Wedi i chi adael swydd

Weithiau bydd cyfrifoldebau cyn -gyflogwr yn parhau wedi i chi stopio gweithio iddynt a rhaid iddynt ddal i beidio gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn eich erbyn.

Mae’r adran hon yn edrych ar eich hawliau wedi i chi stopio gweithio i gyflogwr, ac yn benodol sut mae hyn yn berthnasol i dystlythyrau.

Ar wahân i pan fyddwch yn gofyn i gyn- gyflogwr am dystlythyr, bydd sefyllfaoedd eraill ble gallech fod â pherthynas barhaus gyda nhw yn cynnwys os ydych yn derbyn unrhyw fuddion parhaus. Ni ddylid cadw’r rhain oddi wrthych os byddai hyn yn wahaniaethu anghyfreithlon.

Os ydych yn credu bod rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn wedi i chi stopio gweithio i gyflogwr, gallwch gymryd camau i unioni pethau fel pe byddech yn dal i fod yn gyflogedig.

Gallwch gysylltu â’ch cyn- gyflogwr a gofyn iddynt unioni’r sefyllfa. Os na ellir unioni pethau yn anffurfiol, yna gallwch ofyn i’ch cyn- gyflogwr ddelio â’ch cwyn yn defnyddio’u  gweithdrefn gwynion arferol.

Gallwch hefyd fynd â'r achos i Dribiwnlys Cyflogaeth.

Os ydych yn unigolyn anabl, mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn parhau wedi i chi stopio gweithio i’r cyflogwr hwnnw.

Er enghraifft:

Anfonir cylchlythyr blynyddol at gyn- weithwyr. Gallai addasiad rhesymol fod i chi ei ddarparu ar fformat sy’n ei wneud yn hygyrch i gyn weithiwr sydd â nam ar eu golwg.

Mae’r ddyletswydd yn bodoli os oeddech yn anabl pan oeddech yn gweithio i’ch cyn gyflogwr yn unig.

Gallai beth sy’n rhesymol yn y sefyllfa hon fod yn wahanol i beth fyddai’n rhesymol i rywun sy’n dal i weithio.

Gallwch ddarllen mwy am addasiadau rhesymol i gael gwared ar rwystrau i bobl anabl, yn cynnwys sut i bwyso a mesur beth sy’n rhesymol.
 

Tystlythyrau

Darparu tystlythyrau’n  gyffredinol

Mae’r canllaw hwn yn sôn am gyfraith cydraddoldeb yn unig. Mae cyfreithiau eraill y mae’n rhaid i’ch cyflogwr eu dilyn i sicrhau nad yw tystlythyr yn torri cyfreithiau eraill, er enghraifft, cyfreithiau yn ymwneud ag esgeulustod neu ddifenwad. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r rhain gan Acas, y mae eu manylion cyswllt ar gael yn: Ffynonellau gwybodaeth a chyngor pellach.

Y maes ble rydych fwyaf tebygol o ddod i gysylltiad â rhywun yr oeddech yn arfer gweithio iddynt yw os ydych (neu’ch cyflogwr newydd posibl) yn gofyn iddynt am dystlythyr.

Ni ddylai cyflogwr:

  • wrthod rhoi tystlythyr i chi o gwbl, neu
  • ddarparu tystlythyr drwg

oherwydd nodwedd warchodedig neu os byddai gwrthod darparu tystlythyr yn cyfrif fel erledigaeth.

Er enghraifft:

Mae cyn -gyflogwr gweithiwr yn gwrthod darparu tystlythyr oherwydd iddynt gefnogi hawliad rhywun arall o aflonyddu rhywiol. Byddai hyn bron yn sicr yn erledigaeth.

Nid yw’n bwysig pa mor bell yn ôl y buoch yn gweithio i gyflogwr, cyn belled â’ch bod yn gallu dangos bod unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yn deillio o’r berthynas gyflogaeth flaenorol ac wedi ei gysylltu'n agos â hi.

