Creu Prydain Decach
Ymhle caiff eich hawliau dynol eu gosod allan?
Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn gosod allan hawliau yn y DU sy’n cael eu diogelu gan y Cytundeb Ewropeaidd dros Hawliau Dynol.
Nid yw’r ddeddf wedi creu hawliau dynol i bobl Prydain. Yn lle hynny, cyflwynodd rhai o’r hawliau a osodwyd allan yn y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol a dogfennau rhyngwladol eraill i’n cyfraith gartref ni.
Yn fwy penodol, rhoddodd mwy o nerth yn y DU i’r hawliau a’r rhyddid sy’n cael eu diogelu gan y Cytundeb Ewropeaidd dros Hawliau Dynol, cytundeb y bu i gyfreithwyr Prydeinig helpu i’w lunio.
Felly, mae’r Ddeddf yn golygu bod yr hawliau sylfaenol hyn a’r rhyddid hwn yn haws i’w diogelu yn y DU erbyn hyn.
I bwy mae'r Ddeddf Hawliau Dynol yn berthnasol?
Mae’r Ddeddf yn berthnasol i bob awdurdod cyhoeddus (megis adrannau’r llywodraeth ganolog, awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau GIG) a chyrff eraill sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus (megis cwmnïau preifat sy’n rhedeg carchardai). Rhaid i’r sefydliadau hyn gydymffurfio â’r Ddeddf – a’ch hawliau dynol chi – wrth ddarparu gwasanaeth i chi neu wrth wneud penderfyniadau sy’n cael effaith amlwg ar eich hawliau.
Er nad yw’r Ddeddf yn perthyn i unigolion neu gwmnïau preifat (ac eithrio os ydynt yn cyflawni swyddogaethau cyhoeddus), weithiau bydd gan awdurdod cyhoeddus ddyletswydd i atal pobl neu gwmnïau rhag cam-drin eich hawliau dynol. Er enghraifft, bydd gan awdurdod cyhoeddus sy’n gwybod bod plentyn yn cael ei gam-drin gan ei rieni ddyletswydd i ddiogelu’r plentyn rhag triniaeth greulon neu ddiraddiol.
Nid eich hawliau dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 yw'r unig hawliau sydd gennych. I wybod sut mae'r gyfraith yn diogelu hawliau eraill, ewch i eich hawliau ar waith a cydraddoldeb ac amrywiaeth.
A ellir cyfyngu hawliau dynol o gwbl?
Mae rhai hawliau dynol – megis yr hawl i beidio â chael eich arteithio – yn absoliwt. Nid yw’n bosibl i’r llywodraeth ymyrryd â’r hawliau ‘absoliwt’ hyn dan unrhyw amgylchiadau.
Fodd bynnag, nid yw’r rhan fwyaf o hawliau dynol yn absoliwt. Gellir cyfyngu rhai o’r hawliau hyn mewn rhai amgylchiadau, fel y gosodir allan yn yr erthygl benodedig yn y Cytundeb Ewropeaidd dros Hawliau Dynol. Er enghraifft, gellir cyfyngu eich hawl i ryddid dim ond mewn amgylchiadau penodedig, megis os ydych yn cael eu heuogfarnu a’ch dedfrydu i garchar.
Gellir cyfyngu hawliau eraill dim ond pan fydd amodau cyffredinol penodol yn cael eu diwallu, er enghraifft, os bydd angen hyn er mwyn diogelu hawliau unigolion eraill neu er budd y gymuned ehangach. Er enghraifft, mae’n bosibl y gall y llywodraeth gyfyngu eich hawl i ryddid o fynegiant os ydych yn annog casineb hiliol.