Pwy sy'n talu am addasiadau rhesymol?

Os yw rhywbeth yn cyfrif fel addasiad rhesymol, rhaid i'ch cyflogwr dalu amdano. Gellir ystyried cost addasiad wrth benderfynu a yw'n rhesymol ai peidio.

Fodd bynnag, mae cynllun gan y llywodraeth o'r enw Mynediad i Waith a allai eich helpu os yw eich iechyd neu'ch anabledd yn effeithio ar eich gwaith. Gallant eich helpu drwy roi cyngor a chymorth. Gall Mynediad i Waith helpu hefyd gyda chostau ychwanegol na fyddai'n rhesymol i'ch cyflogwr eu talu.

Er enghraifft, gallai Mynediad i Waith dalu'r gost o deithio i'r gwaith os na allwch ddefnyddio cludiant cyhoeddus, neu eich helpu i gyfathrebu mewn cyfweliad am swydd.

Gallech gael cyngor a chymorth gan Mynediad i Waith os ydych:

  • mewn swydd â thâl, neu
  • yn ddi-waith ac ar fin dechrau swydd, neu
  • yn ddi-waith ac ar fin dechrau Treial Gwaith, neu
  • yn hunangyflogedig,

a

  • bod eich anabledd neu gyflwr iechyd yn eich rhwystro rhag gwneud rhannau o'ch swydd.

Dylech sicrhau bod eich cyflogwr yn ymwybodol o Mynediad i Waith. Er mai chi fydd yn cael cyngor a chymorth, bydd eich cyflogwr yn elwa hefyd. Ceir gwybodaeth am Mynediad i Waith yn: Ffynonellau gwybodaeth a chyngor pellach
 
 

Rhagor o wybodaeth

back to top