Creu Prydain Decach
Y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975
Mae’r Ddeddf Cyflog Cyfartal, a’i diwygiadau, yn berthnasol i gyflog neu fuddion a ddarperir dan gontract cyflogaeth. Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975, a’i diwygiadau, yn ategu’r Ddeddf Cyflog Cyfartal. Mae’n ymwneud â materion di-gontractol fel recriwtio, hyfforddiant, dyrchafiad, diswyddo a dyrannu buddion, er enghraifft, gweithio hyblyg neu ddefnyddio ysgol feithrin y gweithle. Mae hefyd yn trin materion cyflog di-gontractol, fel dyrchafiadau a buddion dewisol. Golyga hyn y bydd hawliad sy’n ymwneud â thaliadau di-gontractol neu â thaliadau dewisol yn cael ei wneud o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw.
Nid oes yna wahaniaeth clir bob tro rhwng hawliadau o dan y Ddeddf Cyflog Cyfartal a hawliadau o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw. Os yw penderfyniadau am farciau perfformiad mewn cynllun cyflog sy’n seiliedig ar berfformiad yn gwahaniaethu, gellid eu herio o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw. Mewn cyferbyniad â hynny, pan fo’r penderfyniadau hynny’n golygu bod pobl yn derbyn lefelau cyflog gwahanol gellid herio’r gwahaniaeth a’r telerau hynny o dan y Ddeddf Cyflog Cyfartal. Os oes yna unrhyw amheuaeth ynglŷn â pha ddeddf sy’n berthnasol, dylid ceisio cyngor cyfreithiol.
Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw a’i diwygiadau, ynghyd â Deddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993, hefyd yn galluogi menyw i wneud cais i ddileu yn swyddogol delerau neu reolau cyflogwr mewn cydgytundeb.
Gellir cyflwyno hawliadau o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw o fewn tri mis ar ôl y weithred honedig o wahaniaethu, yn amodol ar ddisgresiwn y tribiwnlys i ymestyn y terfyn amser pan fo rheswm cyfiawn a theg dros wneud hynny. Y terfyn amser ar gyfer personél y Lluoedd Arfog yw chwe mis ar ôl y dyddiad y gwnaed cwyn am y weithred os ydynt wedi dilyn y gweithdrefnau priodol.