Mae’r rhan aruthrol o bobl ym Mhrydain yn cefnogi deddfwriaeth sy’n diogelu’u hawliau dynol ac mae defnyddwyr a darparwyr fel ei gilydd yn elwa pan fo dull hawliau dynol yn cael ei gorffori i mewn i wasanaethau cyhoeddus, mae’r Ymchwiliad Hawliau Dynol wedi canfod.
Yn ôl arolwg Ipsos MORI o bron i 2,000 o oedolion a gomisiynwyd fel rhan o’r Ymchwiliad, dywedodd 84 y cant ohonynt eu bod nhw eisiau i hawliau dynol cael eu cynnwys yn y gyfraith i’w hunain a’u teuluoedd ac ystyriai 81 y cant o bobl y bod hawliau dynol yn bwysig wrth greu cymdeithas decach. Darllenwch fwy am ganfyddiadau’r cyhoedd o hawliau dynol yn ôl yr arolwg (pdf).
Yn yr astudiaeth fawr gyntaf i’r graddau y mae awdurdodau sector cyhoeddus wedi mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar hawliau wrth gyflawni’u gwasanaethau, canfu’r Ymchwiliad y bod canlyniadau llwyddiannus wedi’u cyflawni pan fo hawliau dynol wrth wraidd cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i helpu i fewnblannu hawliau dynol yn y sector cyhoeddus. Maen nhw’n cynnwys:
Ysgogi’r rhai sy’n arwain mewn awdurdodau cyhoeddus i helpu i sicrhau y bod eu staff yn blaenoriaethu hawliau dynol. Gallai hyn gynnwys apwyntio ‘amddiffynnydd hawliau dynol’ yn y sector cyhoeddus.
Darparu hyfforddiant, cyngor, gwybodaeth well ac adnoddau a dargedwyd, i’r cyrff priodol yn y sector cyhoeddus. Bydd y Comisiwn yn archwilio opsiynau ar gyfer gweithio gyda chyrff cyhoeddus amrywiol i ddarparu mwy o arweiniad a chyngor a dargedwyd ar sut y gellir cymhwyso hawliau dynol yn effeithiol i’r gwasanaethau y maen nhw’n cyflenwi.
Helpu awdurdodau cyhoeddus a grwpiau gwirfoddol i roi dull hawliau dynol yng nghraidd eu prosesau gwneud penderfyniadau, strategaethau a chynlluniau busnes. Mae’r Comisiwn yn argymell bod y Llywodraeth yn ymgynghori ar ba un ai a ddylai ‘dyletswydd hawliau dynol’ statudol gael ei dwyn i mewn ochr yn ochr â’r dyletswyddau sector cyhoeddus sy’n bodoli, ai peidio.
Dylai’r Llywodraeth adolygu pa un ai a ddylai’r Comisiwn gael darparu cynhorthwy cyfreithiol i’r cyhoedd ai peidio, mewn achosion sy’n ymwneud â deddfwriaeth hawliau dynol yn unig.
Lansiwyd yr Ymchwiliad Hawliau Dynol ym mis Ebrill 2008, o dan ein pwerau statudol, i ganfod sut mae hawliau dynol yn gweithio ym Mhrydain. Rydym wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn edrych ar y materion. Yn ychwanegol i ymchwil manwl traddodiadol, pleidleisio’r cyhoedd a gwaith grwpiau ffocws, gwnaethom gynnal cyfres o sesiynau tystiolaeth cyhoeddus i glywed gan dystion.
Mae’r montage fideo isod yn rhoi cipolwg ar bedwar Achos Astudiaeth. Cewch wylio fideo mwy manwl a chanfod mwy am bob un ar dudalennau’r astudiaethau achos.