2. Cyfle i ddysgu a sylweddoli talentau

 

Yn ail, dylai cymdeithas geisio sicrhau fod gan bob unigolyn y cyfle i ddysgu a sylweddoli eu talentau i’r llawn.

Mae’n her sylweddol i:

• Gau’r bwlch perfformiad mewn addysg rhwng bechgyn a merched.

Mae diffygion cyson perfformiad addysg bechgyn i’r gwrthwyneb o’r sefyllfa yn ystod y rhan fwyaf o’r cyfnod wedi’r rhyfel. Gyda thystiolaeth yn awgrymu y bydd sgiliau yn gynyddol bwysig i lwyddiant economaidd y Deyrnas Unedig mewn blynyddoedd i ddod, efallai na fydd gwir gostau methu darparu bechgyn a dynion ifanc â chymwysterau da yn dod i’r amlwg am genhedlaeth arall.

• Lleihau’r lefel o wahaniaethu ethnig a rhywedd mewn addysg.

Mae merched a menywod yn dueddol o fod wedi eu tangynrychioli mewn rhai cyrsiau astudio (megis peirianneg a gwyddor ffisegol) sy’n arwain at swyddi â thâl cymharol dda. Yn y cyfamser, er bod myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig yn cymryd rhan gynyddol yn y system addysg uwch nag ar unrhyw adeg o’r blaen, mae rhai grwpiau ethnig yn llawer llai tebygol na’r cyfartaledd i sicrhau lle mewn sefydliadau hŷn a mwy mawreddog. Os yw’r ffactorau sy’n achosi mathau o wahaniaethu addysgiadol yn bennaf i wneud ag ystrydebau mympwyol; os yw merched ifanc â thalent wyddonol yn cefnu ar ffiseg am ei fod yn “bwnc i fechgyn”, ac os yw myfyrwyr galluog o leiafrifoedd ethnig yn dewis peidio ymgeisio ar gyfer prifysgolion Grŵp Russell am eu bod yn ofni na fydd eu hwyneb yn ffitio i mewn, yna mae hyn yn cyfyngu ar dalent, ac yn wastraff o gyfle.

• Cau’r bwlch cymwysterau ar gyfer pobl anabl.

Ymysg oedolion o oed gwaith, mae’r rhai gydag anabledd tua hanner gwaith mor debygol o fod â chymwysterau lefel gradd na’r rhai heb, ac mae cymwysterau is yn amharu’n uniongyrchol ar ragolygon cyflogaeth. Awgryma’r dystiolaeth fod pobl ifanc ag anabledd heddiw yn dal yn sylweddol llai tebygol na’u cyfoedion i sicrhau graddau TGAU da ac i fynd ymlaen i addysg uwch. Mae hefyd yn awgrymu eu bod yn fwy tebygol o wynebu rhwystrau i ddysgu, megis bwlio, na myfyrwyr eraill. Felly, mae angen gweithredu heddiw i roi mwy o gyfle i bobl anabl ddatblygu sgiliau allai greu gwell cyfleoedd iddynt gael swydd yn hwyrach yn eu bywydau, ac a allai yn ei dro gynnig rhagolygon o incwm uwch, mwy o gysylltiadau cymdeithasol a mwy o annibyniaeth.

• Lleihau’r gwahaniaethau mewn perfformiad addysgiadol yn ôl cefndir economaidd-gymdeithasol.

Yn 5 oed, cyflawnodd 35% o fyfyrwyr a wyddid i fod yn gymwys am ginio ysgol am ddim lefel dda o ddatblygiad, o gymharu â 55% o fyfyrwyr nad oeddynt yn gymwys am ginio ysgol am ddim. Felly mae myfyrwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn llai tebygol o gael graddau TGAU da, ac yn llai tebygol o fynd ymlaen i addysg uwch. Mewn geiriau eraill, maent yn cychwyn yn y system addysg dan anfantais a byth yn dal i fyny. Mae’n anochel y bydd methiant i wneud y defnydd gorau posibl o'r sgiliau sydd ar gael yn y wlad trwy ddyrannu cyfleoedd yn ôl (yng ngeiriau adroddiad diweddar ar fynediad at broffesiynau )1 “genedigaeth nid gwerth” yn llesteirio perfformiad economaidd.

Mynd i'r her nesaf


1. Cabinet Office, 2009: "Unleashing Aspiration: The Final Report of the Panel on Fair Access to the Professions", London: Cabinet Office.

back to top