Mae’r Comisiwn wedi bod yn gweithio gyda Swyddfa Cydraddoldeb y Llywodraeth (GEO), Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cynulliad Cymru, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ac amryw o randdeiliaid eraill ac arbenigwyr pwnc i ddatblygu fframwaith mesur y gellir ei ddefnyddio i asesu cydraddoldeb a hawliau dynol mewn ystod o feysydd perthnasol i fywyd yr unfed ganrif ar hugain.
Mae’r meysydd hyn yn canolbwyntio’n uniongyrchol ar y pethau pwysig mewn bywyd – yr hyn y mae pobl yn ei ddweud sy’n bwysig iddynt fod a gwneud. Mae’r fframwaith yn monitro’r pethau canolog a gwerthfawr y mae pobl yn eu cyflawni go iawn yn eu bywydau – fel mwynhau safon byw digonol, bod yn iach, cael cyfleoedd addysg a hyfforddiant da, diogelwch cyfreithiol, a bod yn rhydd o drosedd ac ofn trosedd. Mae’n ymwneud yn arbennig â sefyllfa unigolion a grwpiau mewn perthynas â phriodoleddau fel oedran, anabledd, ethnigrwydd, rhyw, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, trawsrywedd a dosbarth cymdeithasol.
Mae’n bwysig nodi ar y cychwyn nad fframwaith ar gyfer mesur perfformiad yw’r Fframwaith Mesur Cydraddoldeb (EMF). Yn hytrach, mae’n cynnig sylfaen o dystiolaeth ar gyfer gwerthuso cynnydd a phenderfynu ar flaenoriaethau. Bydd y fframwaith yn galluogi’r Comisiwn i gyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol i fonitro canlyniadau cymdeithasol dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006. Bydd hefyd yn darparu data a allai helpu’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill i flaenoriaethu eu gweithgareddau er mwyn cyflawni dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Wrth i ddata gael ei gasglu i lenwi’r fframwaith, bwriedir datblygu dull ar y we i wneud y data’n hygyrch ac yn ddefnyddiol i bob grŵp ac unigolyn sydd â diddordeb mewn hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain.
Datblygwyd yr EMF yn sgil gwaith ymgynghori eang dros y tair blynedd diwethaf a bydd yn cyfrannu at sicrhau bod systemau priodol ar gyfer monitro ystadegol yn cael eu datblygu a’u diogelu ymhellach.
Lawrlwythwch y Fframwaith Mesur Cydraddoldeb
Oherwydd ei faint, mae’r EMF ar gael mewn ffeiliau unigol ar ffurf PDF, a gellir eu lawrlwytho a’u darllen yn unigol. Dim ond yn Saesneg mae’r ffeiliau hyn ar gael.