Sefyllfaoedd ble mae cyfraith cydraddoldeb yn wahanol

Weithiau mae  sefyllfaoedd ble mae cyfraith cydraddoldeb yn berthnasol mewn ffordd wahanol. Mae’r canllaw hwn yn cyfeirio at yr eithriadau hynny.

Mae  sawl eithriad sy’n ymwneud â diswyddo, dileu swydd neu ymddeoliad ac sy’n berthnasol i unrhyw gyflogwr:

  • Meini prawf oed (dim ond os yw’ch cyflogwr yn gallu cyfiawnhau gwneud hyn yn wrthrychol)
  • Gofynion galwedigaethol
  • Bodloni cyfraith arall; a
  • Diogelwch cenedlaethol

Mae dau eithriad sy’n ymwneud â diswyddo, dileu swydd neu ymddeoliad ac sy’n berthnasol i rai cyflogwyr neu swyddi’n  unig:

  • Cael neu beidio cael crefydd neu gredo penodol, sy’n berthnasol i sefydliadau crefyddol neu ffydd yn unig, neu
  • Cael neu beidio cael nodwedd warchodedig benodol, sy’n berthnasol i grefyddau cyfundrefnol neu swyddi i ddiben crefydd gyfundrefnol yn unig

Dim ond yr eithriadau sy’n berthnasol i ddiswyddiad, dileu swydd neu ymddeoliad a restrir yn y canllaw hwn. Mae yna eithriadau eraill, sy’n berthnasol mewn sefyllfaoedd eraill, er enghraifft, pan fyddwch yn ymgeisio am swydd.

Yn ogystal â’r eithriadau hyn, mae cyfraith cydraddoldeb yn caniatáu i gyflogwr drin unigolyn anabl yn well – neu’n fwy ffafriol – nag unigolyn nad yw’n anabl. Mae hyn yn cydnabod bod pobl anabl yn wynebu llawer mwy o rwystrau i gyfranogi mewn gwaith a gweithgareddau eraill.
 

Cyfyngiadau oed

Mae oed yn wahanol i nodweddion gwarchodedig eraill. Os gall eich cyflogwr ddangos bod cyfiawnhad gwrthrychol, gallant wneud penderfyniad yn seiliedig ar oed rhywun.

Fodd bynnag, mae’n anarferol iawn i allu cyfiawnhau’n wrthrychol gwahaniaethu uniongyrchol seiliedig ar oed o’r fath.

Rhaid i gyflogwyr fod yn ofalus i beidio defnyddio ystrydebau ynglŷn ag oed rhywun i farnu ar eu haddasrwydd neu allu i wneud gwaith.

Mae’r canllaw hwn yn esbonio pryd y gall eich cyflogwr wneud taliadau dileu swydd yn seiliedig ar oed rhywun, a’r sefyllfaoedd cyfyngedig ble gellir cyfiawnhau’n wrthrychol gofyn i gyflogai ymddeol am eu bod wedi cyrraedd oedran penodol.
 

Gofynion galwedigaethol

Os gall cyflogwr ddangos bod nodwedd warchodedig benodol yn ganolog i swydd benodol, gallant fynnu mai dim ond rhywun sydd â’r nodwedd warchodedig honno sy’n addas ar gyfer y swydd. Gelwir hyn yn ‘ofyniad galwedigaethol’. Os yw cyflogwr wedi penodi rhywun yn defnyddio gofyniad galwedigaethol ac nad oes gan y gweithiwr y nodwedd warchodedig benodol honno bellach, mae cyfraith cydraddoldeb yn caniatáu i’r cyflogwr eu diswyddo heb i hyn fod yn wahaniaethu anghyfreithlon.

Bodloni cyfraith arall

Gall cyflogwr ystyried nodwedd warchodedig ble na fyddai gwneud hyn yn golygu eu bod yn torri cyfraith arall. Er enghraifft, os yw’r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i rywun fod yn oed penodol i wneud rhywbeth a bod eu cyflogwr yn darganfod nad oeddynt yr oedran hwnnw, gallai’r cyflogwr ddiswyddo’r gweithiwr am hyn heb iddo fod yn wahaniaethu anghyfreithlon.

Diogelwch cenedlaethol

Gall cyflogwr ystyried nodwedd warchodedig unigolyn os oes angen i amddiffyn diogelwch cenedlaethol a bod y gwahaniaethu’n  gymesur.

