Darparu offer neu gymhorthion ychwanegol

Mae'r trydydd gofyniad yn cynnwys darparu offer ychwanegol – y mae'r gyfraith cydraddoldeb yn ei alw'n gymorth ategol – a gwasanaeth ategol, lle mae rhywun arall yno i'ch helpu, fel darllenwr, dehonglydd iaith arwyddion neu weithiwr cymorth.

Mae hyn yn golygu ei bod yn bosibl y bydd angen i gyflogwr ddarparu offer ychwanegol, cymhorthion neu wasanaethau ategol ar eich cyfer os ydych yn gweithio iddo neu'n gwneud cais i weithio gydag ef.

Gallai cymorth neu wasanaeth ategol ei gwneud yn haws i chi wneud eich swydd neu gymryd rhan mewn cyfweliad neu broses ddethol. Felly dylai'r cyflogwr ystyried p'un a yw'n rhesymol darparu hyn.

Byddai'r math o offer neu gymorth yn dibynnu:

  • arnoch chi fel unigolyn anabl
  • ar y swydd rydych yn ei gwneud neu y byddech yn ei gwneud neu beth sydd ynghlwm wrth y broses recriwtio.

Efallai eich bod yn gwybod beth sydd ei angen arnoch, neu efallai y gallech chi a'ch cyflogwr gael cyngor arbenigol gan rai o'r sefydliadau a restrir yn: Ffynonellau gwybodaeth a chyngor pellach.
 

Rhagor o wybodaeth

back to top