Os ydych yn dal i weithio i’r cyflogwr pan fyddwch yn gofyn am dystlythyr er mwyn newid swydd, mae hyn yn dal i fod yn rhan o’ch cyflogaeth, ac ni ddylid gwahaniaethu’n anghyfreithiol yn eich erbyn, yn union fel unrhyw sefyllfa waith arall.
 

A oes rhaid i’m cyn cyflogwr roi tystlythyr i mi?

Yn gyffredinol, nid oes gofyniad cyfreithiol i gyflogwr ddarparu tystlythyr i chi, ar yr amod y cymhwysir eu polisi ar ddarparu tystlythyrau (neu beidio eu darparu) heb wahaniaethu’n anghyfreithiol yn erbyn rhywun. Fodd bynnag, os yw’ch  contract cyflogaeth yn dweud y darperir tystlythyrau, yna rhaid darparu un.

Mewn sectorau ble mae gweithwyr yn amodol i reolau arbennig (megis cyllid) ac yn methu cael swydd heb dystlythyr, mae’r llysoedd wedi dweud bod yna amod ymhlyg yn y contract y bydd cyflogwyr yn darparu un.

Os yw cyflogwr yn darparu tystlythyrau, ni ddylent gynnwys sylwadau ynglŷn â nodwedd yr unigolyn (neu yn achos anabledd, sylwadau ynglŷn â rhywbeth sy’n gysylltiedig ag anabledd yr unigolyn) a allai fod yn wahaniaethu anghyfreithlon.

Mae’r un rheolau’n  berthnasol i dystlythyrau eraill dros y ffôn neu ar lafar eraill.
 

A ellir rhoi tystlythyr drwg i rywun os oes ganddynt gofnod gwaith drwg?

Os, waeth beth yw nodweddion gwarchodedig rhywun, y byddai’r tystlythyr wedi bod yn un drwg beth bynnag, yna wrth gwrs mae gan gyflogwr hawl i wneud hyn.

Fodd bynnag, os yw cyflogwr wedi rhoi tystlythyr drwg i rywun nad yw’n ei haeddu dan amgylchiadau sy’n gwneud hyn yn wahaniaethu anghyfreithlon, yna mae ganddynt hawl i ofyn iddynt newid yr hyn a ddywedont. Os byddant yn gwneud hyn, yna fe allai’r gweithiwr ddod ag achos Tribiwnlys Cyflogaeth am wahaniaethu annheg.
 

Cyfrinachedd

Efallai y gallech gael copi o dystlythyr eich cyflogwr hyd yn oed os cyflenwyd y tystlythyr ‘yn gyfrinachol’:

  • Gall eich cyflogwr newydd roi copi i chi os gofynnwch am un. Hyd yn oed os yw’ch cyn -cyflogwr wedi darparu tystlythyr ‘yn gyfrinachol’, gallai’ch cyflogwr newydd benderfynu y dylent ei roi i chi er mwyn cydymffurfio â rheolau diogelu data. Fel arfer, bydd eich cyflogwr newydd yn cysylltu â’ch cyn -gyflogwr i ofyn a ydynt yn gwrthwynebu i ddatgelu’r tystlythyr, ond hyd yn oed os ydynt yn gwrthwynebu, bydd y cyflogwr newydd yn dal i allu rhoi tystlythyr y cyn- gyflogwr i chi os ydynt yn credu bod eich budd o weld yr hyn a ysgrifennwyd yn drech na budd eich cyn- gyflogwr o’i drin yn gyfrinachol.
  • Os nad ydych yn cael swydd, neu os yw cynnig swydd yn cael ei thynnu yn ôl, a’ch bod yn credu bod hyn am fod eich cyn- gyflogwr wedi darparu tystlythyr gwahaniaethol, yna gallwch ofyn i weld copi yn defnyddio’r weithdrefn cwestiynau. Gallwch ddarllen mwy am beth mae hyn yn ei olygu.

 

Rhagor o wybodaeth

back to top