Rhan 2 Gwybod eich hawliau

Mae’r Rhan hon yn sôn am:

Os ydych chi’n credu bod eich hawliau dynol wedi’u torri neu y dylai corff cyhoeddus, er enghraifft, eich cyngor, gwasanaeth iechyd neu lywodraeth, wneud mwy i ddiogelu’ch hawliau, dylech ystyried yr holl hawliau a all fod yn berthnasol i’ch sefyllfa. Yn aml, bydd mwy nag un hawl yn berthnasol.

Gan fod y Confensiwn yn newydd o hyd, nid yw wedi cael ei ddefnyddio rhyw lawer eto. Felly, ni allwn roi enghreifftiau bywyd go iawn. Wrth i’r Confensiwn gael ei ddefnyddio’n amlach, byddwn yn dysgu mwy am yr hyn mae’n ei olygu’n ymarferol. Lle’n bosibl, rydym wedi defnyddio enghreifftiau i helpu i esbonio beth y gallai pob Erthygl ei olygu’n ymarferol. Mae rhai o’r Erthyglau yn y Confensiwn yn cynnwys camau mwy trylwyr y gall llywodraethau eu cymryd neu faterion mwy cymhleth. Felly, rydym wedi cynnwys mwy o esboniadau ac enghreifftiau ar gyfer rhai o’r Erthyglau.

Gwelwch fod rhai o erthyglau’r Confensiwn yn eang iawn, er enghraifft, Erthygl 5 (sy’n sôn am gydraddoldeb a pheidio â gwahaniaethu), a bod rhai’n gorgyffwrdd, er enghraifft, Erthygl 15 (sy’n sôn am ryddid rhag artaith a thriniaeth ddiraddiol) ac 16 (sy’n sôn am gam-fanteisio a chamdriniaeth).
 

back to top