Addasiadau rhesymol ar waith

Dyma enghreifftiau o'r camau y gallai fod yn rhesymol i gyflogwr eu cymryd:

  • Gwneud addasiadau i safle.

Er enghraifft:

Cyflogwr yn gwneud newidiadau strwythurol neu ffisegol eraill fel gwneud drws yn fwy llydan, creu ramp neu symud celfi ar gyfer defnyddiwr cadair olwyn; adleoli'r switsys golau, dolennau'r drysau, neu'r silffoedd i rywun sydd ag anhawster ymestyn; neu'n cynnwys cyferbyniad priodol gydag addurn yr adeilad er mwyn helpu person sydd â nam ar y golwg i symud o amgylch yn ddiogel.

  • Dosbarthu rhai o'ch dyletswyddau i berson arall.

Er enghraifft:

Cyflogwr yn dosbarthu mân-ddyletswyddau i weithiwr arall oherwydd bod gweithiwr anabl yn cael trafferth i'w gwneud oherwydd ei anabledd. Er enghraifft, mae'r swydd yn cynnwys mynd allan ar do agored yr adeilad y mae'r person yn gweithio ynddo o bryd i'w gilydd, felly mae'r cyflogwr yn trosglwyddo'r gwaith hwn i weithiwr arall am fod anabledd y person yn cynnwys penysgafnder difrifol.

  • Eich trosglwyddo i lenwi swydd sy'n bodoli eisoes

Er enghraifft:

Dylai cyflogwr ystyried p'un a oes swydd arall addas ar gael i weithiwr sy'n dod yn anabl (neu y mae ei anabledd yn gwaethygu), lle na fyddai unrhyw addasiadau rhesymol yn galluogi'r gweithiwr i barhau i wneud ei swydd gyfredol. Gallai hyn gynnwys ailhyfforddi hefyd neu gwneud addasiadau rhesymol eraill fel offer ar gyfer y swydd newydd neu drosglwyddo i swydd ar raddfa uwch.

  •  Newid eich oriau gwaith neu hyfforddiant.

Er enghraifft:

Cyflogwr yn caniatáu i berson anabl weithio oriau hyblyg er mwyn iddo gael egwyliau ychwanegol er mwyn dod dros flinder sy'n deillio o'i anabledd. Gallai hefyd gynnwys caniatáu iddo weithio'n rhan amser, neu ddilyn oriau gweithio gwahanol er mwyn osgoi'r angen i deithio yn yr awr frys os yw'n broblem sy'n gysylltiedig â nam. Gallai dychwelyd i weithio fesul cam gan gronni'r oriau'n raddol fod yn briodol mewn rhai amgylchiadau hefyd.

  •  Eich trosglwyddo i fan gwahanol i weithio neu gael hyfforddiant

Er enghraifft:

Cyflogwr yn adleoli gorsaf waith gweithiwr sydd newydd fynd yn anabl (ac sydd bellach yn defnyddio cadair olwyn) o swyddfa anhygyrch ar y trydydd llawr i swyddfa hygyrch ar y llawr waelod. Os yw'r cyflogwr yn gweithio o fwy nag un gweithle, gallai fod yn rhesymol symud gweithle'r gweithiwr i un o safleoedd eraill yr un cyflogwr os yw'r adeilad cyntaf yn anhygyrch a bod y safleoedd eraill yn hygyrch.

  • Caniatáu i chi fod yn absennol yn ystod oriau gwaith neu hyfforddiant ar gyfer adsefydlu, asesiadau neu driniaeth.

Er enghraifft:

Cyflogwr yn caniatáu i berson anabl sydd wedi datblygu cyflwr yn ddiweddar gael mwy o amser o'r gwaith nag y byddai'n cael ei ganiatáu i weithwyr nad ydynt yn anabl er mwyn ei alluogi i gael triniaeth adsefydlu. Byddai addasiad tebyg yn briodol pe bai'r anabledd yn gwaethygu neu pe bai angen i weithiwr anabl gael triniaeth achlysurol beth bynnag. 

  • Cynnal, neu drefnu, hyfforddiant neu fentora (p'un a ydyw i chi neu i bobl eraill). Gallai hyn olygu hyfforddiant i ddefnyddio’r offer penodol y byddwch yn ei ddefnyddio, neu addasiad i safon hyfforddiant y gweithle er mwyn adlewyrchu eich nam penodol.

