Un ffordd yn unig yw’r Alwad am Dystiolaeth hon i geisio mewnbwn oddi ar ein rhanddeiliaid.
Os ydych yn gweithio i neu’n cynrychioli unrhyw un o’n ‘grwpiau a warchodir’ h.y. rhyw, ethnigrwydd, oedran, anabledd, crefydd a chred a chyfeiriadedd rhywiol; neu mae gennych ddiddordeb cyffredinol ym maes anghydraddoldeb, cysylltiadau da a hawliau dynol a’r rhyngweithiadau rhyngddynt, yna hoffem glywed oddi wrthych.
Rydym eisiau gwybod sut deimlad yw e i ddioddef gwahaniaethu a sut mae’n effeithio ar fywydau pobl. Dyma’r math o dystiolaeth – enghreifftiau a darluniau gwirioneddol o fywyd – hoffem ei dderbyn o’r ‘alwad gyntaf hon am dystiolaeth’.
Rydym wedi ysgrifennu rhai brawddegau y byddwch hwyrach am eu defnyddio i’ch cynorthwyo i’n darparu ni gyda’r wybodaeth rydym ei hangen. Gallwch roi adborth i ni mewn nifer o ffyrdd:
• ateb ar lein
• lawr lwytho’r cwestiynau ac e-bostio neu bostio’ch atebion yn ôl atom
• Siaradwch â ni ar y ffôn
• Dewch i gwrdd â ni i drafod y materion.
Gallwch e-bostio’ch atebion i triennialreview@equalityhumanrights.com .
Yn amgenach, gallwch bostio’ch atebion i'r:
Foresight team, 3 More London, Riverside Tooley Street, London, SE1 2RG
Hefyd gallwch ein ffonio i drefnu cyfweliad ar y ffôn neu gyfarfod i siarad am y materion. Ffoniwch ein derbynfa yn Llundain ar 020 3117 0235 i siarad ag aelod o’r tîm Adolygiad Teirblwydd.
Dewch i gyfarfod â ni i drafod y materion:
• 17 Tachwedd 10am - 2pm (Llundain)
• 25 Tachwedd 12pm - 4pm (Manceinion)
• 1 Rhagfyr 10am-3pm (Manceinion)
• 14 Ionawr 1pm - 5pm (Lundain)
E-bostiwch ni ar triennialreview@equalityhumanrights.com i neilltuo lle ar unrhyw adeg rhwng yr amserau uchod.
Byddwn yn defnyddio’r adborth o’r proses hwn i ddeall yn well pwy sy’n dioddef y gwahaniaethu mwyaf difrifol, y toriadau mwyaf arwyddocaol o hawliau dynol a’r perthnasau mwyaf negyddol ag unigolion a grwpiau arall. Bydd ein dadansoddiad yn canolbwyntio ar ein grwpiau maes a warchodir - rhyw, ethnigrwydd, oedran, anabledd, crefydd a chred a chyfeiriadedd rhywiol.
Hefyd byddwn yn cynnig cyfle i’n rhanddeiliaid i roi sylwadau ar ein dadansoddiad a’n casgliadau, yn gynnar yn y flwyddyn newydd.