Mae iechyd da nid yn unig yn ased, mae hefyd yn galluogi pobl i sicrhau cynnydd yn eu gyrfa, gofalu am eu teuluoedd, a dilyn diddordebau eraill i’r llawn. Mae nifer o Brydeinwyr yn meddwl fod eu hiechyd yn ‘dda’ neu’n ‘dda iawn’. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn hyderus pan fyddwn angen cymorth y bydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ein trin â pharch ac urddas.
Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth yn awgrymu fod yna rhai grwpiau o bobl sy’n fwy tebygol na’r cyfartaledd i brofi iechyd ‘wael’, a bod rhai sy’n ei chael yn anodd cael mynediad at ofal a chefnogaeth sy’n bodloni eu hanghenion penodol.
Er bod gwahaniaethau amlwg yn anghenion iechyd dynion a menywod, nid yw’r dystiolaeth yn awgrymu tuedd pendant o’r naill ryw yn profi iechyd gwaith na’r llall. Fe all y ddau ryw ganfod nad yw eu hanghenion iechyd yn cael eu bodloni: mae dynion yn llai tebygol o ddefnyddio eu meddyg teulu; menywod yn fwy tebygol o fod â phryderon ynglŷn â gwasanaethau mamolaeth. Mae gan y ddau ryw hanes amrywiol o ran gofalu am iechyd. Mae dynion yn fwy tebygol o wneud ymarfer corff ond yn llai tebygol o fwyta’r ffrwythau a llysiau a argymhellir, a menywod fel arall.
Mae’n hanghenion iechyd yn newid wrth i ni heneiddio. Mae’r achosion o anabledd yn codi gydag oed ac mae gan bobl hŷn (dros 65 oed) hefyd gyfradd uwch o iselder na phobl iau. Mae yna dystiolaeth i awgrymu fod y gwasanaeth iechyd weithiau’n delio â rhai pobl hŷn mewn modd sy’n codi cywilydd neu’n peri trallod iddynt.
Ar y cyfan, mae tua 1 o bob 5 ohonom yn adrodd anabledd neu salwch hirdymor cyfyngol. Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu fod pobl sy’n adrodd anabledd neu salwch hirdymor cyfyngol yr un mor debygol â’r cyfartaledd i ddweud fod y gwasanaethau iechyd yn eu trin ag urddas a pharch.
O ran ethnigrwydd, mae tystiolaeth yn awgrymu fod grwpiau Pacistanaidd a Bangladeshaidd yn fwy tebygol o adrodd iechyd ‘wael’ na'r cyfartaledd. Mae’r grwpiau hyn yn fwy tebygol o brofi iechyd meddyliol gwael, yn fwy tebygol o adrodd anabledd neu salwch hirdymor cyfyngol, ac yn fwy tebygol o gael anhawster wrth geisio mynediad at a chyfathrebu â'u meddygon teulu na grwpiau eraill. Ymysg y grwpiau a ddiffinnir gan grefydd, mae pobl Fwslimaidd yn dueddol o adrodd iechyd gwaeth na’r cyfartaledd. Nid yw’n amlwg faint mae’r canlyniadau gwaeth na’r cyfartaledd hyn yn berthnasol i safle economaidd-gymdeithasol wael pobl Pacistanaidd, Bangladeshaidd a Mwslimaidd.
Mae ymchwil wedi awgrymu y gall fod cyswllt rhwng aflonyddu a phroblemau iechyd meddwl. Mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu fod pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) a thrawsrywiol, Sipsiwn a Theithwyr a cheiswyr lloches, sydd o bosibl yn fwy tebygol na grwpiau eraill i wynebu gelyniaeth a chamddealltwriaeth, oll yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl.
Weithiau, gall y grwpiau hyn deimlo nad yw’r gwasanaethau iechyd eu hunain yn eu deall. Nid yw rhai pobl drawsrywiol yn teimlo fod eu meddyg yn cefnogi eu penderfyniad i geisio ailbennu rhywedd, ac mae rhai Sipsiwn a Theithwyr yn ei chael yn anodd cofrestru gyda meddyg teulu.
Yn olaf, mae yna gysylltiad cryf rhwng statws economaidd-gymdeithasol isel a diffyg iechyd: yng Nghymru a Lloegr, y rhai sydd erioed wedi gweithio neu sy’n hirdymor ddi-waith sydd â’r cyfraddau uchaf o iechyd ‘wael’ a hunan adroddwyd; mae pobl mewn galwedigaethau rheolaidd ddwywaith mwy tebygol o ddweud fod eu hiechyd yn “wael” na phobl mewn galwedigaethau rheolwyr uwch a galwedigaethau proffesiynol; ac mae pobl o grwpiau economaidd-gymdeithasol is yn fwy tebygol o fod â diet gwael ac yn llai tebygol o wneud ymarfer corff rheolaidd.
Mae daearyddiaeth yn bwysig, fel y mae amgylchiadau economaidd-gymdeithasol – mae cysylltiad agos iawn rhwng niferoedd afiechyd ac amddifadedd ardal, yn arbennig ymysg y rhai dan 65 oed.
Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn pwyntio at ddeilliannau iechyd gwaeth i nifer o grwpiau cydraddoldeb, a esbonnir yn rhannol ond nid yn llwyr gan amgylchiadau economaidd-gymdeithasol cyffredinol waeth. Mae hyn hefyd yn cynnwys cyfraddau marwoldeb uwch o gyflyrau iechyd penodol.
Ymddengys fod gan rai grwpiau lleiafrifoedd ethnig iechyd hunan adroddedig cyffredinol waeth na’r mwyafrif o Wynion Prydeinig, yn arbennig pobl Bangladeshaidd a Phacistanaidd. Mae’r gwahaniaethau iechyd hyn yn parhau hyd yn oed wrth ystyried amgylchiadau economaidd-gymdeithasol.
Dengys grwpiau sy’n agored i ofidion megis tlodi ac erledigaeth gyfraddau uchel o salwch meddyliol. Mae’r risg o gael sgorau iechyd meddwl gwael yn uwch ar gyfer grwpiau ethnig penodol gyda chyfraddau tlodi uchel.
Mae’r nifer o bobl o iechyd arferol neu iach yn lleihau ac mae gordewdra yn cynyddu. Dim ond tua 30-40% o ddynion a menywod ym Mhrydain sydd o bwysau arferol neu iach.