Os ydych o’r farn bod eich hawliau dynol wedi’u torri ac nid ydych wedi llwyddo i ddatrys y broblem gyda’r person neu’r sefydliad dan sylw, dichon yr hoffech ystyried cwyno wrth berson neu sefydliad allanol.
Gallwch gwyno wrth eich cynghorwr lleol neu’ch AS. O ystyried natur y broblem, dichon fod person neu sefydliad wedi’i neilltuo i roi cymorth â phroblemau penodol, megis y comisiynwyr plant:
Efallai, gallwch gyfeirio’ch cwyn at yr arolygiaeth neu’r comisiwn perthnasol ar gyfer ymchwiliad posibl. Gweler rhestr sefydliadau isod.
Gan ddibynnu ar y math o broblem sydd gennych, gallech ystyried mynd â’ch stori at y cyfryngau lleol, rhanbarthol neu genedlaethol - neu ymgymryd â math arall o ymgyrchu. Gwnewch yn siŵr i feddwl yn ofalus cyn gwneud hyn gan y gall weithiau wneud mwy o niwed na budd.
Rhydd y rhestr sefydliadau cwynion isod fwy o wybodaeth ichi am ba sefydliadau y bydd, efallai, yn briodol ar gyfer eich sefyllfa arbennig chi. Ni wnaiff neb ohonynt godi tâl arnoch am archwilio eich achos, ond nid oes rhaid iddynt ymchwilio i bob cwyn. Ni wnânt hynny ond pan ydynt o’r farn bod y cwyn yn un dilys.
Mae ombwdsmyn llywodraeth leol wahanol ar gyfer Cymru, yr Alban a Lloegr.
Gall yr ombwdsmyn llywodraeth leol ymchwilio i gwynion am awdurdodau lleol a rhai sefydliadau arbennig eraill. Gallant ymchwilio i gwynion am y rhan fwyaf o faterion y cyngor, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol ac addysg. Mae rhaid i chi roi cyfle i’r cyngor neu’r awdurdod dan sylw ddelio â’r gŵyn yn ei erbyn yn gyntaf.
Gallwch ganfod sut i wneud cwyn drwy edrych ar eu gwefannau, neu gysylltu â’u llinellau cymorth.
Ombwdsmon Llywodraeth Leol yng Nghymru
http://www.ombudsman-wales.org.uk/cy/
Ffôn: 01656 641 150
Ombwdsmon Llywodraeth Leol yn Lloegr
www.lgo.org.uk
Ffôn: 0845 602 1983
Ombwdsmon Llywodraeth Leol yn yr Alban
www.spso.org.uk
Ffôn: 0800 377 7330
Mae ombwdsmon yr Alban yn rhoi manylion am gyrff cwynion eraill hefyd.
Y Care Quality Commission yw’r rheolydd dros ofal cymdeithasol ac iechyd yn Lloegr. Eu swydd yw sicrhau bod y gofal sy’n cael ei ddarparu gan ysbytai, deintyddion, ambiwlansys, cartrefi gofal a gwasanaethau yng nghartrefi’r bobl eu hunain ac mewn mannau eraill yn bodloni safonau’r llywodraeth o ran ansawdd a diogelwch.
www.cqc.org.uk
Ffôn: 03000 616161
Mae’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd yn ymchwilio i gwynion am adrannau’r llywodraeth, eu hasiantaethau a rhai awdurdodau cyhoeddus eraill yn y Deyrnas Unedig (a’r GIG yn Lloegr) sy heb weithredu’n briodol neu’n deg neu sy wedi darparu gwasanaeth sâl. Cewch wybodaeth fanwl am sut i wneud cwyn ar y wefan.
Post: Millbank Tower, Millbank, London, SW1P 4QP
Llinell gymorth cwynion: 0345 015 4033
E-bost: phso.enquiries@ombudsman.org.uk
Gwefan: www.ombudsman.org.uk
Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn derbyn cwynion gan bobl sydd wedi cael cam gan bersonau sy’n gwasanaethu gyda’r Heddlu.
Mae’r Comisiynydd yn adolygu sut mae cwynion yn erbyn yr heddlu, awdurdodau’r heddlu neu asiantaethau plismona wedi cael eu trin.
www.pcc-scotland.org
Ffôn: 0808 178 5577
Mae hon yn hyrwyddo mynediad at wybodaeth swyddogol ac yn diogelu gwybodaeth bersonol drwy hyrwyddo arfer dda, dyfarnu ar gwynion dilys, darparu gwybodaeth i unigolion a sefydliadau, a chymryd camau priodol pan fo’r gyfraith wedi’i thorri.
www.ico.gov.uk
Ffôn: 08456 30 60 60
Gweler Direct.gov.uk, hefyd, am fwy o sefydliadau.