Creu Prydain Decach
Nod y Comisiwn yw lleihau’r bwlch grym, cynhwysiant ac integreiddio a chryfhau cysylltiadau da drwy feithrin dealltwriaeth well rhwng cymunedau.
Mae ymchwil newydd gan y Comisiwn wedi canfod fod diogelwch yn hawl sy’n cael ei gwrthod yn aml i lawer o bobl anabl ym Mhrydain. Gall trais a gelyniaeth fod yn brofiad beunyddiol – cymaint felly fel bod llawer o bobl anabl yn dechrau ei dderbyn fel rhan o fywyd pob dydd. Mae angen dirfawr am strategaeth ataliol i ddileu agweddau ac ymddygiad o’r fath cyn iddynt gael cyfle i ymsefydlu. Hefyd, mae angen i ni fynd i’r afael â ffactorau daearyddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach a nodwyd yn ein hymchwil sy’n gallu golygu mwy o berygl i bobl anabl ac eraill.
Mae cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn rhan ganolog o fywyd Prydain yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae rhai awdurdodau lleol blaengar wedi arloesi gyda ffyrdd o ddiwallu anghenion y grwpiau crwydrol hyn i gynnal eu ffyrdd traddodiadol o fyw, a sicrhau eu bod yn derbyn gwasanaethau iechyd ac addysg a chynnal cysylltiadau da â chymunedau eraill yr un pryd. Darllenwch fwy am atebion syml ar gyfer cyd-fyw.
Mae tîm y Comisiwn yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr yn gweithio i gefnogi gwaith cenedlaethol y Comisiwn i helpu i feithrin cysylltiadau da. Mae hyn yn cynnwys canolbwyntio ar gefnogi rhanddeiliaid rhanbarthol sy’n ceisio mynd i’r afael â throseddau casineb yn eu hardaloedd.
Fel man cychwyn i’r gwaith, cynhaliodd y tîm arolwg i ganfod sut mae heddluoedd y rhanbarth, Partneriaethau Gostwng Troseddau ac Anhrefn ac awdurdodau lleol yn gweithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael ag achosion o gasineb yn ymwneud ag anabledd, homoffobia, hiliaeth, crefydd neu drawsffobia. Mae Tackling Hate Together yn crynhoi prif ganfyddiadau’r arolwg.
Cefnogodd y Comisiwn WALKTALK sef menter genedlaethol a lansiwyd yn Leeds ar ddydd Sadwrn 19 Gorffennaf 2008 ac a ddaeth i ben yng nghanol Llundain ar ddydd Sul 17 Awst. Gill Hicks, a oroesodd fomiau Llundain ar 7 Gorffennaf 2005 a’i gŵr, Joe Kerr, gafodd y syniad yn wreiddiol, ac fe’i datblygwyd ar y cyd â Zulfi Hussain o fudiad Global Promise a thîm Together for Peace yn Leeds.
Drwy ryddhau Calibrating Migration for a Global World, cyhoeddodd y Comisiwn adroddiad sy’n datgan fod mewnfudo’n fanteisiol i raddau helaeth i economi’r DU gydag ychydig iawn o effaith negyddol ar y farchnad lafur, os o gwbl.