Tri gofyniad y ddyletswydd

Mae'r ddyletswydd yn cynnwys tri gofyniad sy'n berthnasol mewn sefyllfaoedd lle y byddai person anabl o dan anfantais sylweddol o gymharu â phobl nad ydynt yn anabl.

  •  Mae'r gofyniad cyntaf yn ymwneud â newid y ffordd y mae pethau’n cael eu gwneud (mae'r gyfraith cydraddoldeb yn sôn am pan fo gweithiwr anabl yn cael ei roi o dan anfantais sylweddol oherwydd darpariaeth, meini prawf neu arferion ei gyflogwr).

Er enghraifft:

Mae gan gyflogwr bolisi sy'n nodi bod mannau parcio penodedig yn cael eu cynnig i uwch reolwyr yn unig. Mae gweithiwr nad yw'n rheolwr, ond sydd â nam ar ei symudedd ac sydd angen parcio'n agos iawn i'r swyddfa, yn cael man parcio penodedig. Mae hyn yn debygol o fod yn addasiad rhesymol i bolisi parcio ceir y cyflogwr. 

  • Mae'r ail ofyniad yn cynnwys gwneud newidiadau i chwalu'r rhwystrau a grëir gan nodweddion ffisegol gweithle.

Er enghraifft:

Mae drysau gwydr clir ar ddiwedd coridor mewn gweithle penodol yn beryglus i weithiwr sydd â nam ar ei olwg. Mae ychwanegu sticeri neu arwyddion eraill i'r drysau sy'n sicrhau eu bod yn fwy gweladwy yn debygol o fod yn addasiad rhesymol i'r cyflogwr ei wneud.

  • Mae'r trydydd gofyniad yn cynnwys darparu offer ychwanegol (y mae'r gyfraith cydraddoldeb yn ei alw'n gymorth ategol) neu gofyn i rywun wneud rhywbeth i'ch helpu (y mae'r gyfraith cydraddoldeb yn ei alw'n wasanaeth ategol).

Er enghraifft:

Mae cyflogwr yn darparu meddalwedd arbenigol i aelod o staff sy'n datblygu nam ar y golwg ac y mae ei swydd yn cynnwys defnyddio cyfrifiadur.

Caiff yr holl ofynion hyn eu hystyried yn fanylach yn ddiweddarach yn y rhan hon o'r canllaw.
 

Rhagor o wybodaeth

back to top