Creu Prydain Decach
Rydym yn y broses o ddiweddaru’n pecyn cymorth i gyflogwyr ar reoli beichiogrwydd a rhieni newydd. Yn y cyfamser, cewch wybodaeth ar hawliau ac ymrwymiadau mamogaeth a thadolaeth ar wefan Direct Gov.
Ar wefan Acas cewch wybodaeth, yn cynnwys cwestiynau cyflogwyr am:
Cynhyrchodd y Comisiwn Cyfle Cyfartal cynt nifer o adnoddau i gynorthwyo cyflogwyr i reoli menywod beichiog a rhieni, gan gynnwys ymdrin ag absenoldeb mamolaeth a rhieni, rheoli salwch, amser o’r gwaith am resymau sy’n ymwneud â beichiogrwydd a darparu ar gyfer partneriaethau o’r un rhyw a gweithwyr cyflogedig anabl.
Mae gan rieni plant o dan chwech oed neu o dan 18 oed yn achos plant anabl, yr hawl i wneud cais i weithio’n hyblyg. Nid yw’r weithdrefn newydd yn hawl awtomatig i weithio’n hyblyg ond mae gan gyflogwyr ddyletswydd statudol i drin ceisiadau’n ddifrifol.
I fod yn gymwys, rhaid i weithwyr cyflogedig fod wedi cwblhau 26 wythnos o wasanaeth parhaus i’w cyflogwr.
Gall gweithwyr cyflogedig ofyn am newid eu horiau gwaith, newid yr amserau y mae’n rhaid iddyn nhw weithio’r oriau hynny neu weithio gartref. Mae dewisiadau’n cynnwys rhannu swydd a gweithio yn ystod y tymor.
Mae mamau wedi hawlio’n llwyddiannus bod gwrthod caniatáu hyblygrwydd yn gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn eu herbyn. Mae hyn ar y sail bod y gofyniad i weithio’n llawn amser, er enghraifft, yn debygol o effeithio ar eu swyddogaeth fel prif ofalwr pobl ddibynnol. Gall dynion hawlio gwahaniaethu anghyfreithlon os yw eu cais i weithio’n hyblyg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais tebyg gan gydweithwraig, ac i’r gwrthwyneb.
Mae yna weithdrefn ffurfiol i gyflogwyr a’u gweithwyr cyflogedig ei dilyn. Gall gweithwyr cyflogedig sy’n gymwys i ofyn am weithio’n hyblyg gyflwyno’u cais i dribiwnlys cyflogaeth os ydyn nhw’n credu nad yw eu cyflogwr wedi dilyn y weithdrefn gywir.
Cyflwynwyd yr hawl i absenoldeb rhiant ac absenoldeb ar gyfer pobl ddibynnol yn y DU o dan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 gan Reoliadau Absenoldeb Mamolaeth a Rhieni 1999. Gall pob rhiant gymryd 13 wythnos ar gyfer pob plentyn, neu 18 wythnos os yw’r plentyn yn anabl. Mae absenoldeb rhieni, ar hyn o bryd, yn ddi-dâl.
Mae absenoldeb rhiant yn y DU wedi’i gyfyngu i’r cyfnod cyn bod y plentyn yn 5 oed, (neu 18 oes os yw’r plentyn yn anabl) neu cyn pen pum mlynedd o’i leoli (a chyn bo’r plentyn yn 18 oed) yn achos mabwysiadu.
Roedd yn rhaid i rieni oedd â phlant wedi’u geni cyn 15 Rhagfyr 1999 gymryd eu habsenoldeb rhieni erbyn 31 Mawrth 2005. Yn achos plentyn anabl, mae ganddyn nhw hyd at ben-blwydd eu plentyn yn 18 oed i gymryd eu habsenoldeb.
Mae gan weithwyr cyflogedig hawl i gymryd amser o’r gwaith i ddelio ag argyfwng sy’n ymwneud â phobl ddibynnol ac i beidio â chael eu diswyddo neu eu herlyn am hynny. Nid oes gofyniad o ran hyd gwasanaeth i gael yr hawl hon felly mae ar gael i gyfran fwy o lawer o’r gweithlu na’r rhai sydd â hawl i absenoldeb rhiant.
Nid oes hawl i absenoldeb â thâl ond mae gan rai cyflogwyr drefniadau ar waith i roi amser o’r gwaith â thâl ar gyfer argyfyngau. Mae gweithwyr cyflogedig sy’n gorfod cymryd amser o’r gwaith ar gyfer argyfwng yn wynebu rhagor o straen am eu bod yn colli incwm ar adeg fel hyn ac yn gwerthfawrogi cyflogwr sy’n darparu absenoldeb argyfwng â thâl.
Gall cyflogwyr gynnwys diffiniad ehangach o bwy sydd wedi’u cynnwys, ond mae’r ddeddfwriaeth yn datgan bod dibynnydd yn:
Yn achos salwch, anaf neu drefniadau gofal sy’n methu gall dibynnydd gynnwys:
Lluniwyd yr hawl er mwyn gallu ymdrin â phroblem annisgwyl a rhoi trefniadau tymor hirach ar waith ar gyfer dibynnydd pan: