Mae'r ddyletswydd yn berthnasol i chi os ydych:
Mae'n berthnasol i bob cam a phob agwedd ar gyflogaeth. Felly, er enghraifft, lle bo'r ddyletswydd yn codi, rhaid i'ch cyflogwr wneud addasiadau rhesymol i weithdrefnau a phenderfyniadau disgyblu neu ddiswyddo. Nid oes ots p'un a oeddech yn berson anabl pan wnaethoch chi ddechrau gweithio iddo, neu os ydych wedi dod yn berson anabl tra'n gweithio iddo.
Gallai'r ddyletswydd fod yn berthnasol os ydych wedi rhoi'r gorau i weithio i gyflogwr.
Mae'r ddyletswydd hefyd yn berthnasol mewn perthynas â gwasanaethau cyflogaeth, mae yna rhai gwahaniaethau a cheir esboniad o’r rhain yn ddiweddarach yn y rhan hon o'r canllaw.
Mae'n bosibl y bydd angen addasiadau rhesymol mewn perthynas â chynlluniau pensiwn galwedigaethol hefyd. Caiff hyn ei esbonio yma.
Rhagor o wybodaeth