Ni ddylai darparwr gwasanaeth cyflogaeth wahaniaethu'n anghyfreithlon yn erbyn pobl sy'n defnyddio'i wasanaethau, nac yn erbyn pobl sydd am ddefnyddio'i wasanaethau. Mae mwy o wybodaeth am ystyr hyn yn y Rhestr Termau.
Yn ogystal, mae dyletswydd ar y darparwr gwasanaeth cyflogaeth i wneud unrhyw addasiadau rhesymol, ac eithrio pan fydd yn darparu gwasanaeth galwedigaethol.
I ddarparwyr gwasanaeth cyflogaeth, yn wahanol i gyflogwyr, mae'r ddyletswydd yn 'rhagweledol'. Os yw sefydliad yn ddarparwr gwasanaeth cyflogaeth, mae'n golygu na all aros nes eich bod chi neu berson anabl arall am ddefnyddio'i wasanaethau, ond rhaid iddo feddwl ymlaen llaw (ac yn barhaus) ynghylch yr hyn y gallai fod ei angen yn rhesymol ar bobl anabl sydd ag amrywiaeth o namau, fel pobl sydd â nam ar eu golwg, nam ar eu clyw, nam symudedd, neu anabledd dysgu.
Er enghraifft:
Mae asiantaeth gyflogi yn sicrhau bod ei gwefan mor hygyrch â phosibl i bobl anabl ac y gall ddarparu gwybodaeth am swyddi gwag mewn amrywiaeth o fformatau amgen. Mae'r asiantaeth hefyd yn sicrhau bod staff yn cael eu hyfforddi i helpu pobl anabl sy’n cysylltu i ofyn am wybodaeth am swyddi.
Ni ddylai cynlluniau pensiwn galwedigaethol wahaniaethu'n anghyfreithlon yn erbyn pobl. Mae mwy o wybodaeth am ystyr hyn yng nghanllaw'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: Eich hawliau i gydraddoldeb yn y gwaith: cyflog a buddiannau.
Yn ogystal, rhaid i'r cynllun pensiwn galwedigaethol wneud addasiadau rhesymol i unrhyw ddarpariaeth, meini prawf neu arferion mewn perthynas â'r cynllun sy'n eich rhoi chi o dan anfantais sylweddol o gymharu â phobl nad ydynt yn anabl.
Er enghraifft:
Mae rheolau cynllun cyflog terfynol cyflogwr yn nodi bod uchafswm y pensiwn sydd ar gael yn seiliedig ar gyflog yr aelod yn ystod ei flwyddyn olaf yn y gwaith. Ar ôl gweithio'n llawn amser am 20 mlynedd, mae gweithiwr yn datblygu cyflwr sy'n golygu bod rhaid iddo leihau ei oriau gwaith ddwy flynedd cyn ei oedran pensiwn. Mae rheolau'r cynllun yn ei roi o dan anfantais o ganlyniad i'w anabledd, am y bydd y pensiwn yn cael ei gyfrif ar sail ei gyflog rhan amser. Mae'r ymddiriedolwyr yn penderfynu trosi cyflog rhan amser y cyflogwr i'w swm cywerth â llawn amser a lleihau'r amser cyfatebol o'i gyflogaeth ran amser sy'n cyfrif fel cyfnod pensiynadwy. Fel hyn, bydd ei enillion llawn amser yn cael eu hystyried. Mae hyn yn debygol o fod yn addasiad rhesymol i'w wneud.
Rhagor o wybodaeth