Er enghraifft:

Mae pob gweithiwr yn cael ei hyfforddi i ddefnyddio peiriant penodol ond mae cyflogwr yn rhoi hyfforddiant sydd ychydig yn wahanol neu'n hirach i gyflogai sydd â symudiadau cyfyngedig o ran ei ddwylo neu ei freichiau, neu hyfforddiant i ddefnyddio meddalwedd ychwanegol i berson sydd â nam ar ei olwg er mwyn iddo allu defnyddio cyfrifiadur ag allbwn llafar.

Cyflogwr yn rhoi hyfforddiant i weithwyr ar gynnal cyfarfodydd mewn ffordd sy'n galluogi aelod byddar o staff gymryd rhan weithredol.

Mae person anabl yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb o chwe mis oherwydd strôc. Mae'r cyflogwr yn talu iddo gael mentor gwaith, ac yn rhoi amser o'r gwaith iddo weld y mentor, er mwyn helpu iddo feithrin yr hyder a gollodd pan ddechreuodd ei anabledd.

  •  Caffael offer neu addasu offer.

Er enghraifft:

Efallai y bydd angen i gyflogwr ddarparu offer arbennig (fel bysellfwrdd wedi'i addasu i rywun ag arthritis neu sgrin fawr i rywun sydd â nam ar y golwg), ffôn wedi'i addasu i rywun â nam ar y clyw, neu offer arall wedi'i addasu i weithwyr anabl (fel dolennau hirach ar beiriant).

Nid oes rhaid i'r cyflogwr ddarparu nac addasu offer at ddibenion personol os nad ydynt yn gysylltiedig â'ch swydd, fel darparu cadair olwyn os oes angen un arnoch ond nad oes un gennych. Y rheswm am hyn yw nad yw'r anfanteision rydych yn eu hwynebu yn llifo o bethau y mae gan eich cyflogwr reolaeth drostynt.

  • Addasu cyfarwyddiadau neu lawlyfrau.

 Er enghraifft:

Efallai y bydd angen addasu fformat cyfarwyddiadau a llawlyfrau i rai gweithwyr anabl (fel eu darparu mewn Braille neu ar CD sain). Mae'n bosibl y bydd angen i’r cyfarwyddiadau ar gyfer pobl sydd ag anableddau dysgu gael eu cyfleu ar lafar a’u harddangos fesul un neu eu darparu ar ffurf Hawdd ei Ddarllen.

  • Addasu gweithdrefnau ar gyfer profi neu asesu.

Er enghraifft:

Byddai gweithiwr â deheurwydd cyfyngedig sy’n gwneud cais am ddyrchafiad o dan anfantais pe bai prawf ysgrifenedig, felly mae'r cyflogwr yn rhoi prawf llafar i'r person hwnnw yn lle.

  • Darparu darllenwr neu ddehonglydd.

Er enghraifft:

Cyflogwr yn trefnu i gydweithiwr ddarllen deunydd copi caled i weithiwr sydd â nam ar ei olwg ar adegau penodol o'r dydd. Fel arall, gallai'r cyflogwr gyflogi darllenydd.

  • Darparu goruchwyliaeth neu gymorth arall.

Er enghraifft:

Cyflogwr yn darparu gweithiwr cymorth neu'n trefnu cymorth gan gydweithiwr, o dan amgylchiadau priodol, ar gyfer rhywun y mae ei anabledd yn arwain at ansicrwydd neu ddiffyg hyder.

  • Caniatáu absenoldeb anabledd.

Er enghraifft:

Mae angen i weithiwr sydd â chanser gael triniaeth ac adsefydlu. Mae'r cyflogwr yn caniatáu cyfnod o absenoldeb anabledd iddo ac yn caniatáu iddo ddychwelyd i'w swydd ar ddiwedd y cyfnod hwn.

  •  Cymryd rhan mewn cynlluniau cyflogaeth â chymorth, fel Workstep.

Er enghraifft:

Mae person yn gwneud cais am swydd fel cynorthwyydd swyddfa ar ôl sawl blwyddyn o beidio â gweithio oherwydd iselder. Mae wedi bod yn cymryd rhan mewn cynllun â chymorth, lle y gwelodd y swydd yn cael ei hysbysebu. Fel addasiad rhesymol, mae'r person yn gofyn i'r cyflogwr ganiatáu iddo wneud galwadau ffôn i weithiwr cymorth y cynllun yn ystod y dydd. 

  • Cyflogi gweithiwr cymorth i helpu gweithiwr anabl.

Er enghraifft:

Weithiau mae'n ofynnol i gynghorydd â nam ar ei olwg ymweld â chartrefi cleientiaid. Mae'r cyflogwr yn cyflogi gweithiwr cymorth i'w helpu yn ystod yr ymweliadau hyn.

