Bydd y 15 her a nodwyd gennym trwy’r broses hon yn hysbysu ein hystyriaeth o raglen waith a blaenoriaethau strategol y Comisiwn yn y dyfodol. Fodd bynnag, nid ydym yn ceisio argymell datrysiadau polisi yma, ac yn cydnabod nad yw’r atebion yn nwylo uniongyrchol y Comisiwn yn gan amlaf. Bydd cynnydd yn ddibynnol ar ddewisiadau nifer o wahanol actorion. Felly rydym yn gofyn i’r heriau hyn fod yn ganolbwynt sylw'r llywodraeth a chymdeithas ddinesig yn gyffredinol yn y misoedd a blynyddoedd i ddod.
Credwn y bydd sicrhau cynnydd ar bob un o’r heriau hyn yn gwneud cyfraniad grymus i fywydau unigolion, eu teuluoedd, i economi’r wlad yn gyffredinol, ac i gysylltiadau da rhwng pobl o wahanol gefndiroedd.
Yn 2013, mae disgwyl i’r Comisiwn gyflawni ei Arolwg Teirblwydd nesaf. Bydd y data o’r ymarfer yn ein helpu i fesur llwyddiant, neu fethiant, cymdeithas o ran delio â’r heriau arwyddocaol a nodwyd yma; ac i ba raddau yr ydym, wrth i’n heconomi a demograffeg newid, yn parhau i symud tuag at fod yn gymdeithas sy’n trin pawb â thegwch, urddas a pharch.
Dylai testun llawn yr Arolwg Teirblwydd gael ei gyflwyno gerbron y senedd gan y Llywodraeth. Yn fuan wedyn bydd copïau o’r adroddiad, ei atodiadau a phapurau ategol, ar gael trwy wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn www.equalityhumanrights.com.