Roedd gan ferch a aned ar ddechrau’r ugeinfed ganrif gyfartaledd disgwyliad oes o lai na 50 mlynedd. Mewn cyferbyniad, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn rhagweld y bydd merched a enir yn 2008 yn byw, ar gyfartaledd, am dros 90 o flynyddoedd. Mae’r cynnydd hynod hwn yn dyst i lwyddiannau meddygol, newidiadau yn economi Prydain, a gwelliannau mewn diet a thai sydd wedi chwyldroi bywyd yn ystod y ganrif ddiwethaf.
Er gwaethaf y cynnydd hwn, rydym yn dal i weld gwahaniaethau sylweddol rhwng disgwyliadau oes gwahanol grwpiau ym Mhrydain fodern. Mewn ambell achos, nid ydym yn gwybod p’un a yw’r gwahaniaethau hyn o ganlyniad i ragdueddiadau genetig cynhenid. Mewn achosion eraill, mae’r dystiolaeth yn awgrymu fod y gwahaniaethau mewn disgwyliad oes yn adrodd stori ynglŷn ag effaith gronnol yr anghydraddoldebau a brofir gan wahanol grwpiau. Yn y cyfamser, mae data mwy penodol ar yr hyn sy’n achosi marwolaeth gynnar yn awgrymu methiant ar ran y wladwriaeth i ddiogelu bywydau pobl o wahanol grwpiau yn gyfartal.
Mae disgwyliad oes dynion yn is na menywod, er bod y bwlch yn lleihau’n raddol iawn gydag amser.
Mae rhai astudiaethau’n awgrymu gwahaniaethau mewn cyfraddau disgwyliad oes rhwng grwpiau lleiafrifoedd ethnig. Mae rhywfaint o dystiolaeth fod rhai grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o farw yn gynnar o achosion penodol. Mae pobl dduon yn fwy tebygol o fod yn ddioddefwyr llofruddiaeth nag aelodau grwpiau ethnig eraill. Mae nifer anghyfartal o bobl sy’n marw wedi cyswllt â’r heddlu hefyd yn Ddu. Mae marwolaethau babanod yn uwch na’r cyfartaledd ymysg grwpiau Duon Caribïaidd a Phacistanaidd, ac mewn cymhariaeth, yn is na’r cyfartaledd ymysg grwpiau Bangladeshaidd.
Gall rhai grwpiau fod yn arbennig o ymatebol i fathau penodol o risgiau i fywyd. Mae babanod ac oedolion ifanc fwyaf tebygol o unrhyw grŵp oedran i ddioddef llofruddiaeth neu ddynladdiad. Mae rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu fod pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) a thrawsrywiol yn fwy tebygol na’r cyfartaledd i geisio cyflawni hunanladdiad neu i hunan-niweidio. Mae pobl gyda chyflyrau iechyd meddwl yn fwy tebygol na’r rhai heb i farw yn ystod neu’n dilyn cael eu cadw yn y ddalfa gan yr heddlu.
Mae gwahaniaethau mewn disgwyliad oes rhwng gwahanol rannau o Brydain. Mae disgwyliad oes yn yr Alban yn amrywio o 3 blynedd yn is na Lloegr a 2 flynedd yn is na Chymru. Ar y cyfan, mae mwy o bobl yn marw’n gynnar yn yr Alban nag unrhyw wlad Ewropeaidd orllewinol arall.
Yn olaf, mae yna wahaniaethau arwyddocaol mewn disgwyliad oes rhwng aelodau o wahanol grwpiau economaidd-gymdeithasol. Gall dynion yn y grŵp economaidd-gymdeithasol uchaf ddisgwyl byw oddeutu 7 mlynedd yn hirach na dynion yn y grwpiau is. I fenywod, mae’r bwlch cymharol yn debyg. Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu fod pobl o grwpiau economaidd-gymdeithasol is yn fwy tueddol o wynebu risgiau i fywyd megis cancrau yn gysylltiedig ag ysmygu a hunanladdiad.
Mae disgwyliad oes dynion yn dal i fod yn is na menywod, er bod hyn yn newid, a gall y rhai mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch ddisgwyl byw’n hirach. Oherwydd y bwlch rhywedd mewn disgwyliad oes, mae grŵp o bobl hŷn sy’n bennaf fenywaidd yn codi. Yn rhannol o ganlyniad, mae disgwyl i fenywod brofi mwy o flynyddoedd o afiechyd.
Mae cyfraddau marwoldeb babanod yn uwch ymysg rhai grwpiau ethnig nag eraill.
Mae rhai grwpiau yn fwy tebygol o fod yn ddioddefwyr dynladdiad nag eraill, yn arbennig pobl dduon a babanod dan 1.
Er bod cyfran uchel o ddioddefwyr dynladdiad yn ddynion, mae menywod yn fwy tebygol na dynion o gael eu lladd gan bartneriaid, cyn bartneriaid, neu aelodau o’r teulu.
Gellir priodoli nifer fawr o droseddau dynladdiad i gasineb yn seiliedig ar hunaniaeth.
Mae hunanladdiad wedi gostwng ar y cyfan, ond mae wedi ei ganolbwyntio ymysg grwpiau penodol. Mae cyfraddau hunanladdiad yn parhau i fod yn uchel ymysg dynion ifanc. Awgryma astudiaethau ar raddfa fechan y gallai hunan-niweidio a hunanladdiad fod yn gymharol uchel ymysg rhai grwpiau, yn cynnwys y rhai sy'n ofalwyr, pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.
Mae’r cefndir o gamdriniaeth, caethineb i gyffuriau a salwch meddyliol nifer sy’n mynd i sefydliadau megis carchardai wedi arwain at risg cynyddol o hunan-niweidio a marwolaethau hunanachosedig mewn cyd-destunau o’r fath.
Ymddengys fod cyfraddau damweiniau yn lleihau gydag amser, ond mae rhai grwpiau yn fwy tebygol o fod yn gysylltiedig â damweiniau nag eraill.
Mae daearyddiaeth yn chwarae rôl bwysig mewn disgwyliad oes a’r tebygolrwydd o gyflawni hunanladdiad. Mae gan yr Alban yn arbennig ganlyniadau gwael iawn.
1 Hicks, J., ac Allen, G., 1999. A Century of Change: Trends in UK statistics since 1900. Papur Ymchwil Tŷ’r Cyffredin. Ar gael o: http://www.parliament.uk/documents/commons/lib/research/rp99/rp99-111.pdf Gwelwyd ddiwethaf 25/08/2010