
  • Bod cyflogwr sydd am gymryd camau gweithredu cadarnhaol yn dweud y gall unrhyw  un sydd â’r sgiliau, nodweddion a phrofiad iawn wneud y gwaith, ond eu bod yn  chwilio’n benodol am rywun sydd â nodwedd warchodedig arbennig.

Rhagor o wybodaeth

back to top