Cael neu beidio cael crefydd neu gredo penodol os yw cyflogwr yn sefydliad crefyddol neu gredo

Os yw cyflogwr yn sefydliad crefydd neu gredo, efallai y byddant yn gallu dweud bod swydd angen i’r sawl sy’n ei gwneud fod o grefydd neu gredo os, o ystyried natur neu gyd-destun y swydd, yw hyn yn ofyniad galwedigaethol ac fe ellir ei gyfiawnhau’n wrthrychol. Yna gallai’r cyflogwr ddiswyddo’r unigolyn os nad ydynt yn dal i fod o’r grefydd neu gredo honno heb iddo fod yn wahaniaethu anghyfreithlon.

Er enghraifft:

Mae’n debyg y byddai sefydliad Dyneiddiol sy’n hyrwyddo athroniaeth ac egwyddorion dyneiddiol yn gallu gweithredu gofyniad galwedigaethol i’w Brif Weithredwr fod yn Ddyneiddiwr. Pe byddai’r prif weithredwr yn stopio bod yn Ddyneiddiwr, gallai’r sefydliad ei ddiswyddo heb i hyn fod yn wahaniaethu anghyfreithlon.
 

Cael neu beidio cael nodwedd warchodedig benodol os yw cyflogwr yn grefydd gyfundrefnol neu os yw swydd i ddibenion crefydd gyfundrefnol

Os:

  • yw swydd neu rôl yn bodoli i ddibenion crefydd gyfundrefnol, megis bod yn Weinidog neu hyrwyddo neu gynrychioli crefydd fel arall, ac
  • oherwydd natur neu gyd-destun y gyflogaeth, mae angen osgoi gwrthdaro â  chredoau crefyddol cadarn nifer sylweddol o ddilynwyr y grefydd neu gydymffurfio ag athrawiaeth y grefydd trwy gyflwyno gofyniad i’r swydd neu rôl,

gallai cyflogwr ddiswyddo rhywun oherwydd:

  • eu bod yn ddyn neu’n fenyw (os yw gofynion y swydd yn newid gan ei gynnwys yn yr eithriad)
  • eu bod yn unigolyn trawsrywiol
  • eu bod yn priodi neu’n mynd i bartneriaeth sifil, yn cynnwys i bwy maent yn briod neu mewn partneriaeth sifil â nhw (megis rhywun sy’n priodi unigolyn wedi ysgaru y mae ei gyn wraig neu ei chyn ŵr yn dal yn fyw)
  • eu bod yn arddangos cyfeiriadedd rhywiol penodol, er enghraifft, unigolyn hoyw neu lesbiaidd sy’n cychwyn perthynas â phartner o’r un rhyw.

Rhaid i’r gofynion fod yn allweddol i’r swydd neu rôl, ac nid dim ond un o nifer o ffactorau. Rhaid i’r swydd neu rôl fod wedi ei chysylltu’n agos at ddibenion y grefydd, a rhaid i gymhwysiad y grefydd fod yn gymesur.
 

Beth sydd nesaf yn y canllaw hwn

Mae’r rhan nesaf o’r canllaw hwn yn dweud mwy wrthych am sut y gall eich cyflogwr osgoi'r holl wahanol fathau o wahaniaethu anghyfreithiol yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • Eich diswyddo, p’un a yw hynny oherwydd camymddwyn neu am fod eich cyflogwr yn dweud na allwch wneud y gwaith bellach
  • Dileu’ch  swydd pan nad oes angen eich swydd mwyach
  • Eich ymddeol ar yr amod y gellir ei gyfiawnhau’n wrthrychol
  • Delio â chi wedi i chi stopio gweithio iddynt, er enghraifft, os ydych chi neu’ch cyflogwr newydd yn gofyn am dystlythyr

Os yw’ch cyflogwr yn dweud wrthych eich bod yn wynebu diswyddiad neu golli swydd neu’n gofyn i chi ymddeol oherwydd eich bod wedi cyrraedd oed penodol, mae’n werth derbyn cyngor cyn gynted â phosibl. Mae nifer o sefydliadau gwahanol a allai’ch helpu, ac fe ddewch o hyd i fanylion cyswllt rhai ohonynt yn: Ffynonellau gwybodaeth a chyngor pellach. Dylech hefyd ystyried siarad â’ch undeb llafur os oes gennych un.
 

Rhagor o wybodaeth

back to top