Heriau arwyddocaol

"Dylai bod gan bob unigolyn gyfle cyfartal i wneud y gorau o’i ddoniau, galluoedd ac ymdrechion; ac ni ddylai bod gan neb gyfleoedd bywyd salach o ganlyniad i ble, beth ac i bwy y cawsant eu geni"

 

Er gwaethaf y blychau hyn, mae penodau tystiolaeth yr Arolwg yn cynnig nifer o fewnwelediadau. Maent yn datgelu sawl achos o annhegwch a deilliannau anghyfartal. Fodd bynnag, nid yw pob un o’r anghydraddoldebau hyn yr un mor arwyddocaol neu bwysig.

Yn hytrach na chyfeirio’r adnoddau cyfyngedig yn ddiwahân, credwn ei bod yn bwysig fod cymdeithas yn gyffredinol, a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn benodol, yn canolbwyntio ei egni ac ymdrechion ar daclo’r anghydraddoldebau ac anfanteision mwyaf enbyd. Felly rydym wedi cyflawni dadansoddiad syml pellach i nodi pa rai, o’r holl wahanol heriau ac anghydraddoldebau mewn cymdeithas fodern, yw’r mwyaf arwyddocaol ac sydd fwyaf angen eu datrys.

Yn ei hanfod, rydym wedi ystyried pob un o’r enghreifftiau o ddeilliannau anghyfartal a ddatgelwyd gan yr Arolwg a gofyn y cwestiynau canlynol:

• A yw’r bwlch cydraddoldeb hwn yn cyflwyno risg i hawliau dynol sylfaenol?

• A yw’n deillio o ffactorau cymdeithasol, diwylliannol neu economaidd yn hytrach na gwahaniaeth dynol cynhenid?

• A yw’n effeithio ar nifer o bobl – ac a yw’n amharu ar gyfleoedd bywyd pobl?

• A yw’r broblem yn barhaus neu’n gwaethygu, ac a yw angen ymyrraeth gan y cyhoedd i atal ei ddirywiad?

• A yw er lles y cyhoedd i leihau’r gosb cydraddoldeb – (a yw’r mater yn un pitw? A allai fod yn amhosibl i’w ddatrys? A oes angen gweithredu ar unwaith i atal costau cymdeithasol neu economaidd yn hwyrach?)


Trwy’r broses hon rydym wedi nodi 15 her arwyddocaol. Maent wedi eu grwpio dan 5 amcan sylweddol sy’n datgan yr hyn a gredwn i fod yn werthoedd sylfaenol yn ein cymdeithas: y dylai pob unigolyn fod â chyfle cyfartal i wneud y gorau o’u medrau, galluoedd ac ymdrechion; ac na ddylai neb fod â chyfleoedd gwaeth mewn bwyd oherwydd ble, beth neu pwy y’u ganed.

Ble fo’r heriau yn newydd mewn rhyw fodd, neu’n codi o ganlyniad i newid cymdeithasol, economaidd neu ddemograffig, rydym yn amlygu hyn yn y testun isod. Mae’r ffaith fod yr heriau a wynebwn yn newid yn gyson yn ategu pwysigrwydd arolygu cynnydd gydag amser.

Yn sicr, nid yw hyn yn golygu na ddylid gweithredu ar unrhyw faterion eraill nad ydynt wedi eu cynnwys yn yr heriau hyn. Nac ychwaith ddylid deall fod yr heriau hyn yn disgrifio neu’n ffurfio blaenoriaethau strategol y Comisiwn ei hun.

Gallai rhai materion fod yn arbennig o agored i'n gweithredu rheoleiddiol; ond dim ond gyda gweithredu gan reolyddion eraill, cyflogwyr, darparwyr gwasanaeth neu lywodraeth yr effeithir ar eraill.

Bydd gan bawb ran i’w chwarae wrth ddelio â’r problemau; ond rydym yn ei ystyried i fod yn rhan o rôl y Comisiwn i gynnig rhyw awgrym o ble dylid targedu adnoddau ac egni cyfunol cymdeithas.

Dilynwch y dolenni isod i’r heriau arwyddocaol a nodwyd gan yr Arolwg.

 

back to top