Rhan 3 Gwireddu hawliau

Mae yna sawl ffordd wahanol y gallwch chi gymryd rhan yn y Confensiwn er mwyn gwireddu’r hawliau. Mae’r Rhan hon yn nodi’r gwahanol bethau y gallwch chi eu gwneud i sicrhau bod y Confensiwn yn cael ei roi ar waith – yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.  Mae’n cynnwys:

Beth allaf i ei wneud i hyrwyddo’r Confensiwn ymhlith pobl anabl a chyrff cyhoeddus?
Sut allaf i ddefnyddio’r Confensiwn i wella fy mywyd a bywyd pobl anabl eraill ym Mhrydain?
Sut allaf i gymryd rhan yn y gwaith o fonitro ac adrodd?
Sut allaf i gwyno bod y Confensiwn wedi’i dorri?

Mae’r Confensiwn yn rhoi dyletswyddau ar y llywodraeth i gymryd camau i ddiogelu a hyrwyddo hawliau dynol pobl anabl. Er nad yw’r Confensiwn yn rhoi dyletswyddau cyfreithiol uniongyrchol ar gyrff cyhoeddus, rhaid iddynt yr un fath ymddwyn mewn modd sy’n cyd-fynd â hawliau dynol pobl anabl. Gallai hyn gynnwys cymryd camau cadarnhaol i fodloni’r safonau a osodwyd yn y Confensiwn. Pan fydd cyrff cyhoeddus yn comisiynu gwasanaethau gan sefydliadau o’r sectorau preifat neu wirfoddol, dylent sicrhau bod y sefydliadau hynny’n parchu hawliau dynol pobl anabl.

Mae pobl anabl wedi bod yn defnyddio’r Ddeddf Hawliau Dynol i newid pethau yn eu bywydau pob dydd. Er enghraifft, cafodd menyw anabl oedd angen math arbennig o wely (fel y gallai godi’n hawdd) wybod gan ei hadran therapi galwedigaethol lleol y byddent ond yn talu am wely sengl.  Ond byddai hyn yn golygu na allai gysgu nesaf at ei gŵr.  Ddeunaw mis yn ddiweddarach, yn dilyn cyngor cyfreithiol, atgoffodd yr awdurdod bod yn rhaid iddo barchu ei hawl i gael bywyd preifat a theuluol. O fewn teirawr, roedd yr adran therapi galwedigaethol wedi cael gafael ar arian i brynu gwely dwbl iddi.
 

back to top