Mesur Hawliau

Mae’r Llywodraeth wedi bod yn ymgynghori â’r cyhoedd ar greu Mesur Hawliau i Brydain, gyda’r gobaith o gadw hawliau dynol a sifil yng nghyfraith Prydain mewn modd sy’n datblygu ar y Ddeddf Hawliau Dynol sydd eisoes yn bod. Hwyrach bydd y mesur, er enghraifft, yn ymestyn cyfrifoldebau a hawliau ym meysydd hawliau cymdeithasol ac economaidd a hawliau plant.
Er bod y dadlau wedi dechrau, ni gyflwynir cynigion i’r Senedd cyn yr etholiad cyffredinol nesaf. Mae’r Blaid Geidwadol wedi nodi y byddai’n cyflwyno’r Mesur Hawliau fel ailosodiad i’r Ddeddf Hawliau Dynol. Byddai’i mesur yn pwysleisio ar gyfrifoldebau ac yn gwella cwmpas y diogelwch cyfredol. 
Mae esblygiad y Mesur Hawliau yn ganolog i waith y Comisiwn. Rydym, felly, wedi datblygu set o egwyddorion allweddol sydd yn ein tyb ni’n angenrheidiol i ddatblygu Mesur Hawliau a fydd yn rhoi i ni'r holl ddiogelwch  sydd eu hangen arnom yn ogystal â mewnosod dealltwriaeth well o egwyddorion hawliau dynol i’r gymdeithas gyfan.
Canfyddwch ragor ar ein gwaith ar y Mesur Hawliau ac ar ein hegwyddorion allweddol

back to top