Crynodeb ar-lein

How fair is Britain? Executive summary cover

Crynodeb Gweithredol o Ba mor deg yw Prydain? Yr Adolygiad Teirblwydd cyntaf

Pob tair blynedd mae gofyn i ni adrodd i’r Senedd ar gynnydd cymdeithas mewn perthynas â chydraddoldeb, hawliau dynol a chysylltiadau da. Dyma’r adroddiad o’n Hadolygiad Teirblwydd cyntaf.

Cyflwyniad

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff cyhoeddus a sefydlwyd i herio gwahaniaethu, i ddiogelu a hyrwyddo cydraddoldeb a pharch i hawliau dynol, ac i annog cysylltiadau da rhwng pobl o wahanol gefndiroedd.
 
Ein gweledigaeth yw cymdeithas sy’n gyfforddus gydag amrywiaeth, ble mae gan bob unigolyn gyfle i gyflawni ei botensial, a ble gall pobl ymwneud â’i gilydd ag urddas a pharch.

Pob tair blynedd mae gofyn i’r comisiwn adrodd i’r Senedd ar gynnydd cymdeithas tuag at y weledigaeth hon.

Dyma’r Arolwg cyntaf o’r fath. Mae’n casglu ynghyd dystiolaeth gan ystod o ffynonellau, yn cynnwys data’r Cyfrifiad, arolygon ac ymchwil, i roi darlun o i ba raddau mae’r hyn sy’n digwydd ym mywydau go iawn pobl yn cyd-fynd â’r ideoleg o gydraddoldeb. Yn ei hanfod, mae’n helpu ateb y cwestiwn – pa mor deg yw Prydain heddiw?

 

Cyd-destun yr Arolwg

Ar nifer o fesurau gwrthrychol, mae Prydain yn gymdeithas llawer mwy amrywiol nag oedd genhedlaeth yn ôl. Mae bron i un o bob 10 plentyn ym Mhrydain yn cael ei fagu mewn cartref hil gymysg. Mae strwythur oed cymdeithas yn newid, gyda chyfran gynyddol o’r boblogaeth dros 50 oed. Yn y cyfamser, mae rhai grwpiau lleiafrifol a oedd fwy neu lai’n anweledig yn y gorffennol - er enghraifft, pobl drawsrywiol - wedi dod yn fwyfwy hyderus ynglŷn â mynegi eu hunaniaeth mewn cylchoedd cyhoeddus.

Wrth i gymdeithas ddatblygu i fod yn fwy amrywiol mewn termau gwrthrychol, mae agweddau goddrychol wedi dechrau newid. Mewn sawl ffordd, mae Prydeinwyr yn dod yn llawer mwy goddefgar o wahaniaethau ac yn fwy croesawgar o ran amrywiaeth.

Mae’r newid mewn agweddau tuag at bobl lesbiaidd, hoyw a deuryw yn emblematig. Mae bwlch o lai nag 20 mlynedd rhwng y drafodaeth ynglŷn ag Adran 28, darn o gyfraith a ddifenwodd berthnasau un rhyw, a phartneriaethau sifil, darn o gyfraith a roddodd gydnabyddiaeth gyfreithiol i’r perthnasau hynny. Cafwyd newidiadau mewn agweddau ynglŷn â hil hefyd – mae pobl yn gynyddol gyfforddus gyda’r syniad o weithio gydag ac ar gyfer pobl o wahanol gefndir ethnig i’w un eu hunain. Mae rhai ystrydebau rhyw, megis y syniad mai “yn y cartref dylai menyw fod”, wedi dechrau diflannu.

Mae Prydain yn gynyddol gyfforddus gyda’i amrywiaeth, yn falch o’i dreftadaeth o “chwarae teg”, ac yn gefnogol o’r delfrydau o gydraddoldeb a hawliau dynol.

Ynghyd â’r newid mewn agwedd, mae ffawd rhai o’r grwpiau wedi gwella’n sylweddol gyda datblygiadau cymdeithasol, economaidd a thechnolegol fel y cafwyd newid gwirioneddol yn yr hyn sy’n digwydd ym mywydau pobl.

