Grym a llais

Mae democratiaeth yn seiliedig ar y syniad y dylai pob unigolyn, waeth beth yw eu cefndir neu amgylchiadau personol, gael cyfle cyfartal i ddweud eu barn ar benderfyniadau am ddyfodol y wlad.

Yn ymarferol, mae rhai grwpiau yn llai tebygol nag eraill i arfer eu hawl democrataidd i bleidleisio; yn llai tebygol o gael eu hethol; yn llai tebygol o deimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau yn eu hardal leol; ac yn llai tebygol o gymryd rhan mewn mathau eraill o weithgaredd gwleidyddol neu ddinesig.

Mae menywod ychydig yn fwy tebygol o bleidleisio na dynion, ond er gwaethaf rhywfaint o gynnydd tuag at gydraddoldeb, mae'r gyfran o fenywod sy’n cael eu hethol i San Steffan yn parhau i fod yn llai na 25%. Mae Senedd yr Alban a Chynulliad Cymru yn agosach at gydraddoldeb rhywedd, ond yn y tair gwlad mae cynghorwyr lleol hefyd yn wrywaidd yn bennaf.

Yn Senedd San Steffan, er gwaethaf rhywfaint o dystiolaeth o gynnydd, mae’r rhan fwyaf o leiafrifoedd crefyddol ac ethnig yn dal wedi eu tangynrychioli. Fodd bynnag, mae pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD), a rhai o leiafrifoedd ethnig a chrefyddol, yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn mathau eraill o weithgaredd gwleidyddol neu ddinesig ac yn fwy tebygol o deimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau lleol.

Mae pobl ag anabledd neu salwch cyfyngol hirdymor yn llai tebygol na’r rhai heb i ddweud y gallant ddylanwadau ar benderfyniadau lleol yn gyffredinol, ac fe gyflwynodd y rhan fwyaf o orsafoedd pleidleisio yn yr etholiad diwethaf o leiaf un rhwystr arwyddocaol i fynediad.

Mae pobl ifanc yn llai tebygol o bleidleisio na phobl hŷn. Maent hefyd yn llai tebygol o gal eu hethol i swydd. Mae cyfartaledd oed cynghorwyr, ac ASau, wedi cynyddu rhyw ychydig yn y blynyddoedd diwethaf.

Yn olaf, mae cefndir economaidd-gymdeithasol pobl yn effeithio ar eu teimlad o rym a llais. Mae gweithwyr proffesiynol yn fwy tebygol o bleidleisio, yn fwy tebygol o fod mewn swydd etholedig, ac yn fwy tebygol o deimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau lleol na phobl o grwpiau galwedigaethol is.

Casgliadau arwyddocaol a data pennawd

Menywod, lleiafrifoedd ethnig a phobl ifanc

Casgliadau arwyddocaol

Er gwaethaf gwelliannau diweddar, mae menywod a lleiafrifoedd ethnig yn parhau i fod wedi eu tangynrychioli yn y Senedd ac mewn sefydliadau gwleidyddol eraill. Mae pobl ifanc yn arddangos lefelau dirywiol o weithgaredd gwleidyddol ac ymgysylltiad â chyrff penderfynu.

Data pennawd

Data: Mae lleiafrif o oedolion dan 25 oed bellach yn pleidleisio mewn etholiadau cyffredinol a datganoledig, ac mae’r gyfran yn gostwng, gyda 50% o bobl 18 i 24 oed yn pleidleisio yn etholiad cyffredinol 2005.
 

Ymlymiad a dehongliadau o ddylanwad

Casgliadau arwyddocaol

Ar y cyfan, gostyngodd hyder mewn gallu i ddylanwadu ar wneud penderfyniadau lleol yn 2001, ac mae wedi codi a gostwng ers hynny.

Mae lefelau o ymlyniad a dehongliadau o ddylanwad yn amrywio yn ôl grŵp ethnig a dosbarth cymdeithasol.

Data pennawd

  • Mae aelodau lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol na phobl Gwyn o ddweud eu bod yn cymryd rhan mewn penderfyniadau lleol, ymgyrchu neu sefydliadau cymunedol, megis y rhai sy’n darparu gwasanaethau i bobl ifanc. Maent hefyd yn fwy tebygol o ddweud fod ganddynt ddylanwad dros benderfyniadau lleol.
  • Mae pobl mewn swyddi proffesiynol neu reoli yn fwy tebygol o deimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau lleol na phobl mewn swyddi rheolaidd.

Cynrychiolaeth seneddol

Casgliadau arwyddocaol

Mae cynrychiolaeth seneddol o wahanol grwpiau yn parhau i fod yn amrywiol. Fodd bynnag, mae yna fwy o amrywiaeth rhywedd yn Senedd yr Alban a Chynulliad Cymru nag yn Senedd y Deyrnas Unedig.

Data pennawd

  • Mae’r gyfran o ASau dros 50 oed wedi codi ers 1997.
  • Mae lleiafrifoedd crefyddol ac ethnig yn dal i fod wedi eu tangynrychioli yn y Senedd, er i’r nifer o ASau o leiafrifoedd ethnig ddyblu yn etholiad 2010. Fe ddyblodd y nifer o ASau Mwslimaidd yn 2010, gyda’r tair AS Mwslimaidd benywaidd cyntaf yn ennill seddi.
  • Fe gynyddodd y nifer o ASau LHD agored yn San Steffan o 13 yn 2009 i 17 yn 2010.
  • Fe gododd cynrychiolaeth menywod yn San Steffan yn arwyddocaol yn 1997 ac mae wedi parhau i godi ers hynny, ond mae’n dal i fod yn is na 25%.
  • Mae Holyrood a Chaerdydd wedi cyflawni lefelau uwch o gynrychiolaeth i fenywod nag y cafwyd erioed yn San Steffan (mae 35% o Aelodau Senedd yr Alban a 48% o Aelodau Cynulliad Cymru yn fenywod ar hyn o bryd).

Cynrychiolaeth wleidyddol ar lefel leol

Casgliadau arwyddocaol

Ar lefel leol, cafwyd mwy o lwyddiant o ran cyflawni cynrychiolaeth wleidyddol amrywiol nag yn San Steffan. Mae gwleidyddion awdurdodau lleol yn debycach i boblogaeth Prydain, er yn bell o fod yn llwyr.

Data pennawd

  • Mae 3 o bob 10 cynghorydd yn Lloegr yn fenywod; a 2 o bob 10 cynghorydd yn yr Alban a Chymru yn fenywod.

 

Ymgyrchu

Casgliadau arwyddocaol

Mae rhai o’r grwpiau a dangynrychiolir mewn gwleidyddiaeth ffurfiol yn fwy gweithgar o ran ymgyrchu ac ymwneud â chyrff gwneud penderfyniadau.

Data pennawd

  • Mae pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn fwy tebygol i ymwneud â gweithgaredd dinesig neu wleidyddol anffurfiol.


 

back to top