  • Addasu gweithdrefnau disgyblu neu weithdrefnau cwyno.

Er enghraifft:

Mae hawl gan weithiwr ag anabledd dysgu fynd â ffrind gydag ef (nad yw'n gweithio gydag ef) i fod yn eiriolwr mewn cyfarfod gyda’i gyflogwr ynglŷn â chwyn. Fel arfer bydd y cyflogwr ond yn caniatáu i weithwyr gael cwmni cydweithiwr. Mae'r cyflogwr hefyd yn sicrhau bod y cyfarfod yn cael ei gynnal mewn ffordd nad yw'n nawddoglyd i'r gweithiwr nac yn ei roi o dan anfantais.

  •  Addasu meini prawf dewis ar gyfer diswyddiadau.

Er enghraifft:

Mae gweithiwr sydd â chlefyd hunanimiwn wedi cael sawl cyfnod byr o absenoldeb yn ystod y flwyddyn oherwydd y cyflwr. Pan fo'r cyflogwr yn ystyried yr absenoldebau fel meini prawf ar gyfer dewis pobl ar gyfer diswyddiadau, mae'n diystyru'r cyfnodau hyn o absenoldeb sy'n gysylltiedig ag anabledd.

  • Addasu trefniadau cyflog sy'n gysylltiedig â pherfformiad.

Er enghraifft:

Mae angen i weithiwr anabl sy'n cael ei dalu yn ôl canlyniadau yn unig gael egwyliau ychwanegol byr ac aml yn ystod y diwrnod gwaith - rhywbeth mae'r cyflogwr yn cytuno iddo fel addasiad rhesymol. Mae'n debygol y byddai'n addasiad rhesymol i'r cyflogwr ei dalu yn ôl cyfradd y cytunir arni (e.e. tâl yn ôl yr awr) ar gyfer yr egwyliau hyn. 

Weithiau gallai fod yn angenrheidiol i gyflogwr gymryd cyfuniad o gamau.

Er enghraifft:

Mae merch ddall yn cael swydd newydd gyda'i chyflogwr mewn rhan anghyfarwydd o'r adeilad. Mae'r cyflogwr:

  • yn trefnu cyfleusterau ar gyfer ei chi cymorth yn yr ardal newydd
  • yn trefnu i'w chyfarwyddiadau newydd gael eu cyhoeddi mewn Braille, ac
  • yn darparu hyfforddiant cydraddoldeb anabledd i bob aelod o'r staff.

Mewn rhai sefyllfaoedd, ni fydd addasiad rhesymol yn gweithio heb gydweithrediad gweithwyr eraill. Felly mae gan aelodau eraill o staff y cyflogwr rôl bwysig wrth helpu i sicrhau bod addasiad rhesymol yn cael ei weithredu. Rhaid i'ch cyflogwr wireddu hyn. Mae'n annhebygol y byddai'n 'amddiffyniad' dilys i honiad o dan y gyfraith cydraddoldeb am fethu â gwneud addasiadau rhesymol i gyflogwr ddadlau bod addasiad yn afresymol am fod aelodau eraill o staff yn rhwystr neu wedi gwrthod helpu pan geisiodd y cyflogwr weithredu addasiad rhesymol. Fan leiaf, mae disgwyl i'r cyflogwr allu dangos iddo gymryd yr holl gamau rhesymol i geisio datrys problem agwedd yr aelodau eraill o staff.

Er enghraifft:

Mae cyflogwr yn sicrhau bod gweithiwr ag awtistiaeth yn cael diwrnod strwythuredig fel addasiad rhesymol. Fel rhan o'r addasiad rhesymol, cyfrifoldeb y cyflogwr yw sicrhau bod y gweithwyr eraill yn cydweithredu â'r trefniant hwn.

 Os nad ydych am i'ch cyflogwr gynnwys gweithwyr eraill, ni ddylai'r cyflogwr dorri'ch hawl i gyfrinachedd drwy ddweud wrth y gweithwyr eraill am eich sefyllfa.

 Os ydych yn amharod i aelodau eraill o staff wybod am eich nam, ond bod eich cyflogwr o'r farn bod addasiad rhesymol yn gofyn am gydweithrediad eich cydweithwyr, efallai na fydd yn bosibl i'r cyflogwr wneud yr addasiad oni fyddwch yn barod i rannu rhywfaint o'r wybodaeth. Nid oes rhaid rhannu gwybodaeth fanwl, dim ond digon i esbonio'r hyn y mae angen i'r aelodau eraill o staff ei wneud. 
 
 

Rhagor o wybodaeth

back to top