Beth mae’n ei olygu i chi?
Canllaw i bobl anabl a sefydliadau pobl anabl
Os ydych chi’n unigolyn anabl, mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (y Confensiwn) i chi.
Cytundeb hawliau dynol rhyngwladol newydd yw’r Confensiwn sy’n:
Crëwyd y Confensiwn gan nad yw ein hawliau dynol yn aml yn cael eu parchu a gan ein bod yn wynebu llawer o rwystrau i gynhwysiant mewn cymdeithas.
Nid ‘datganiad’ ar bapur heb unrhyw ddannedd yw’r Confensiwn. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r llywodraeth gymryd camau i ddileu rhwystrau a sicrhau rhyddid, urddas a chydraddoldeb go iawn i bobl anabl. Gallwn ei ddefnyddio mewn llawer o wahanol ffyrdd i sicrhau bod ein hawliau’n cael eu parchu ac i sicrhau cytundeb gwell.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth o’r Confensiwn ymhlith pobl anabl, cynghorwyr cyfreithiol a chyrff cyhoeddus.
Nod y Comisiwn yw sicrhau bod Prydain yn gwneud cynnydd cyflym tuag at wireddu hawliau’r Confensiwn ar gyfer pobl anabl.
Rydym wedi cynhyrchu’r canllaw hwn fel y gallwch chi ddysgu:
Mae’r canllaw hwn ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Gobeithio y bydd o ddefnydd i chi. Mae Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon a Chomisiwn Hawliau Dynol Gogledd Iwerddon wedi cynhyrchu canllaw ar wahân sy’n esbonio sut y bydd y Confensiwn yn gweithio yng Ngogledd Iwerddon.
Mike Smith
Comisiynydd a Chadeirydd y Pwyllgor Anabledd, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.