Yn gyntaf, dylai cymdeithas geisio dileu effaith cefndir economaidd-gymdeithasol ar iechyd a disgwyliad oes.
Mae’n her sylweddol i:
-
Gau’r bwlch iechyd a disgwyliad oes rhwng y mwyaf cyfoethog a’r grwpiau economaidd-gymdeithasol isaf.
Gall dynion a menywod yn y grŵp economaidd-gymdeithasol uchaf ddisgwyl byw hyd at 7 mlynedd yn hirach na’r grwpiau economaidd-gymdeithasol is (yn seiliedig ar ddisgwyliad oes ar enedigaeth). Mae’r gwahaniaeth cyffredinol hwn yn gysylltiedig â phrofiad oes o anfanteision ac anghydraddoldeb iechyd eraill. Byddai delio â’r gwahaniaethau hyn nid yn unig yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau unigolion, ond byddai hefyd yn lleihau costau i bwrs y wlad o ran cynhyrchedd a gollir a galwadau ar wasanaethau’r GIG.
-
Cau’r bwlch rhwng grwpiau ethnig mewn marwolaethau babanod.
Mae marwolaethau babanod yn ffenomenon brin, sy’n effeithio ar ffracsiwn o ganran o blant a enir pob blwyddyn. Fodd bynnag, y gwirionedd trist yw ei fod yn effeithio ar bobl o rai cefndiroedd yn amlach nag eraill: mae babanod Pacistanaidd a Charibïaidd Du ddwywaith yn fwy tebygol o farw yn eu blwyddyn gyntaf na babanod Gwyn Prydeinig neu Fangladeshaidd. Ni all cymdeithas sydd wedi ymroi i gydraddoldeb fod yn ddifater yn wyneb gwahaniaeth o’r fath, ac fe ystyriwn ei fod yn her sylweddol i ddeall ei achosion ac i’w gau.
Mynd i'r her nesaf