Beth a olygir wrth 'rhesymol'

Bydd ond angen i'ch cyflogwr wneud yr hyn sy'n rhesymol.

Mae amrywiaeth o ffactorau yn effeithio ar p'un a yw addasiad penodol yn cael ei ystyried yn rhesymol ai peidio. Mae'r prawf o'r hyn sy'n rhesymol yn brawf gwrthrychol i bob pwrpas ac nid yw'n fater o'r hyn y gallech chi neu'ch cyflogwr ei ystyried fel rhywbeth rhesymol.

Wrth benderfynu ar p'un a yw addasiad yn rhesymol ai peidio, gall cyflogwr ystyried:

  • pa mor effeithiol y bydd y newid o ran osgoi'r anfantais y byddech yn ei wynebu fel arall
  • pa mor ymarferol fyddai’r addasiad
  • y gost
  • adnoddau a maint y sefydliad
  • argaeledd cymorth ariannol.

Cyn belled ag y bo'n bosibl, nod cyffredinol eich cyflogwr fyddai dileu neu leihau unrhyw anfantais sylweddol y byddech chi’n ei wynebu fel gweithiwr anabl na fyddai person nad yw'n anabl yn ei wynebu.

Materion y gallai eich cyflogwr eu hystyried:

  • Mae hawl gan gyflogwyr drin pobl anabl yn well neu'n 'fwy ffafriol' na phobl nad ydynt yn anabl, ac weithiau gallai hynny fod yn rhan o'r ateb.
  • Rhaid i'r addasiad fod yn ffafriol o ran helpu i ddileu neu leihau unrhyw anfantais rydych yn ei wynebu. Os nad yw'n cael unrhyw effaith o gwbl, neu os yw'n cael effaith bach yn unig, nid oes diben gwneud yr addasiad.
  • Mewn gwirionedd, mae'n bosibl y bydd angen gwneud sawl addasiad gwahanol i ddelio â'r anfantais o dan sylw, ond gallai pob newid gyfrannu ato.
  • Gall y cyflogwr ystyried p'un a yw addasiad yn ymarferol ai peidio. Po hawsaf yw'r addasiad, po fwyaf tebygol yw y bydd yn rhesymol. Fodd bynnag, nid yw dweud bod rhywbeth yn anodd yn golygu na all fod yn rhesymol hefyd. Mae angen i'r cyflogwr bwyso a mesur hyn yn erbyn ffactorau eraill. 
  • Os yw addasiad yn costio ychydig neu ddim o gwbl ac nad yw'n drafferthus, byddai'n rhesymol onid oes ffactor arall (fel anymarferoldeb neu ddiffyg effeithiolrwydd)yn ei wneud yn afresymol.
  • Mae maint ac adnoddau eich cyflogwr yn ffactor arall. Os yw addasiad yn costio swm sylweddol, mae'n fwy tebygol o fod yn rhesymol i'ch cyflogwr ei wneud os oes gan eich cyflogwr adnoddau ariannol sylweddol. Rhaid ystyried adnoddau eich cyflogwr ar draws y sefydliad cyfan, nid dim ond y gangen neu'r adran rydych chi, neu y byddech chi, yn gweithio ynddi. Mae hwn yn fater y mae'n rhaid i'r cyflogwr ei bwyso yn erbyn ffactorau eraill.
  • Wrth newid polisïau, meini prawf neu arferion, nid oes rhaid i'r cyflogwr newid natur sylfaenol y swydd lle byddai hyn yn mynd i tu hwnt i'r hyn sy'n rhesymol.
  • Gall yr hyn sy'n rhesymol mewn un sefyllfa fod yn wahanol i'r hyn sy'n rhesymol mewn sefyllfa arall.
  • Os yw'n sefydliad mawr yn hytrach na sefydliad bach, mae'r cyflogwr hefyd yn fwy tebygol o wneud addasiadau penodol fel adleoli neu gynnig patrymau gwaith hyblyg a allai fod yn haws i sefydliad sydd â mwy o staff eu gweithredu.
  • Os oes cyngor neu gymorth ar gael, er enghraifft, gan Mynediad i Waith neu gan sefydliad arall (weithiau bydd elusennau’n helpu gyda chostau addasiadau), mae hyn yn golygu bod yr addasiad yn fwy rhesymol.
  • Pe bai addasiad penodol yn cynyddu'r risgiau i iechyd a diogelwch unrhyw un, yn cynnwys chi, gallai'r cyflogwr ystyried hyn wrth wneud penderfyniad ynghylch p'un a yw’r addasiad neu'r ateb hwnnw'n rhesymol. Ond rhaid i benderfyniad y cyflogwr fod yn seiliedig ar asesiad go iawn o'r risgiau i iechyd a diogelwch. Ni ddylai'r cyflogwr wneud rhagdybiaethau am y risgiau y gallai gweithwyr anabl eu hwynebu.

Ar ôl ystyried yr holl faterion perthnasol, os yw addasiad yn rhesymol, rhaid i'r cyflogwr ei wneud.
 
Os nad ydych yn cytuno o ran p'un a yw addasiad yn rhesymol ai peidio, dim ond Tribiwnlys Cyflogaeth a all benderfynu yn y pen draw. Gallwch ddarllen rhagor am yr hyn y dylech ei wneud os credwch eich bod wedi ddioddef gwahaniaethu yma. Mae hyn yn cynnwys os yw cyflogwr wedi methu â gwneud yr hyn, sydd yn eich barn chi, yn addasiadau rhesymol i chwalu'r rhwystrau sy’n eich wynebu.

Darparu gwybodaeth mewn fformat arall

Wrth ddarparu gwybodaeth, mae'r gyfraith cydraddoldeb yn nodi'r camau sy'n rhesymol i'r cyflogwr eu cymryd, sy’n cynnwys camau i sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei darparu mewn fformat hygyrch.

Er enghraifft:

Mae gweithiwr llaw yn gofyn am i'r rheolau iechyd a diogelwch gael eu darllen ar CD sain ar ei gyfer. Mae hyn yn debygol o fod yn addasiad rhesymol y bydd rhaid i'r cyflogwr ei wneud.
 

Rhagor o wybodaeth

back to top