Mae rhai mathau o wahaniaethu wedi diflannu, a rhai o’r gwahaniaethau mewn cyflawniadau rhwng gwahanol grwpiau wedi lleihau:

  • Mae myfyrwyr Duon Caribïaidd a Bangladeshaidd wedi dechrau dal i fyny â’r perfformiad cyfartalog mewn TGAU.
  • Mae’r bwlch rhwng cyflogau’r rhywiau wedi lleihau’n sylweddol ers i’r Ddeddf Cyflog Cyfartal 1970 ddod i rym yn 1975.
  • Mae’r system gyfiawnder troseddol bellach yn cydnabod y gwahanol fathau o droseddau casineb ac mae wedi dechrau darparu cefnogaeth fwy priodol i bobl sy’n ei brofi.

Yn syml, mae Prydain wedi datblygu i fod yn lle tecach.

Fodd bynnag, dengys y dystiolaeth yn glir waeth pa ddatblygiad a gafwyd ar gyfer rhai grwpiau mewn rhai llefydd, nad yw’r deilliannau yn symud mor bell nac mor gyflym ag y dylent i rai.

Mae grwpiau penodol, yn cynnwys Sipsiwn a Theithwyr a rhai mathau o fewnfudwyr, yn dal yn debygol o ddod ar draws agweddau negyddol. Er ei bod yn bosibl fod agweddau prif ffrwd tuag at grwpiau eraill wedi gwella, mae nifer o bobl yn profi rhagfarn. Ac mae rhai grwpiau o bobl ar gyfartaledd yn llawer mwy tebygol nag eraill i wneud yn well o ran addysg, gwaith a bywyd cyhoeddus. Mewn geiriau eraill, mae yna fwlch rhwng yr hyn y credwn ddylai cymdeithas fod, a beth yw mewn gwirionedd; rhwng y delfryd a’r realiti, rhwng ein gobeithion a’n cyraeddiadau.

I wneud pethau’n waeth, mae’r argyfyngau economaidd a chymdeithasol presennol yn bygwth lledaenu rhai bylchau cydraddoldeb y gellid fod wedi eu cau mewn cyfnod gwell. Ac yn olaf, heb weithredu cywirol mae tueddiadau tymor hirach, megis newidiadau technolegol a demograffig, yn debygol o sefydlu mathau newydd o anghydraddoldeb.

Mae’r arolwg hwn yn ceisio nid yn unig dangos ble cafwyd cynnydd mewn cymdeithas, ond hefyd ble mae’r bylchau rhwng gwahanol grwpiau fwyaf, ac i wneud argymhellion ynglŷn â ble ddylai cymdeithas ganolbwyntio ei hymdrechion.

Mae nifer o bobl yn ystyried taclo materion cydraddoldeb a thegwch i fod yn waith i ddeddfau gwrthwahaniaethu, grwpiau eirioli, neu lywodraeth, ac y dylid delio â nhw yn defnyddio rhaglenni gweithgaredd annibynnol, ymylol yn aml, wedi eu hanelu at grwpiau penodol. Ond daw’r effaith fwyaf ar y cyfleoedd sy’n agored i unigolion o benderfyniadau pob dydd ym mhob rhan o gymdeithas, gyda’r mwyafrif yr un mor berthnasol i bawb.

Mae penderfyniad i fuddsoddi mewn busnes newydd neu i newid gwasanaeth cyhoeddus yn debygol o effeithio ar wahanol grwpiau mewn gwahanol ffyrdd – weithiau er gwell, weithiau er gwaeth. Hanfod gwneud penderfyniadau teg yw y dylai’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau a’r rhai a effeithir wybod yn bendant beth fydd oblygiadau unrhyw benderfyniadau penodol. Dyma pam fod argaeledd data mor bwysig.

Yn gryno, trwy ddarparu’r data hwn a nodi’r newidiadau mwyaf arwyddocaol, mae’r Arolwg yn llunio’r hyn y gellid ei ddisgrifio fel agenda ar gyfer tegwch. Mewn adeg o ddiwygio economaidd, cymdeithasol a sefydliadol arwyddocaol, mae’n darparu meincnod allweddol i benderfynyddion farnu p’un a fydd eu dewisiadau yn agor neu’n cau bylchau cydraddoldeb arwyddocaol. A, bydd yn eu caniatáu i arolygu cynnydd o ran gwneud Prydain yn genedl decach i bawb. 
 
 

Tystiolaeth a meysydd allweddol

Bylchau Data

Heriau Arwyddocaol

Camau Nesaf

Llyfryddiaeth

back to top